Dyn wedi'i anafu'n ddifrifol wedi ymladd mewn gêm bêl-droed

  • Cyhoeddwyd
Stadiwm EssityFfynhonnell y llun, FAW

Mae dyn wedi cael ei anafu'n ddifrifol yn dilyn digwyddiad ble bu'n rhaid gohirio gêm ym mhrif adran bêl-droed Cymru.

Roedd llai nag 20 munud o chwarae wedi bod yn yr ornest rhwng Y Fflint a Chaernarfon - gyda'r Fflint 2-0 ar y blaen - pan ddaeth i gêm i stop ar Stadiwm Essity yn sgil adroddiadau o ymladd ymysg rhai o aelodau'r dorf.

Fe alwyd yr heddlu a'r ambiwlans awyr i'r maes, ac mae dyn bellach wedi cael ei gludo i ysbyty yn Lerpwl gydag "anafiadau difrifol".

Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod bellach yn ymchwilio, a bod presenoldeb heddlu sylweddol yn parhau i fod yn ardal Y Fflint.

Maen nhw hefyd wedi cyhoeddi gorchymyn gwasgaru yn y dref am 24 awr, gan ddweud y bydd unrhyw un sydd ddim yn dilyn y gorchymyn yn cael eu harestio.

Ychwanegodd y llu eu bod yn apelio am unrhyw wybodaeth bellach am y digwyddiad.

'Diwrnod trist iawn'

Am 18:38, dri chwarter awr wedi i'r gêm ddod i stop, cadarnhaodd CPD Tref y Fflint na fyddai'n ailddechrau a'i fod wedi ei ohirio.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfranwr

Roedd y ddau dîm yn gobeithio am ganlyniad da i helpu yn eu ymdrechion i aros yn y brif haen.

Yn siarad yn ystod darllediad byw Sgorio o'r gêm dywedodd cadeirydd CPD Tref y Fflint, Darryl Williams: "Rydyn ni wedi galw'r heddlu... mae'r rhain yn olygfeydd trist iawn.

"Mae o'n hollol annisgwyl... roedd y ddau set o gefnogwyr mewn llais da ond daeth y trais yma o unman."

Yn ddiweddarach fe ryddhaodd CPD Tref y Fflint ddatganiad yn dweud ei bod hi'n "ddiwrnod trist iawn" i bawb yn gysylltiedig gyda'r clwb.

"Fel clwb rydym yn condemnio'r ymddygiad gwarthus gan leiafrif o unigolion yn ystod y gêm heddiw yn llwyr," meddai'r clwb.

"Rydym yn dymuno gwellhad buan i'r ddau berson gafodd eu hanafu, ac yn annog unrhyw un gyda fideos ar eu ffonau symudol i gysylltu gyda'r heddlu."

Ffynhonnell y llun, FAW/John Smith

Mewn datganiad dywedodd y gynghrair, dolen allanol: "Mae'r gêm Uwch Gynghrair JD Cymru rhwng y Flint a Chaernarfon yn Stadiwm Essity wedi ei ohirio yn dilyn digwyddiad yn y dorf.

"Cafodd y gêm ei hatal wedi 16 munud a tynnwyd y chwaraewyr oddi ar y cae.

"Yn dilyn sgyrsiau rhwng rhanddeiliaid a chyngor gan yr heddlu, rhoddwyd y gorau i'r chwarae.

"Bydd penderfyniad ar unrhyw ddyddiad newydd posibl ar gyfer y gêm yn cael ei gyfleu maes o law."

Pynciau cysylltiedig