Cyhuddo tri phêl-droediwr wedi 'anhrefn' yn ystod gêm Rhyl a Bangor
- Cyhoeddwyd
Mae tri chwaraewr wedi cael eu cyhuddo o achosi cythrwfl ar y cae yn ystod gêm rhwng Rhyl 1879 a Bangor 1876 y llynedd.
Mae chwaraewyr Y Rhyl, Alex Jones, 28, a Leon Atkins, 21, sy'n dod o'r dref, a chwaraewr Bangor, Shaun Lock, 30, o Fangor, wedi eu cyhuddo o achosi cythrwfl (affray).
Mae Jones hefyd wedi'i gyhuddo o ymosod ar chwaraewr arall yn dilyn y digwyddiad ar faes Belle Vue, Y Rhyl ar 22 Hydref.
Derbyniodd chwaraewr arall rybudd gan Heddlu'r Gogledd.
Dywedodd y ditectif gwnstabl Kieran Davies fod y ddau glwb a Chymdeithas Bêl-droed Cymru wedi bod yn "awyddus i gydweithredu gydag ymchwiliad yr heddlu" yn dilyn yr "anrhefn".
Bydd y tri yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Llandudno ar 29 Mawrth.