Amddiffynnwr Cymru, Neco Williams yn ymuno â Nottingham Forest

  • Cyhoeddwyd
Neco WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae amddiffynnwr Cymru, Neco Williams, wedi ymuno â Nottingham Forest.

Mae Williams, 21, yn gadael Lerpwl am ffi o £17m, gan arwyddo cytundeb pedair blynedd o hyd.

Daeth Williams drwy dimau ieuenctid Lerpwl, a chwaraeodd i'r tîm cyntaf 13 o weithiau.

Fe fuodd ar fenthyg gyda Fulham am gyfnod y tymor diwethaf, gan sicrhau dyrchafiad i'r Uwch Gynghrair gyda'r clwb o Lundain.

Ond gyda chlwb arall sydd wedi eu dyrchafu y bydd yn chwarae'r tymor nesaf, gyda Forest yn dychwelyd i'r Uwch Gynghrair am y tro cyntaf ers dros 20 mlynedd.

Ar Twitter, dywedodd Williams ei fod yn dechrau "her newydd" ar ôl 15 mlynedd gyda Lerpwl.

Bydd Williams, sydd wedi ennill 21 cap i Gymru, yn ymuno â'r Cymry eraill yn y clwb - yr ymosodwr Brennan Johnson a'r rheolwr Steve Cooper.