Ryseitiau mwyar duon Rhian Cadwaladr
- Cyhoeddwyd
Mae'r perthi'n drwm o fwyar duon ar hyn o bryd.
Os oes digonedd o fwyar duon yn tyfu'n wyllt o'ch cwmpas, beth am gasglu'r ffrwythau rhad ac am ddim yma i'w bwyta?
Dyma rai awgrymiadau blasus gan y cogydd Rhian Cadwaladr am beth i'w gwneud gyda nhw...
Cobler
Dyma i chi bwdin traddodiadol a hawdd i'w wneud. Gallwch ei wneud efo dim ond mwyar duon neu gyda chymysgedd o fwyar ac afal, neu unrhyw ffrwyth arall.
Cynhwysion
1 afal coginio wedi'i blicio a'i dorri'n ddarnau
Digon o fwyar duon i orchuddio gwaelod dysgl bobi (efo'r afal)
Siwgr at eich dant - 3 llond llwy fwrdd, neu fwy
110g blawd codi
1 ŵy
60g siwgr mân
4 llond llwy fwrdd o lefrith
60g menyn wedi'i doddi
Dull
Cynheswch y popty i 180℃ / 160℃ ffan / nwy 4.
Irwch ddysgl.
Cymysgwch y darnau afalau a'r mwyar efo siwgr at eich dant, ac yn ôl pa mor chwerw ydi'r mwyar duon, a'u rhoi ar waelod y ddysgl.
I wneud y cobler, curwch yr ŵy a'r siwgr.
Ychwanegwch y llefrith a'r menyn a throi'r gymysgedd yn dda.
Hidlwch y blawd i'r gymysgedd yn raddol gan ei gymysgu'n dda.
Tywalltwch dros y ffrwythau a phobwch am tua 30-35 munud.
Bwytewch gyda chwstard, hufen neu hufen iâ.
Crymbl ben i waered
Mae hwn eto yn bwdin y medrwch wneud efo dim ond mwyar duon neu efo cymysgedd o ffrwythau.
Cynhwysion
150g blawd plaen
100g menyn wedi'i dorri'n sgwariau bach
80g siwgr
50g cnau cymysg wedi'u torri'n fân
1 llwy de o sinamon
Digon o fwyar duon (ac afal os mynnwch) i orchuddio gwaelod tun teisen 20cm
Surop, mêl neu siwgr i'w roi dros y ffrwythau
Dull
Cynheswch y popty i 200℃ / 180℃ ffan / nwy 4.
Leiniwch dun 20cm â phapur pobi a gorchuddiwch y gwaelod gyda mwyar duon a/neu fafon.
Os ydi'r ffrwythau'n chwerw (neu eich dant yn felys), taenwch surop, mêl neu siwgr drostyn nhw.
Mewn powlen fawr, rhwbiwch y menyn i mewn i'r blawd nes ei fod yn debyg i friwsion bara.
Ychwanegwch y siwgr, y cnau a'r sinamon.
Arllwyswch y gymysgedd ar ben y mwyar duon a'u gwasgu i lawr gyda chledr eich llaw.
Pobwch am tua 30-35 munud. Gadewch iddo oeri a setio cyn gosod plât ar ben y tun a'i droi drosodd.
Tynnwch y tun i ffwrdd yn ofalus.
Roulade mwyar duon
Mae hwn yn bwdin sydd ychydig yn fwy cymhleth i'w wneud ond mae'n werth yr ymdrech!
Cynhwysion:
Meringue:
3 gwynnwy
6oz siwgr mân
1 llwy de finegr gwyn
1 llwy de blawd corn (cornflour)
300g mwyar duon
1 llond llwy bwdin o siwgr mân
2 lond llwy bwdin o'r gwirod mafon du Chambord (dewisol)
380ml hufen dwbl (neu gymysgedd o hufen dwbl ac iogwrt Groegaidd)
Dull
Cynheswch y popty i 180℃ / 160℃ ffan / nwy 4.
Rhowch haenen o bapur pobi ar hambwrdd pobi maint 23 x 32cm.
Chwisgiwch y gwynnwy nes ei fod yn stiff ac yn sefyll yn bigau.
Ychwanegwch 1 llwy fwrdd o'r siwgr mân a chwisgiwch nes bod y gymysgedd yn ffurfio copaon sgleiniog.
Ychwanegwch weddill y siwgr, fesul llwy, nes bod y gymysgedd yn drwchus ac yn sgleiniog.
Ychwanegwch y blawd corn a'r finegr a'i gymysgu'n ofalus.
Taenwch hyd y tun a'i bobi am 12 -15 munud neu nes ei fod yn teimlo'n galed i'r cyffyrddiad. Gadewch iddo oeri.
Cymerwch lond llaw o'r mwyar duon a mudferwch nhw gyda'r siwgr mân a'r Chambord nes bod y mwyar duon yn feddal, am tua 10 munud.
I'w roi at ei gilydd gosodwch liain sychu llestri glân ar y bwrdd a darn mawr o bapur pobi drosto yna rhowch y tun meringue ben i waered arno yn ofalus. Tynnwch y tun a'r papur.
Chwipiwch yr hufen nes ei fod yn drwchus ond heb fod yn rhy stiff, ychwanegwch lwyaid fawr o Chambord (a'r iogwrt Groegaidd os ydych chi'n ei ddefnyddio). Gallwch chi hefyd ychwanegu llwy de o siwgr eisin os ydych chi'n hoffi'ch hufen yn felys (yn bersonol dwi'n meddwl bod y meringue yn hen ddigon melys) yna ei daenu dros y meringue.
