Ashley Williams yn glir o gyhuddiad 'ymddygiad amhriodol'
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-gapten Cymru, Ashley Williams yn glir o gyhuddiad o ymddygiad amhriodol yn dilyn digwyddiad mewn gêm ieuenctid.
Cafodd cyn-amddiffynnwr Abertawe ei gyhuddo o herio hyfforddwr tîm arall yn ystod gêm dan-12 ym Manceinion yr oedd ei fab yn chwarae ynddi.
Ond fe ddaeth comisiwn disgyblu Cymdeithas Bêl-droed Lloegr i'r casgliad nad oedd y cyhuddiad wedi ei brofi.
Dywedodd y gymdeithas y bydd y rhesymau dros y penderfyniad yn cael eu cyhoeddi maes o law.
Mae Williams, 38, wedi ennill 86 o gapiau dros Gymru ac wedi chwarae i glybiau fel Everton a Stoke.
Roedd yn gapten ar dîm Cymru yn nhwrnament Euro 2016.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2022