Pride: Cymuned LHDTC+ 'dal yn brwydro i fodoli'
- Cyhoeddwyd
Mae dal angen mynd i'r afael â sawl her sy'n wynebu'r gymuned LHDTC+ er gwaetha'r ffaith bod digwyddiadau Pride yn fwy gweladwy ar draws y wlad, yn ôl Stonewall Cymru.
Bydd Casnewydd yn cynnal Pride in the Port am y tro cyntaf fis Medi, a bydd Pride Powys yn cael ei gynnal yn Llandrindod fis yma.
Ond mae angen gwell cynrychiolaeth ymhlith bobl ddu a chefndiroedd ethnig yn ystod digwyddiadau Pride, meddai rhai.
Mae BBC Cymru wedi bod yn clywed barn bobl o'r gymuned LHDTC+ i ddeall beth mae Pride yn golygu iddyn nhw.
Mae Alice Eklund yn gydymaith llenyddol Theatr y Sherman ac yn gyfarwyddwr llawrydd.
"Dwi'n fenyw sy'n ddeurywiol. Mae Pride yn golygu bod lle i bobl fel fi, sy'n trio gweld pwy ydyn nhw, i fod yn ddiogel i ddathlu ond hefyd dros y blynyddoedd ni dal yn brwydro i fodoli a mae Pride yn rhywle ni'n gallu dod at ein gilydd a theimlo fel cymuned."
"Mae lot o waith i'w wneud yn enwedig gyda bobl traws, pobl o liw - ni'n gorfod sicrhau bod 'na le iddyn nhw siarad a dathlu a teimlo'n ddiogel."
"Fel person hoyw fy hunan, dim ond dros y cwpl o flynyddoedd diwetha' fi wedi teimlo bod 'na le i fi fod yn Pride."
"Dwi mewn perthynas sy'n edrych fel perthynas heteronormative ond dyw e ddim, mae'r ddau ohono ni'n queer ac mae'r boundaries yna o bwy sy'n gallu dweud bo' nhw'n queer neu'n ddeurywiol neu'n hoyw - mae'n anodd weithiau."
"Mae lot o waith wedi ei wneud ond mae lot o waith eto i wneud er mwyn gwneud y lle yn fwy cynhwysol i'r gymuned."
'Dyna oedd y byd ro'n i'n byw ynddo'
Sefydlodd Berwyn Rowlands Wobr Iris 16 o flynyddoedd yn ôl. Mae'r ŵyl yn dathlu ffilmiau LHDTC+.
Mae angen sicrhau bod Pride yn cael ei ddathlu trwy gydol y flwyddyn, meddai.
"Pan o'n i'n dod allan yn yr 80au, mi oedd yn gyfnod anodd, ond doeddwn i ddim callach dyna oedd y byd roeddwn i'n byw ynddo fo."
"Roeddet ti'n mynd ar y radio, ar y telly ac yn rhannu llwyfan 'efo pobl, mewn gwirionedd, oedd ddim am i ti fodoli."
"Felly mi oedd cael rhywbeth fel Pride unwaith y flwyddyn, os oeddet ti'n ddigon dewr, yn rhywbeth pwysig."
"Mae Pride yn rhywbeth pwysig dwi'n ei garu ac yn ei gasáu weithiau. Yn yr un un ffordd dwi'n edrych ar yr Eisteddfod Genedlaethol."
"Dwi'n caru'r Eisteddfod Genedlaethol ond hefyd yn drist iawn pan wyt ti'n gadael ardal ac yn sylweddoli, fydd na ddim lot o Gymraeg ar ôl yn yr ardal ar ôl i'r Eisteddfod fynd ac yn sylweddoli dyw wythnos ddim yn ddigon a bod eisiau mwy."
Cyfle i gwmnïau adlewyrchu
"Mae hynny'n wir am Pride hefyd. Mae gen ti fis lle yn gorfforaethol, mae bron iawn bob cwmni sydd yn trio gwerthu rhywbeth eisiau profi bod nhw yn ffrindiau hefo pobl hoyw, lesbiaidd, deurywiol neu traws."
"Mae yna elfennau da... ond ychydig bach efallai fel Nadolig, lle bod yna ormod ohono fo weithiau."
"Mae yna lot o anrhegion o dan y goeden, lot o anrhegion dwyt ti ddim eu hangen ac wedyn beth sy'n digwydd am weddill y flwyddyn?"
"Mae Pride yn beth da yn sicr, mae'n gorfodi unigolion, sefydliadau cyhoeddus a busnesau preifat i ystyried, gobeithio yn ofalus, beth yw eu perthynas nhw gyda phobl hoyw, lesbiaidd, deurywiol a thraws."
Fe helpodd Rania sefydlu Glitter Cymru yn 2016 er mwyn creu lle ddiogel i bobl du ac o leiafrifoedd ethnig o fewn y gymuned LHDTC+.
Gobaith Rania yw y bydd digwyddiadau Pride y dyfodol yn gwneud mwy i'w cynrychioli nhw.
"Mae Pride yn golygu hanes, mae'n anrhydeddu'r bobl a ddaeth cyn ni yn y mudiad LHDT gan adeiladu'r ffordd i ni."
"I fi mae Pride yn golygu parhau â'r hanes hwnnw, tynnu sylw at yr heriau sy'n ein hwynebu a cheisio mynd i'r afael â nhw fel cymuned."
"Mewn ffordd mae Pride yn ymwneud â thynnu sylw at yr hyn sydd angen ei wneud o hyd, gydag ymgyrchwyr a phartneriaid yn y gymuned."
"Nawr ry'n ni'n wynebu mwy o sancsiynau a heriau yn enwedig i'n cymuned trawsryweddol a'n cymuned du a lleiafrifoedd ethnig."
"Sut mae creu lle diogel i bobl trawsryweddol o fewn Pride a phobl o ethnigrwydd amrywiol? Mae hyn yn allweddol i ni."
"Mae angen i ni fod yn ymwybodol nad yw materion sy'n amlwg ym Mhrydain yr un fath â rhannau eraill o Ewrop, America a gwledydd deheuol y byd."
'Ein gorfodi i'r ymylon'
"Yn 2019, fe gafodd y Pride cyntaf ar gyfer bobl ddu a lleiafrifoedd ethnig ei gynnal yng Nghymru gyda Glitter Cymru."
"Ry'n ni wedi bod yn ehangu bob blwyddyn ers hynny, ond dim ond tair blynedd yn ôl oedd hyn a dwi'n credu bod hyn yn dweud y cyfan."
"Rydym ni, pobl ddu hoyw, yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i'n llais, ein lle diogel o fewn Pride oherwydd ei fod mor wyn. Dy'n ni ddim yn gweld lle allwn ni ffitio mewn."
"Ry'n ni wedi ein gorfodi i'r ymylon ac nid yw'n lleisiau'n cael eu clywed gan brif ffrwd Pride. Mae angen i ni greu ein lle diogel, lle sy'n teimlo'n gyfforddus i ni."
"Os yw hynny'n gwneud i Pride yn ehangach deimlo'n anghyfforddus, nid ein problem ni yw hynny. Mae angen iddyn nhw ddod o hyd i ffordd sy'n ein cynnwys ni mewn ffordd sy'n berthnasol i ni."
"Dydyn ni ddim eisiau cael sedd wrth y bwrdd - mae angen i ni gael sgyrsiau ystyrlon am sut ry'n ni'n ailstrwythuro Pride gan ystyried ein cymunedau ni."
Mae Zoey yn fenyw draws sy'n byw yng Nghaerdydd. Daeth hi allan yn draws ychydig ar ôl mynychu Pride am y tro cyntaf yn 2018.
"Mae Pride yn gadael i fi fod yn fi fy hun yn llwyr, heb orfod ymateb i ddisgwyliadau pawb arall."
"Rwy'n credu bod Pride yn bwysig iawn o hyd ac mae ganddo ffordd bell i fynd ar gyfer nifer o elfennau o'r gymuned LHDT nawr."
"Mae'n ymddangos ein bod ni'n wynebu anawsterau tebyg i'r gymuned hoyw a lesbiaidd yn y gorffennol."
'Angen dathlu drwy gydol y flwyddyn'
"Hefyd dwi'n teimlo bod nifer o gwmnïau yn manteisio'n fasnachol ar yr enfys ar yr adeg yma o'r flwyddyn, yn hytrach na chefnogi pobl hoyw a hawliau hoyw drwy gydol y flwyddyn gyfan."
"Mae angen dathlu ac hyrwyddo Pride drwy gydol y flwyddyn gan bod pobl hoyw'n wynebu'r anawsterau hyn nid yn unig yn ystod misoedd yr haf, ond bob dydd o'u bywydau."
"Pryd bynnag mae unrhyw un yn cael cael y teimladau yma, neu'n dod allan neu ddim yn dod allan oherwydd ofn cael eu herlyn neu ddioddef ymosodiadau - mae'r rhain yn bethau ry'n ni'n wynebu bob dydd."
"Ond dwi'n credu mai'r peth mwyaf yw bod unigolion yn agored i ddysgu am wahanol bobl. Mae angen i bobl dderbyn ein bod yn wahanol ac mae angen cefnogi ein gilydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd26 Awst 2021