Pa lyfrau i'w prynu i'r plant Nadolig yma?
- Cyhoeddwyd
Pob Nadolig mae miloedd o lyfrau'n cael eu gwerthu dros Gymru, gyda phobl o bob oedran yn mwynhau sgipio drwy'r tudalennau.
Ond pa lyfrau plant a phobl ifanc y dylwn ni edrych allan amdanynt y Nadolig yma?
Dyma mae Morgan Dafydd, awdur blog 'Sôn am Lyfra', dolen allanol, yn ei argymhell:
Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn heriol i ni gyd, ac roedd y pandemig a'r cyfnod clo yn sefyllfaoedd na'u gwelwyd o'r blaen. A ninnau'n gaeth i'n cartrefi am gyfnodau hirion - diolch byth am y gweisg a'r llyfrwerthwyr, fu'n gofalu amdanom ac yn sicrhau fod gennym gyflenwad da o lyfrau difyr i'n diddori. Er gwaetha'r amgylchiadau heriol, dwi'n hapus i ddatgan mai parhau i gynyddu y gwnaeth safon ac amrywiaeth y llyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc.
Rŵan, mae wastad yn anodd rhoi rhestr fel hyn at ei gilydd, achos 'da chi'n bownd o anghofio rhyw deitl, neu methu cynnwys un arall. Yn sicr, does dim modd plesio pawb! Ond dyma rai o lyfrau cymharol ddiweddar sydd wedi aros yn y cof.
Llyfrau ar gyfer oedran 3-7
1. Nye; Bywyd Angerddol Aneurin Bevan - Manon Steffan Ros a Valériane Leblond
Dyma stori ysbrydoledig am fachgen swil o Dredegar a ddaeth yn un o wleidyddion pwysicaf Prydain - Aneurin Bevan. Ar ôl gadael ysgol yn fachgen ifanc, fe aeth i weithio i'r pwll glo fel ei dad. Yma, drwy ei waith fel rhan o'r undeb, daeth yn siaradwr cyhoeddus penigamp. Pan gafodd ei ethol i Dŷ'r Cyffredin, fo oedd y gweinidog fu'n gyfrifol am sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol - tipyn o bluen yn ei gap.
Gyda geiriau addfwyn gan Manon Steffan a lluniau bendigedig Valériane, caiff stori'r Cymro rhyfeddol hwn ei gyflwyno i genhedlaeth newydd mewn ffordd sy'n hawdd i'w ddeall. Hwn yw'r teitl diweddaraf yng nghyfres 'Enwogion o Fri' sy'n taro golwg ar rai o'r Cymry sydd wedi cael cryn effaith ar y byd. Mae'r gyfres ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg er mwyn cyrraedd cynulleidfa ehangach.
2. Pam? Luned Aaron a Huw Aaron
Dyma stori wreiddiol sy'n siŵr o wneud i chi biffian chwerthin wrth ddarllen - a dwi'n siŵr fydd sawl rhiant yn gwenu - neu'n gwaredu - wrth feddwl am y gair 'na mae pob plentyn bach yn hoff o'i ddefnyddio hyd syrffed - 'Pam?'. Mae'r llyfr ar ffurf mydr ac odl, ac mae'r lluniau doniol yn cyfleu natur ddireidus y bachgen bach.
Bydd plant sy'n darllen hefyd yn gallu uniaethu gyda'r prif gymeriad, ac yntau'n trio lleisio ei rwystredigaethau mewn byd lle mae oedolion wastad yn dweud 'na!' ac yn sbwylio'r hwyl! Cafodd y llyfr yma ei enwebu ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn eleni yng nghategori Plant a Phobl Ifanc.
3. Yr Anweledig / The Invisible - Tom Percival [addasiad. Elin Meek]
Mae teulu Erin yn dlawd, ac ar ôl methu talu'r rhent, roedd rhaid i'r teulu ifanc symud i ochr arall y ddinas i fyw mewn tŵr fflatiau. Yno, mae pobl sy'n mynd heibio yn syllu drwyddi, ac felly mae hi'n dechrau mynd i deimlo'n 'anweledig.' Trwy ddod â'r gymuned at ei gilydd, mae Erin yn dechrau gweld prydferthwch yn yr hyn sydd o'i chwmpas.
