Cynnig Anglicanaidd yn 'tanseilio'r gymuned LHDTC+'

  • Cyhoeddwyd
EglwysFfynhonnell y llun, Rawpixel

Mae Archesgob Caergaint wedi cael ei orfodi i addasu cynnig oedd yn gofyn i Esgobion Anglicanaidd rhyngwladol wrthwynebu priodasau o'r un rhyw.

Wrth i 650 o Esgobion o 165 o wledydd gyrraedd Caergaint ar gyfer Cynhadledd Lambeth, a hynny am y tro cyntaf ers 2008, roedd ffrae yn corddi ynglŷn â chynnig dadleuol i gefnogi un o ddatganiadau Cynhadledd Lambeth o 1998.

Roedd y datganiad hwnnw yn "cadarnhau fod priodas yn uniad rhwng dyn a menyw" a bod dim modd cefnogi "cyfreithloni neu fendithio uniad neu briodas o'r un rhyw".

Roedd Archesgob Cymru, Andrew John wedi arwyddo datganiad ar y cyd ag Esgobion eraill Cymru i wrthwynebu'r cynnig dadleuol.

'Lle hafal o fewn yr Eglwys'

Mae'r llythyr yn dweud: "Rydym wedi dod ar draws gynnig, sydd wedi ei gynnwys yng ngeiriad drafft Caniad Lambeth ar Urddas Dynol (Lambeth Call on Human Dignity), sydd yn tanseilio ac yn gwyrdroi urddas rhan greiddiol o'n cymuned, yn hytrach na'i chadarnhau.

"Gan dderbyn y bydd rhai yn dymuno cadarnhau'r ddealltwriaeth hanesyddol o briodas, rydym ni am sicrhau i'n brodyr a chwiorydd LHDT+ yng Nghrist, y byddwn ni yn pwyso i addasu geiriad y cynnig i adlewyrchu yn well ein dealltwriaeth o'u lle hafal o fewn yr Eglwys."

Ffynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Archesgob Cymru, Andrew John wedi arwyddo datganiad ar y cyd ag Esgobion eraill Cymru i wrthwynebu'r cynnig dadleuol

Ers mis Hydref y llynedd mae'r Eglwys yng Nghymru wedi caniatáu i gyplau o'r un rhyw gael bendithio eu perthynas mewn Eglwys, er nad oes hawl o hyd i gynnal seremoni priodas i gyplau o'r un rhyw mewn Eglwys.

Daeth gwrthwynebiad i'r cynnig hefyd o Loegr, Yr Alban a'r Unol Daleithiau, gan arwain at y cyhoeddiad na fydd y cynnig yn cael ei drafod yn ei ffurf bresennol, ac mae disgwyl i'r cynnig newydd gael ei gyhoeddi brynhawn Mawrth.

Mae Cynhadledd Lambeth fel arfer yn cael ei gynnal bob 10 mlynedd, ond cafodd cynhadledd 2018 ei gohirio yn wreiddiol oherwydd rhaniadau yn ymwneud â rhywioldeb, ac yna yn sgil y pandemig.

Ond mae'r rhaniadau yn parhau i fod yn ddwfn, yn enwedig rhwng yr Esgobion mwy ceidwadol o Uganda a Nigeria - gwledydd lle mae perthnasau cyfunrywiol yn anghyfreithlon - ac Esgobion mwy rhyddfrydig o'r Alban, Canada, Cymru a'r Unol Daleithiau.

Disgrifiad o’r llun,

Andy Grimwood: "Yw'r Eglwys yng Nghymru yn mynd i gyfeiriad gwahanol i Anglicaniaeth?"

Ond mae Archddiacon Llanelwy, Andy Grimwood yn poeni fod Cymru yn mynd i gyfeiriad gwahanol i weddill yr Eglwys.

"Mae Esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn cymryd safbwynt penodol ar hyn o bryd, ond ledled y byd mae rhywbeth fel 75% o Anglicaniaid yn dal i ddefnyddio safbwynt traddodiadol Anglicanaidd," meddai.

"Felly mae'n peri'r cwestiwn - yw'r Eglwys yng Nghymru yn mynd i gyfeiriad gwahanol i Anglicaniaeth?

"Fy nealltwriaeth i o Lambeth yw y bydden nhw'n trafod y materion hyn ymysg amryw o rai eraill.

"Ond un peth sy'n ein huno ydy cariad Duw at bawb, ac mae angen canmol yr Esgobion am godi hynny."

Pynciau cysylltiedig