Tro pedol ar farchnata Plas Bodegroes fel 'Bromfield Hall'

Plas BodegroesFfynhonnell y llun, Andrew Davis, geograph.org.uk
Disgrifiad o’r llun,

Fel gwesty a bwyty roedd Plas Bodegroes wedi derbyn sawl gwobr dros y blynyddoedd - gan gynnwys seren Michelin

  • Cyhoeddwyd

Mae'n ymddangos bod pryderon yn sgil disodli'r enw Cymraeg ar blasty yng Ngwynedd i'w farchnata o dan enw Saesneg newydd wedi ysgogi tro pedol.

Roedd Plas Bodegroes ger Pwllheli, Gwynedd wedi cael ei farchnata gan y cwmni teithio Big House Experience fel 'Bromfield Hall'.

Ers ei adeiladu yn 1780 dim ond o dan yr enw Cymraeg yr oedd yr eiddo erioed wedi ei adnabod.

Roedd penderfyniad y cwmni wedi denu ymateb ffyrnig yn lleol, gydag un cynghorydd o'r farn ei fod yn dangos "amarch i'r iaith".

Ond fore Iau roedd yr enw Cymraeg gwreiddiol wedi ei adfer ar yr holl ddeunydd marchnata ar-lein, ac wedi'i ail-restru fel Plas Bodegroes.

Mae Big House Experience wedi cael cais i wneud sylw.

Y Cynghorydd Anwen Davies
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y Cynghorydd Anwen Davies roedd newid yr enw'n "dangos diffyg parch at yr iaith Gymraeg, dydw i ddim yn licio hyn o gwbl"

Am gyfnod Plas Bodegroes oedd yr unig fwyty seren Michelin yng Nghymru, tan cael ei droi'n lety gwyliau hunanarlwyo yn 2021.

Y grêd oedd ei fod wedi ei ddylunio gan Joseph Bromfield, pensaer o Amwythig.

Ers sylwi ar y newid enw dros y dyddiau diwethaf, dywedodd y cynghorydd lleol Anwen Davies ei bod wedi derbyn sawl galwad gan drigolion a oedd yn anhapus gyda phenderfyniad gwreiddiol y cwmni.

Yn ward Efailnewydd a Buan mae 72.5% o'r trigolion yn siaradwyr Cymraeg.

Ychwanegodd bod angen cymryd camau yn erbyn colli enwau enwau gwreiddiol Cymraeg "er mwyn osgoi agor y llifddorau".

"Dydw i'm yn hapus o gwbl, er bod hi'n dda i glywed os ydyn nhw wedi newid yr enw yn ôl," meddai'r Cynghorydd Davies wrth BBC Cymru.

"Dwi'n deall nad oedd enw'r tŷ ei hun wedi newid o Blas Bodegroes, ond dwi'n meddwl bod hi'n amharchus trio newid enw hanesyddol mewn unrhyw ffordd.

"Mae'n dangos diffyg parch at yr iaith Gymraeg, dydw i ddim yn licio hyn o gwbl."

"Mae 'na lot o bobl leol wedi bod yn siarad am y peth a dydn nhw ddim yn hapus.

"Ond os mae o'n cael ei adnabod fel Plas Bodegroes unwaith eto yna mae hynny'n beth da o leia'."

Pynciau cysylltiedig