Gwasgarwch y mwyar duon dros yr hufen.
Gan wneud yn siŵr fod yr ochr fyrraf yn eich wynebu rholiwch y roulade: codwch y papur, rhoi eich llaw oddi tano a mynd â'r papur (a'r roulade) oddi wrthych.
Codwch y roulade yn ofalus (mi fydda i yn defnyddio dau fish slice) a'i rhoi ar blât hir.
Yn union cyn i chi ei weini taenwch y mwyar duon wedi'u coginio (a'u hoeri) dros y roulade.
Jeli mwyar duon
Os nad ydach chi'n hoff o'r holl hadau sydd mewn jam mwyar duon beth am wneud jam heb yr hadau - sef jeli. Yr arfer yw hidlo y jeli dros nos drwy fag mwslin ond dyma i chi ffordd gynt sydd yn edrych ac yn blasu yn ddigon tebyg.
I wneud tua tair jar fach neu dwy jar fawr o jeli:
Cynhwysion
1kg mwyar duon wedi'u golchi'n dda
1kg siwgr jam
Sudd 1 lemwn mawr neu 2 lemwn bach
Dull
Rhowch y mwyar duon, ynghyd ag un llwy fwrdd fawr o ddŵr, mewn padell jam neu mewn sosban efo gwaelod trwchus.
Rhowch gaead ar y sosban a gadael i'r mwyar stiwio nes eu bod yn feddal - tua 15-20 munud.
Ychwanegwch y sudd lemwn a'r siwgr, a gadael i'r siwgr doddi'n araf ar wres isel gan ei droi bob hyn a hyn.
Rhowch soser yn y rhewgell.
Wedi i'r siwgr doddi, trowch y gwres i fyny a dewch â'r cyfan i'r berw.
Gadewch iddo ffrwtian (rolling boil) nes bod y jam yn cyrraedd 105℃ ar thermomedr bwyd.
Trowch y jam yn gyson a gwyliwch rhag iddo gydio (llosgi).
Os nad oes ganddoch chi thermomedr, gallwch ddweud ydi'r jam yn barod wrth ollwng llwyaid ar soser oer. Os yw'n setio ac yn crychu wrth i chi ei wthio, mae'n barod. Cofiwch dynnu'r sosban oddi ar yr hob tra byddwch chi'n gwneud hyn.
Gwnewch yn siŵr fod ganddoch jwg mawr a rhidyll metel (sieve) mawr wrth law. Pan mae'r jeli'n barod, ewch ati'n ofalus i'w dywallt i'r rhidyll fesul 'chydig a'i wasgu efo llwy fetel fawr fel bod yr hylif yn mynd i'r jwg a'r hadau'n aros yn y rhidyll. Ceisiwch weithio'n gyflym achos mi fydd y jeli'n setio'n gyflym. Pan fydd ganddoch chi ddigon i lenwi jar, tywalltwch y jeli i'r jar (sydd wedi'i diheintio).* Gwnewch yn siŵr fod y jariau'n gynnes rhag iddyn nhw gracio, a chariwch ymlaen.
Os ydi'r jeli'n dechrau setio, gallwch ei roi yn ôl i gynhesu am ychydig.
Rhowch gylchyn o bapur cwyr (wax disc) dros y jam cyn rhoi'r caead arno a'i labelu.
Cadwch mewn cwpwrdd tywyll ac, ar ôl ei agor, yn yr oergell. Mi gadwith yn yr oergell am tua mis.
Jin mwyar duon
Gyda chymaint o jins blasau gwahanol o gwmpas y dyddiau yma wyddoch chi ei bod hi'n hawdd iawn i wneud eich jin eich hun? Mi fydd rhaid disgwyl rhyw fis cyn ei yfed er mwyn cael y gorau o'r blas - ond mae'n werth yr aros! Mi fedrwch hefyd ei gadw tan y Nadolig a'i roi fel anrhegion.
Cynhwysion
250g mwyar duon
110g siwgr
70cl jin
Dull
Golchwch jar wydr fawr yn dda (un Kilner fydda i yn ei ddefnyddio) a'i roi mewn popty ar 160℃ am 15 munud i'w di-heintio. Os oes gan y jar sêl rwber, tynnwch hwnnw gynta' a'i ferwi mewn sosban am gwpl o funudau.
Gadewch i'r jariau sychu o'u hunain.
Golchwch y mwyar duon yn dda a'u rhoi yn y jar efo'r jin a'r siwgr.
Rhowch ysgytwad dda i'r jar a'i gadw o mewn cwpwrdd tywyll.
Ysgwydwch y jar unwaith y dydd am wythnos neu nes fod y siwgr i gyd wedi toddi.
Ar ôl mis hidlwch y diod i fewn i boteli sydd wedi eu *diheintio. Er mwyn cadw'r diod yn glir peidiwch â gwasgu y mwyar.
*I ddiheintio jariau/boteli gwydr: unai rhowch nhw mewn peiriant golchi llestri ar wres uchel neu eu golchi'n dda a'u rhoi i sychu mewn popty ar wres 140℃ am tua 10-15 munud.
Hefyd o ddiddordeb: