Plaid Cymru angen 'ymddiriedaeth pobl' cyn ystyried annibyniaeth

 Ieuan Wyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen i Blaid Cymru brofi eu bod yn gallu llywodraethu, meddai Ieuan Wyn Jones

  • Cyhoeddwyd

Mae'n rhaid i Blaid Cymru gael "ymddiriedaeth pobl Cymru fel llywodraeth" cyn ystyried annibyniaeth, meddai cyn-Ddirprwy Brif Weinidog Cymru a chyn-arweinydd y blaid.

Wrth siarad ar bennod ddiweddaraf podlediad Gwleidydda BBC Radio Cymru, dywedodd Ieuan Wyn Jones nad oedd yn hyderus bod yr ymddiriedaeth yna "ar hyn o bryd", gan fod angen i'r blaid ddangos eu bod nhw'n medru llywodraethu yn gyntaf.

Mae'r arolygon barn diweddar yn tueddu i awgrymu bod Plaid Cymru – ynghyd â Reform – mewn sefyllfa gref i herio Llafur pan ddaw'r etholiad nesaf i'r Senedd ym mis Mai ac o bosib arwain llywodraeth nesaf Cymru.

Yn ôl Mr Jones, "os ydych chi'n medru profi bo' chi'n gallu llywodraethu, hyd yn oed o dan y setliad sydd gennym ni" yna y bydd y ddadl am annibyniaeth "gymaint â hynny'n haws".

Yng nghynhadledd Plaid Cymru yn Abertawe y penwythnos diwethaf, addawodd yr arweinydd, Rhun ap Iorwerth, y byddai ei blaid yn cyhoeddi cynllun ar gyfer annibyniaeth i Gymru - ond nid o fewn tymor cyntaf ei blaid mewn llywodraeth.

Wrth gael ei holi gan Vaughan Roderick am y pwnc, ychwanegodd Mr Jones mai'r cwestiwn mawr oedd "pwy fyddai'n delivero y syniad o annibyniaeth".

"Drwyddi draw, yr unig blaid mewn gwirionedd fyddai'n gallu gwneud yw Plaid Cymru, ar yr amod, wrth gwrs, y byddai Llundain yn caniatáu refferendwm yn y dyfodol."

Digwyddiadau yn yr Alban yn 'gwbl allweddol'

Ond yn ôl yr arbenigwr gwleidyddol, yr Athro Richard Wyn Jones, yn ogystal ag ennill ymddiriedaeth, mae'n rhaid ystyried bod digwyddiadau ar draws y DU hefyd wedi cyfrannu at y drafodaeth am annibyniaeth i Gymru.

Dywedodd fod geiriau Mr Jones yn adlewyrchu'r ffordd yr oedd y blaid wedi meddwl am hunanlywodraeth, a thrwy ddangos i bobl Cymru bod chi'n gallu gwneud y gwaith, "wedyn wnawn nhw ymddiried ynoch chi a rhoi mwy o bŵer".

"Mae llawer iawn o'r camau tuag at y lefel ymreolaeth 'da ni 'di cael hyd yma, wedi deillio o beth sydd wedi bod yn digwydd mewn llefydd eraill," ychwanegodd.

"Felly, 'dwi'n meddwl bod be ddigwyddodd yn yr Alban, er enghraifft, wedi bod yn gyfan gwbl allweddol o ran symud y drafodaeth yn ei blaen yng Nghymru yn niwedd y 90au."

Disgrifiad,

Yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones, mae digwyddiadau ar draws y DU yn effeithio ar agweddau tuag at annibyniaeth i Gymru

Gydag etholiad nesaf Senedd Cymru ym mis Mai yn agosáu, fe wnaeth yr arbenigwr gwleidyddol hefyd gydnabod bod agweddau gwleidyddol yn newid dros y ffin yn Lloegr.

"'Da ni'n gwybod, gyda llaw, fod cefnogwyr Reform yn Lloegr yn weddol fodlon i weld y llefydd yma [fel Cymru] yn gadael.

"Dy'n nhw ddim efo'r ymrwymiad at yr undeb yn y ffordd 'da ni'n cysylltu efo'r blaid Geidwadol, er enghraifft, yn draddodiadol.

"Mi all y cwestiwn o annibyniaeth godi, nid oherwydd yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru, ond llawn cymaint sy'n digwydd y tu allan i Gymru."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig