Heddlu'n edrych eto ar farwolaeth brawd a chwaer yn 1976
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi dechrau adolygiad fforensig o ddeunydd sydd wedi'i gadw ers marwolaethau brawd a chwaer yn Sir Benfro yn 1976.
Cafodd Griff a Martha Mary Thomas eu darganfod yn farw yn Ffynnon Samson, Llangolman, ddechrau Rhagfyr y flwyddyn honno.
Penderfynodd rheithgor yn y cwest gwreiddiol yn 1977 fod Mr Thomas, 73, wedi llofruddio ei chwaer, 70, yn dilyn ffrae cyn rhoi ei hun ar dân.
Roedd Martha, a oedd yn cael ei hadnabod yn lleol fel Pati, wedi dioddef anafiadau difrifol i'w phen. Cofnodwyd rheithfarn agored yn achos Griff.
Yn gynharach eleni, dechreuodd papur bro Clebran ymgyrch yn galw ar Heddlu Dyfed Powys i ail-edrych ar yr achos.
Mae'r heddlu bellach wedi cadarnhau y byddan nhw'n edrych eto ar eitemau gan ddefnyddio "technegau modern".
'Cadw meddwl agored'
Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod y "gwaith o nodi pa ddeunydd oedd ar ôl a dichonolrwydd archwiliad pellach, mewn ymgynghoriad â gwyddonwyr fforensig, yn awr wedi'i gwblhau".
Ychwanegodd llefarydd: "[Yn] seiliedig ar y cyngor, credir y gellir gweithredu technegau modern i sefydlu pa un ai a oes tystiolaeth ychwanegol yn bresennol ar nifer cyfyngedig o eitemau a allai fod yn berthnasol i'r achos hwn."
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd, Paul Jones: "Yn ystod y deugain mlynedd diwethaf, gwelwyd datblygiadau sylweddol mewn gwyddoniaeth fforensig, a allai rhoi gwybodaeth ychwanegol mewn achosion mor hen â hyn hyd oed.
"Er bod yr ymchwiliad ar y pryd (1976) yn drylwyr, roedd y wyddoniaeth fforensig yn gyfyngedig o'i chymharu â heddiw, a byddwn ni'n archwilio pa un ai a all technegau modern daflu goleuni pellach ar y digwyddiadau yn Ffynnon Samson yn 1976.
"Ar hyn o bryd, ni wyddwn pa atebion, os o gwbl, fydd yr adolygiad fforensig yn rhoi inni, ond rwy'n cadw meddwl agored.
"Byddwn ni'n parhau i roi gwybod i'r teulu am unrhyw ddatblygiadau."
'Trydydd person'
Dywedodd golygydd papur bro Clebran bod "llygedyn o obaith" o glywed y bydd yr heddlu'n archwilio eto.
"Maen nhw [yr heddlu] yn dangos eu bod yn cymryd o ddifrif yr honiad a wneir gan CLEBRAN nad oedd rheithfarn y cwest yn achos Martha a Griff Thomas yn ddiogel," dywedodd y golygydd, Hefin Wyn.
"Mae yna lygedyn o obaith y gellir canfod tystiolaeth a fydd yn profi cred pawb a adwaenai'r brawd a chwaer nad oedden nhw wedi ymosod ar ei gilydd.
"Mae CLEBRAN yn parhau â'r ymgyrch i geisio clirio enw Griff Thomas o lofruddio ei chwaer gan fynnu na roddwyd sylw digonol i'r ddamcaniaeth debygol bod yna drydydd person yn gyfrifol am y drosedd.
"Edrychwn ymlaen i weld beth fydd canfyddiadau'r heddlu o dan arweiniad y Ditectif Uwch-Arolygydd Paul Jones gan alw ar Heddlu Dyfed-Powys i gefnogi'n hymgyrch i ailagor y cwest. Dydyn nhw ddim wedi datgelu beth yn union sydd wedi'i gadw na chwaith wedi datgelu beth sydd ddim wedi'i gadw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2022