Enwi Luke Harris yng ngharfan Cymru am y tro cyntaf
- Cyhoeddwyd
Mae ymosodwr 17 oed Fulham, Luke Harris, wedi ei enwi yng ngharfan Cymru am y tro cyntaf ar gyfer y gemau yn erbyn Gwlad Belg a Gwlad Pwyl.
Ond wrth i dîm Robert Page ymdrechu i gadw eu lle ym mhrif haen Cynghrair y Cenhedloedd bydd chwaraewr canol cae Nice, Aaron Ramsey, yn absennol oherwydd anaf.
Mae Harry Wilson a gôl-geidwad Sheffield United, Adam Davies, hefyd yn colli allan oherwydd anafiadau.
Bydd Cymru yn wynebu Gwlad Belg ym Mrwsel ar 22 Medi cyn i Wlad Pwyl ymweld â Chaerdydd ar 25 Medi.
Yn 17 oed, mae Harris wedi ei alw i'r garfan yn dilyn ond un ymddangosiad i dîm cyntaf Fulham y tymor hwn, yng Nghwpan yr EFL.
Ond yn ôl Page mae'n haeddu cyfle yn y garfan genedlaethol.
"Mae wedi bod yn y system nawr ers rhai blynyddoedd," meddai Page, sydd wedi arwyddo cytundeb pedair blynedd i barhau fel rheolwr y tîm cenedlaethol.
"Mae'n dalent ac yn gyffrous. Mae'n gwneud yn dda iawn i'w glwb ac mae'n sgorio goliau.
"Pan mae gennych chi rywun â'r ddawn honno - er ei fod newydd droi'n 17 oed - yna dydw i ddim yn poeni am ei oedran.
"Ar gyfer y ddwy gêm yma dwi'n meddwl ei fod yn gyfle gwych iddo ddod i mewn a chael blas ohono, i'w brofi, ac i ni gael golwg arno."
Mae Cymru ar waelod Grŵp A4 yng Nghynghrair y Cenhedloedd ar ôl colli yn yr eiliadau olaf yn erbyn yr Iseldiroedd yn eu gêm ddiwethaf ym Mehefin.
Gyda'u hunig bwynt yn yr ymgyrch wedi dod yn erbyn Gwlad Belg yng Nghaerdydd, byd tîm Robert Page yn gobeithio gorffen yn uwch na Gwlad Pwyl - sydd â phedwar pwynt - er mwyn cadw eu lle ymysg prif ddetholion Ewrop yn y gystadleuaeth.
Y garfan yn llawn
Golwyr: Wayne Hennessey, Danny Ward, Tom King.
Amddiffynnwyr: Neco Williams, Rhys Norrington-Davies, Ben Davies, Ben Cabango, Joe Rodon, Chris Mepham, Ethan Ampadu, Chris Gunter, Connor Roberts.
Canol cae: Sorba Thomas, Joe Allen, Joe Morrell, Dylan Levitt, Rubin Colwill, Jonny Williams, Wes Burns, Matthew Smith.
Ymosodwyr: Dan James, Kieffer Moore, Mark Harris, Luke Harris, Gareth Bale, Brennan Johnson, Rabbi Matondo, Tyler Roberts.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Medi 2022
- Cyhoeddwyd13 Medi 2022