Euro 2024: Cymru'n herio Croatia, Armenia, Twrci a Latfia
- Cyhoeddwyd
Bydd Cymru yn chwarae yn yr un grŵp â Chroatia, Armenia, Twrci a Latfia - Grŵp D - yn rowndiau rhagbrofol pencampwriaeth Euro 2024.
Cafodd yr enwau eu tynnu o'r het ar gyfer grwpiau rhagbrofol y gystadleuaeth mewn digwyddiad yn Frankfurt ddydd Sul.
Cafodd 53 tîm eu gosod yn un o 10 grŵp - saith grŵp o bum tîm a thri grŵp o chwe thîm.
Fe fydd y ddau dîm uchaf ymhob grŵp yn cymryd yr 20 lle cyntaf yn y rowndiau terfynol, sy'n cael eu cynnal yn 10 o ddinasoedd Yr Almaen.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Bydd gemau cyntaf y rowndiau rhagbrofol yn cael ei cynnal ar 23 Mawrth a'r rhai olaf ar 21 Tachwedd 2023.
Fel y wlad sy'n llwyfannu'r twrnamaint, mae'r Almaen yn cael lle awtomatig, tra bydd tri thîm yn sicrhau eu llefydd yn y rowndiau terfynol trwy gemau ail-gyfle Cynghrair y Cenhedloedd.
Manylion llawn y grwpiau
Grŵp A: Sbaen, Yr Alban, Norwy, Georgia, Cyprus
Grŵp B: Yr Iseldiroedd, Ffrainc, Gweriniaeth Iwerddon, Gwlad Groeg, Gibraltar
Grŵp C: Yr Eidal, Lloegr, Wcráin, Gogledd Macedonia, Malta
Grŵp D: Croatia, Cymru, Armenia, Twrci, Latfia
Grŵp E: Gwlad Pwyl, Y Weriniaeth Tsiec, Albania, Ynysoedd y Ffaro Islands, Moldofa
Grŵp F: Gwlad Belg, Awstria, Sweden, Azerbaijan, Estonia
Grŵp G: Hwngari, Serbia, Montenegro, Bwlgaria, Lithiwania
Grŵp H: Denmarc, Y Ffindir, Slofenia, Kazakhstan, Gogledd Iwerddon, San Marino
Grŵp I: Y Swistir, Israel, Romania, Kosovo, Belarws, Andorra
Grŵp J: Portiwgal, Bosnia a Herzegovina, Gwlad yr Ia, Luxembourg, Slofakia, Liechtenstein