Heddlu'n ymchwilio i lythyr homoffobig i Nigel Owens
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i lythyr homoffobig a gafodd ei anfon at y cyn-ddyfarnwr rygbi rhyngwladol, Nigel Owens.
Mewn neges ar Twitter fe rannodd Mr Owens, sy'n hoyw, lun o'r llythyr oedd yn cynnwys honiadau ac iaith sarhaus am bobl hoyw.
Roedd y llythyr wedi ei arwyddo gan "Weithiwr Dur PT", ond nid yw tarddiad y llythyr wedi ei gadarnhau.
Dywedodd cwmni Tata Steel UK "nad oes lle am y fath gasineb o fewn gweithfeydd dur".
'Dim lle i'r fath gasineb'
Fe rannodd Nigel Owens lun o'r llythyr ar Twitter ddydd Mawrth gan ddweud ei fod wedi "meddwl yn hir" am wneud hynny.
"Ond, oni bai ein bod yn dechrau galw'r math yma o bobl mas, ni wnaiff unrhyw beth newid," dywedodd.
"Mae'n brifo, a does dim angen y math yma o gasineb."
Roedd y llythyr yn cynnwys cyfeiriadau at y Beibl, "cosb Duw" i bobl hoyw, a'r cyn-chwaraewr rygbi Gareth Thomas, sydd hefyd yn hoyw.
Mae BBC ar ddeall bod Gareth Thomas hefyd wedi derbyn llythyron wrth yr awdur.
Mae Mr Owens yn teimlo bod cysylltiad rhwng y llythyr a'r sylw i faterion yn ymwneud â hawliau'r gymuned LHDTQ+ yng Nghwpan y Byd yn Qatar.
Roedd Cymru yn un o saith gwlad oedd yn bwriadu gwisgo rhwymyn OneLove ar y cae, sy'n rhan o ymgyrch i hybu amrywiaeth a chynhwysiad.
Ond cadarnhawyd y byddai FIFA'n cosbi unrhyw chwaraewr neu wlad oedd yn defnyddio'r rhwymyn.
"Mae gweithredoedd FIFA dros chwaraewyr Lloegr a Chymru'n gwisgo rhwymyn braich OneLove i gefnogi'r gymuned LGBTQ+ ond wedi gwaethygu pethau ac wedi mynd yn erbyn cefnogaeth y cyhoedd," meddai Mr Owens.
'Lleisiau cryfach yn tawelu'r lleifarif'
Ychwanegodd ei fod wedi derbyn llawer o gefnogaeth ers rhannu'r llun o'r llythyr.
"Mae'r rhan fwyaf o bobl yn dda a gobeithio y bydd eu lleisiau cryfach yn tawelu'r lleiafrif sy'n ysgrifennu'r sothach hyn."
Roedd y llythyr wedi ei arwyddo gan "Weithiwr Dur PT", ond nid yw tarddiad y llythyr wedi ei gadarnhau.
Fe wnaeth cwmni Tata Steel UK, perchnogion gwaith dur Port Talbot, ymateb i'r neges ar Twitter yn dweud eu bod "wedi eu dychryn".
"Ry'n ni gyda ti 100% Nigel ac wedi'n dychryn i weld ei fod [y llythyr] mae'n debyg wedi ei arwyddo gan un o'n teulu dur ni.
"Does dim lle am y fath gasineb o fewn gweithfeydd dur, mewn clwb rygbi nag o fewn cymdeithas."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2020