Dyma lyfr dwyieithog wedi ei arlunio'n arbennig - mae oerni a llymder y gaeaf yn cael ei gyfleu'n effeithiol, ac mae'r lliw yn dychwelyd wrth i'r stori fynd yn ei blaen. Mae nodyn bach yng nghefn y llyfr gan yr awdur yn dangos fod rhaid siarad am dlodi, a pheidio ei anwybyddu. Yn y byd sydd ohoni, mae'r neges fod pawb yn perthyn yn bwerus iawn.
Llyfrau ar gyfer oedran 7-11
4. Sw Sara Mai: Lleidr y Neidr - Casia Wiliam
Cafodd y llyfr cyntaf yn y gyfres gryn lwyddiant, gan ennill gwobr Tir na n-Og yn y categori cynradd yn 2021. Stori am ferch ifanc o'r enw Sara Mai yw hwn, ond tydi Sara Mai ddim yn ferch arferol achos mae ei theulu'n berchen - ac yn byw - mewn sw!
Ar ôl amddiffyn y sw yn y nofel gyntaf, mae Sara Mai a'i ffrindiau yn ôl am antur arall. Y tro hwn, mae dirgelwch mawr wrth i neidr brin ddiflannu.
5. Cyfrinach Betsan Morgan - Gwenno Hywyn
Blwyddyn ddiwethaf, lansiodd y Cyngor Llyfrau gyfres newydd o'r enw Gorau'r Goreuon - gyda'r nod o ddarganfod ac ail-gyhoeddi hen glasuron coll ar eu newydd wedd. Cyfrinach Betsan Morgan, nofel a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1986 sy'n cael ei ddiweddaru y tro hwn, a'i gyflwyno i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr ifanc. Mae Betsan yn gwaredu wrth feddwl am dreulio wythnos ym Mhlas yr Hydd ar drip ysgol, yn enwedig a hithau ar ei phen ei hun!
Ond ar ôl derbyn cadwyn gan ei Mam, mae pethau rhyfedd yn digwydd, ac mae Betsan yn datblygu'r gallu i symud rhwng dau fyd. Nofel ddirgel gyda thwist ffantasïol sy'n darllen gystal heddiw ac yr oedd pan gyhoeddwyd gyntaf!
6. Y Bwystfil a'r Betsan - Jack Meggitt-Philips [addasiad. Elidir Jones]
Os nad yw'r clawr wedi eich denu i ddarllen yn barod, gadewch i mi geisio eich perswadio! Mae Heddwyn Ploryn yn hen. Yn hen iawn a dweud y gwir - dim ond dyddiau i ffwrdd o'i ben-blwydd yn 512 oed! Ond sut mae rhywun mor hen yn edrych mor rhyfeddol o dda?
Wel, mae hyn rhywbeth i wneud gyda'i gyfrinach dywyll- rhyw fath o gyfamod hefo'r bwystfil creulon sy'n byw ar y llawr uchaf. Os yw Heddwyn am aros yn ifanc, rhaid i'r bwystfil gael ei fwydo, ac mae o wedi bwyta ei ffordd drwy bob math o bethau yn barod, gan gynnwys parot piws hardd. Rŵan, mae o'n awchu am gig plentyn i'w lowcio! Dyma addasiad o safon uchel iawn sy'n cydio o'r dudalen gyntaf. Mwynhewch.. os ydach chi ddigon dewr!
7. Darganfod Newid Hinsawdd
Efallai fod y newyddion yn llawn o straeon eraill ar hyn o bryd, ond rhaid i ni beidio anghofio mai'r argyfwng amgylcheddol yw un o fygythiadau mwyaf ein hoes. Dyma lyfr ffeithiol hynod o ddiddorol sy'n esbonio beth yw 'hinsawdd' a sut mae dyn yn effeithio arno.
Yn ogystal ag esbonio sut mae'r systemau hinsawdd yn gweithio, cawn glywed am rai o'r achosion dros y newidiadau mawr a rhai o'r goblygiadau i'n planed. Dangosa'r llyfr sut y gallwn ni chware ein rhan i atal cynhesu byd eang - cyn ei bod hi'n rhy hwyr. Llyfr sy'n orlawn o ffeithiau difyr wedi eu cyflwyno'n weledol ac yn effeithiol tu hwnt.
Llyfrau ar gyfer oedran 11-14+
8. #Helynt - Rebecca Roberts
Hwn gipiodd y wobr Tir na n-Og Uwchradd yn 2021. Nofel ffres a gwahanol iawn, gan awdur gymharol newydd, wedi ei gosod yn ardal arfordirol gogledd-ddwyrain Cymru. Merch ysgol uwchradd yw Rachel, sydd â thipyn ar ei phlât. Oherwydd diffyg arian mae'r sefyllfa gartref yn bur ansefydlog. Mae ei thad yn gweithio oriau hir er mwyn crafu byw, ac mae ei mam yn byw ag iselder. Disgynna'r baich ar Rachel i ofalu am ei chwaer fach yn ogystal â gwneud ei gwaith ysgol. Pan mae Rachel yn methu'r bws ysgol ac yn mynd ar antur i'r Rhyl, daw i wybod rhywbeth all chwalu ei theulu yn ddarnau.
Er yr holl heriau, tydi Rachel ddim yn un am gwyno - mae hi'n gryf a phenderfynol. Er bod darnau doniol, mae'r nofel yn ymdrin â themâu fel bwlio a chamdriniaeth ddomestig. Dyma nofel ffraeth a chyfoes fydd yn apelio at yr arddegau cynnar. Dwi hefyd yn clywed bod dilyniant ar y ffordd...
9. Manawydan Jones: Y Pair Dadeni - Alun Davies
Dyma nofel gyntaf Alun Davies ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau - nofel sy'n plethu chwedloniaeth gwallgo'r Mabinogi gyda bywyd modern bob dydd. Mae Manawydan yn meddwl ei fod o fel pob bachgen pymtheg oed arall, tan i ddyn dieithr ddod i'w weld yn yr ysgol a datgelu gwybodaeth fydd yn newid ei fywyd am byth. Caiff ei lusgo i ganol gwrthdaro sydd wedi parhau ers canrifoedd, rhwng dwy garfan - Y Cyfeillion a'r Marchogion.
Mae'r tensiwn rhwng y ddau ochr yn cynyddu a bydd gofyn i Manawydan brofi ei hun er mwyn ymuno yn y frwydr ac achub y dydd. Dyma nofel antur hynod o gyffrous, sy'n plethu antur ffantasïol gyda stori ddirgel a nofel dditectif.
10. Llechi -Manon Steffan Ros
Cewch eich bachu o'r dudalen gyntaf ar ôl cael gwybod bod merch ifanc wedi ei darganfod yn farw - llofruddiaeth. Does neb yn gwybod pwy laddodd Gwenno, merch boblogaidd 16 oed, mewn ymosodiad ffyrnig a brwnt. Ar yr arwyneb, roedd bywyd Gwenno yn ymddangos yn berffaith ac yn ddedwydd, ond yn y dyddiau yn dilyn y llofruddiaeth, gyda'r Heddlu wrthi'n ymchwilio, down i ddeall fod mwy i'r stori hwn...
Mae'r stori yn darllen yn rhyfeddol o hawdd ond mae'r gwaith disgrifio a'r arsylwadau ffraeth yn arbennig. Mewn stori sy'n symud ar garlam, fe gewch eich cyflyru i droi'r tudalen yn y gobaith o gael atebion. Os yw nofelau trosedd a dirgel at eich dant - dwi'n argymell hon yn fawr iawn.