Cwmni drag anabl cyntaf Cymru'n 'rhoi hyder' i bobl

Criw House of DeviantFfynhonnell y llun, Chris Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

House of Deviant yw'r cwmni drag anabl cyntaf, a’r unig un, yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd

“Mae'n gwneud i fi deimlo'n wych ac yn hyderus. Rwy’n falch o fod yn fenyw mewn drag.”

Mae bod yn frenhines ddrag anabl wedi cael effaith sylweddol ar fywyd Nicole Bird.

Mae hi’n rhan o House of Deviant, y cwmni drag anabl cyntaf, a’r unig un yng Nghymru.

Mae'r criw yn paratoi i berfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Ymunodd Nicole, 27 oed o Gaerffili, â House of Deviant yn ystod y cyfnod clo ac mae’n cynnig cyfleoedd iddi’n barhaus.

“Fy enw drag yw Flossie Sunshine!” meddai.

"Mae’n gwneud i fi deimlo’n bwysig bod yn rhan o’r grŵp drag anabl cyntaf yng Nghymru.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae Nicole wedi cael cyfle i ddysgu Cymraeg a mwy am Gymru, dywedodd

Bydd Nicole yn perfformio mewn sioe o’r enw Ffabinogion yn yr Eisteddfod Genedlaethol, sy’n cynnig gwedd fodern ar rai o chwedlau’r Mabinogi.

Nid yw’r cwîns anabl yn siarad Cymraeg felly maen nhw wedi bod yn dysgu ymadroddion a llinellau ar gyfer y sioe.

“'Dw i wedi bod yn mwynhau dysgu Cymraeg a dysgu am Gymru,” meddai Nicole.

'Bod yn nhw eu hunain'

Mae Ellis Lloyd Jones yn gyflwynydd ac yn ddylanwadwr TikTok o‘r Rhondda’n wreiddiol.

Ef fydd yn arwain perfformiad House of Deviant ar y llwyfan.

Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Ellis Lloyd-Jones bersona drag ei hun ac mae'n falch bod cyfle i bobl "fod yn nhw eu hunain"

Dywedodd Ellis ei fod wedi clywed am waith y grŵp ychydig fisoedd cyn cael ei wahodd i gymryd rhan, a’i fod wrth ei fodd gyda’i hysbryd nhw.

“O'n nhw’n gwneud drag – ma' nhw jest yn joio fe, ma' nhw’n perfformio a bod yn nhw eu hunain, a dyna rywbeth fi’n neud lot pan fi’n neud drag, fi’n mynd ar y llwyfan a gweld be sy’n digwydd,” meddai.

“Mae’n bwysig bo da ni’r gynrychiolaeth yma o bobl Cymraeg anabl ac awtistig, cwiar hefyd, mae’n bwysig bod da ni rhywbeth fel hwn yn yr Eisteddfod."

'Mae'n rhan o'n diwylliant'

Nododd ei fod yn gwerthfawrogi’r bartneriaeth rhwng y gymuned LHDT a’r Eisteddfod -  Mas ar y Maes.

“Yn tyfu lan fel rhywun cwiar, o'n i ddim yn gweld lot o bethau cwiar yn digwydd yn yr Eisteddfod, ond dyddie 'ma, eleni nawr ma' da fi cwpl o sioeau lle fi’n perfformio mewn drag a ma' fe mor lysh i weld llwyth o bethau fel 'na.

“Mae’r 'Steddfod yn rhywbeth diwylliannol – diwylliant Cymru – a 'da ni gyd yn rhan o’r diwylliant – fel fi fel person cwiar sy’n perfformio mewn drag rhan fwya' o’r amser mewn Cymraeg – mae hwnna’n rhan massive o’n niwylliant i, a fi mor falch bo fi’n gallu mynd ar y llwyfan yn yr Eisteddfod a pherfformio fel 'na.

“Ma' llwyth o bethau’n rhan o’r diwylliant – mwy na cerdd dant a thelynau!”

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sophie Scheeres, 31, yn ceisio bod yn fwy hyderus

Roedd un arall o’r perfformwyr, Sophie Scheeres, 31 oed, sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Miss Shade B, yn un o’r rhai wnaeth ysbrydoli sefydlu House of Deviant.

“Rwy’n ceisio defnyddio fy llais yn fwy, bod yn fwy hyderus – dyna sydd ei angen arnaf,” meddai.

“Mae gan bob un ohonom anableddau dysgu. 'Dyn ni ddim yn ei weld felly.

“Rwy’n meddwl ei fod yn anhygoel gallu bod yn gymeriad gwahanol i bwy ydych chi. Mae Miss Shade yn sassy iawn…

“Dwi braidd yn nerfus, gyda’r iaith hefyd, achos mae’n newydd i fi… ond mae’n dod yn araf. Mae bach yn wahanol a bach yn anodd, ond rwy’n dysgu."

Disgrifiad o’r llun,

Gareth Powell yw sylfaenydd y grŵp

I Gareth Powell, sylfaenydd y grŵp, mae wedi bod yn destun balchder mawr gweld y cwîns yn ymarfer, ond yn “her go iawn” ar yr un amser.

“Mae’r prosiect nid yn unig yn datblygu eu hunan-barch ond mae’n dangos i’r byd yr hyn maen nhw’n gallu gwneud,” meddai.

Ar ôl perfformio mewn drag am 22 mlynedd ei hun, dywedodd Gareth fod ei gymeriad yn rhoi “hyder” iddo ac wedi cael effaith gadarnhaol ar ei fywyd bod dydd.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y criw yn perfformio ym Maes D yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Iau 10 Awst

Dywedodd, o ganlyniad, ei fod wedi archwilio sut i “ddefnyddio perfformiad drag gydag oedolion ag anableddau dysgu i fagu hyder a hunan-barch".

“Mae’n arf da iawn i helpu pobl sydd weithiau’n gweld hi’n anodd cael eu lleisiau wedi’u clywed,” meddai.

“Mae yna nifer o resymau pam y byddai unrhyw un eisiau 'neud drag.

“Efallai ei fod yn ymwneud ag archwilio rhywedd, efallai ei fod yn ymwneud ag hunaniaeth a hunan-barch, efallai eich bod chi wir yn hoffi glitter a sequins gwych.

“Mae House of Deviant yn ddathliad o ddynoliaeth."

'Gwahaniaeth mawr'

Un o'r teimladau mwyaf gwerthfawr i Gareth yw gwylio'r effaith y mae drag yn ei gael ar y perfformwyr.

“Pan y'ch chi'n gweld y newid yna - sut mae person yn meddwl amdano'i hun... ydyn, maen nhw'n dangos i gynulleidfaoedd pa mor wych ydyn nhw, a beth maen nhw'n gallu ei wneud, ond hefyd, mae'n gwneud gwahaniaeth mawr iawn i'r unigolyn hwnnw," meddai.

“Dyna’r aur a’r trysor yn y prosiect hwn mewn gwirionedd.”

Bydd House of Deviant yn perfformio Ffabinogion nos Iau 10 Awst am 18:30 ym Maes D yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd.