'Tyfu i fyny'n hoyw yng nghefn gwlad yn gyfnod unig'

  • Cyhoeddwyd
Aled Lloyd Rees
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Aled Lloyd Rees y byddai'n ffraeo gyda'i ffrindiau pan yn iau oherwydd cwestiynau am ei rywioldeb

"O'dd pawb wedi gweud wrtha'i bo hwnna'n fochedd, ma' hwnna'n wrong."

Dyma brofiad Aled Lloyd Rees tra'n tyfu fyny yng Ngorslas, Sir Gâr. Daeth Aled allan yn 24 oed.

Degawd yn ddiweddarach, mae'n byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio i Theatr Iolo, mae hefyd yn blogio am ei brofiadau fel dyn hoyw.

"O'dd e'n gyfnod unig - o'dd neb gyda fi i siarad," meddai.

"Mae'n fyd bach ac mae'n fwy bach i rywun sy'n hoyw - o'n i'n meddwl 'Is that it? Am I the only one?'"

Dywedodd na fyddai'n ystyried symud 'nôl i Gorslas ar hyn o bryd, ond hoffai weld y gymuned yn addasu.

"Fi'n dwli ar ble fi wedi dod o, fi'n dwli ar Gorslas ond fi'n credu 'nôl yng nghefn gwlad a 'nôl yn Sir Gaerfyrddin, does dim lot yn mynd 'mlaen.

"Does dim byd yn digwydd i'r bobl sy'n y gymuned LGBT. Yr unig Pride sy'n digwydd nawr, mae'n Llanelli."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dyw digwyddiadau sy'n gweithio mewn dinasoedd ddim o reidrwydd yn gweithio mewn ardaloedd gwledig, medd Mark Lewis

Mae Aled yn un o nifer o bobl LHDTC+ sy'n galw am wella gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig.

Mae Mark Lewis, 40, o Benygroes, Sir Gâr, bellach yn Uwch Ymgynghorydd Polisi HIV yn Llundain.

Dywedodd Mark bod ei brofiad pan yn ifanc wedi bod yn galed iawn iddo, a'i fod wedi cael cariadon oedd yn ferched er mwyn cuddio'r ffaith ei fod yn ddyn hoyw.

Er ei fod yn croesawu'r ffaith bod 'na ymdrech i hyrwyddo cydraddoldeb LHDTC+, mae am weld Llywodraeth Cymru'n sicrhau cymorth strwythurol i'r gymuned.

Ydych chi wedi gwrando ar bodlediad 'Esgusodwch Fi?'

Trafodaethau bywiog am yr hyn mae'n ei olygu i fod yn aelod o gymuned LHDTC+ yng Nghymru

Mae'n galw am greu cydlynydd LHDTC+ o fewn bob cyngor, er mwyn gallu cyfathrebu gyda'r gymuned a deall gofynion y gymdeithas yn lleol, yn enwedig ardaloedd gwledig.

"Ma' beth sy'n gweithio yn Abertawe neu Caerdydd - dyw e ddim yn mynd i weithio yn Sir Gâr neu Ceredigion.

"Os ti'n edrych yng Nghaerfyrddin, Aberhonddu neu Llanymddyfri neu llefydd fel 'na - does dim i'r gymuned LGBT."

Mae angen gwasanaethau fyddai'n gadael i aelodau o'r gymuned LHDTC+ gwrdd wyneb yn wyneb mewn ardaloedd gwledig, meddai, er mwyn atal unigrwydd.

Ychwanegodd bod angen gwell mynediad at wasanaethau iechyd rhyw a sicrhau bod profion HIV ar gael mewn meddygfeydd teulu.

O'r 72 clinig iechyd rhyw yng Nghymru, does dim un ym Mhowys, meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Fe guddiodd Emlyn Evans ei rywioldeb tan ei fod yn ei 30au hwyr

Cydlynu'r llinell gymorth i ffermwyr hoyw yng Nghymru mae Emlyn Evans, sy'n cefnogi unigolion mewn ardaloedd gwledig.

Yn wreiddiol o ardal Llanybydder mae'n byw ac yn gweithio yng Nghaernarfon.

Wrth siarad gyda'r bobl sy'n ffonio'r rhwydwaith, mae'n dweud nad yw pethau wedi newid yn sylweddol o ran profiadau yng nghefn gwlad.

Bellach yn ei 50au, bu'n "cuddio" ei rywioldeb tan ei 30au hwyr.

Ymateb yn 'araf'

Dywedodd bod ei brofiad o dyfu fyny yng nghefn gwlad yn "anodd" ac "unig".

Ychwanegodd bod pethau'n gwella, ond bod angen gwneud mwy.

"Araf iawn yw'r ymateb gyda'r sefydliadau amaethyddol, fel yr undebau, fel y ffermwyr ifanc," meddai.

"Mae angen derbyn pawb fel maen nhw, ni'n sôn gymaint am iechyd meddwl ffermwyr - iawn, ma' iselder, unigrwydd - ond does byth cyfeiriad at rywbeth fel rhywioldeb."

Bydd Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi cynllun cydraddoldeb LHDTC+ yn gynnar y flwyddyn nesaf er mwyn mynd i'r afael â phrofiadau o anghydraddoldeb.

Dywedodd llefarydd ei bod wedi ymrwymo i ddatblygu cronfa Pride newydd ledled Cymru a gwella mynediad i wasanaethau iechyd.

Pynciau cysylltiedig