Cwmni hufen iâ o Gymru yn addo newid pecynnau wedi cwynion

  • Cyhoeddwyd
Hufen iâFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cwmni hufen iâ o Sir Benfro wedi addo newid eu pecynnau sy'n cyfeirio at yr ardal fel "Little England beyond Wales".

Mae cwmni Upton Farm wedi defnyddio'r term, sydd wedi cael ei ddefnyddio i ddisgrifio rhannau o Sir Benfro yn ôl haneswyr, ar ei logo.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni bod y term yn disgrifio'u "treftadaeth" ac yn "dathlu eu daearyddiaeth a'u lle yn y byd".

Ond bydd y cwmni nawr yn cael gwared ar y frawddeg ac yn ei newid am neges sy'n "dathlu eu Cymreictod yn gliriach".

Ar ôl i luniau o'r logo gael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol, fe ymatebodd sawl un yn dweud y dylai'r term gael ei dynnu.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Annes Glynn

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Annes Glynn

Dywedodd Steve Thomas ar Twitter: "Fydda i'n sicr ddim yn prynu eu cynnyrch eto."

Ychwanegodd Philip James Lewis: "Cefais fy magu yng ngogledd Sir Benfro ac roeddwn i'n ymwybodol o oed ifanc bod de'r sir weithiau'n cael ei gyfeirio fel 'Little England beyond Wales'.

"Hyd yn oed fel plentyn bach dw i'n cofio teimlo'n anghyfforddus amdano a meddwl 'mae hyn yn anghywir'."

Mae'r term wedi ei ddisgrifio fel enw "rhyfedd" ar ran ddeheuol o Sir Benfro gan haneswyr, a ddatblygodd wedi i "Rufeiniaid, Llychlynwyr a Normaniaid ddod i'r ardal".

'Negeseuon cliriach'

Mae cwmni Upton Farm wedi bod yn cynhyrchu hufen ia yng Nghymru am fwy na 30 mlynedd.

Wrth ymateb i'r sylwadau ar-lein, dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "O fod yn rhan o fusnes cymunedol, rydym yn cydnabod pwysigrwydd deall a gwrando ar ein cwsmeriaid a gan fod ein defnydd o 'Little England' ar becynnau un o'n hufenau iâ wedi achosi gofid i rai heb yn wybod i ni, byddwn yn dileu'r cyfeiriad hwnnw o unrhyw becyn yn y dyfodol.

"Roedden ni'n credu ei fod yn ymadrodd sy'n disgrifio'n treftadaeth a'n helpu ni i ddangos balchder o fod yng nghalon Sir Benfro a'n bwriad oedd dathlu ein daearyddiaeth a'n lle yn y byd.

"Bydd y balchder hwnnw'n parhau wrth gwrs, ond gyda negeseuon sy'n dathlu ein Cymreictod yn gliriach. Mae'n ddrwg gennym i'r rhai sy'n teimlo eu bod wedi eu sarhau."

Pynciau cysylltiedig