Dysmorffia'r corff yn 'diflannu' wrth droi'n Maggi Noggi

  • Cyhoeddwyd
Maggi NoggiFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Maggi Noggi

Mae Kristoffer Hughes wedi darganfod bod troi'n gymeriad drag yn cael gwared â'i anhwylder dysmorffia'r corff.

Ers blynyddoedd bu'n casáu'r ffordd mae'n edrych ac yn hunanymwybodol iawn o'i gorff a'i daldra o chwe throedfedd a thair modfedd.

Ond dywed Kristoffer, sy'n dderwydd baganaidd ac wedi dod yn adnabyddus fel y cymeriad Maggi Noggi, bod drag yn cael y gorau o'i dysmorffia.

"Mae'n diflannu mewn eiliadau a dyna ydi'r rheswm fyddai'n caru'r ffaith bod gen i'r cyfle i fod yn rhywun arall," meddai ar raglen Beti a'i Phobl ar Radio Cymru.

'Byth yn ffitio mewn'

"Dwi 'di diodde' ar hyd fy oes a dal i ddiodde' efo dysmorffia y corff. Fydda i'n poeni yn arw dros y ffordd dwi'n edrych. Dwi erioed wedi bod yn gyhyrog, dwi erioed wedi cael corff arbennig o hyfryd i edrych arno a dwi wedi gorfwyta ar hyd fy oes - a dwi'n deall rŵan bod y gorfwyta yn ffordd dwi'n ymdopi efo fy emosiynau - emotional eating maen nhw'n galw fo.

"Do'n i byth yn teimlo mod i'n ffitio mewn - ro'n i'n tyfu fyny fel hogyn yn symud i mewn i'r gymdeithas hoyw ac roedden a nhw i gyd mor beautiful… a do'n i jest ddim yn teimlo fel yna. Ro'n i'n rhy dal, rhy lanky a sefyll allan am y rhesymau anghywir i gyd - a dwi dal i deimlo mod i'n sefyll allan am y rhesyma anghywir.

Ffynhonnell y llun, Ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

Hyder a hwyl mewn drag - Kristoffer fel y cymeriad Maggi Noggi gyda'r cyflwynydd Jason Mohammad

"Neshi ddechrau fel drag queen yn 1990 ac o fewn munudau nes i ddarganfod 'o gosh, dwi yn ffitio i mewn ac mi ydw i yn beautiful a dw i yn sexy a dw i yn bob dim oedd Kristoffer ddim yn gallu bod."

Mae cymeriad Maggi Noggi wedi dod yn adnabyddus dros y blynyddoedd diwethaf, gyda chyfres ar S4C, ond cyn hynny roedd Kris yn perfformio fel Patti O'Dors.

Mae'r elfen yma o'i fywyd yn wahanol iawn i'w waith bob dydd ers 31 mlynedd yn gweithio gyda'r meirw.

Straen Covid-19

Yn y rhaglen mae'n trafod y straen sydd wedi bod ar holl staff iechyd a gofal yn ystod y pandemig, yn cynnwys staff marwdy Ysbyty Gwynedd, Bangor, lle bu'n gweithio tan ddiwrnod olaf 2021.

Mae'n dweud ei bod wedi bod yn anodd gwneud ei waith arferol o ofalu am gyrff ei cleifion yn y ffordd arferol oherwydd cyfyngiadau yn sgil yr haint.

Ychwanegodd: "Mae o wedi bod mor anodd… efo'r rhifau o bobl oedd yn marw ac wedyn y ffaith bod gymaint o bobl wedi hunanladd dros y 18 mis diwetha', dwi erioed wedi gweld gymaint o hunanladdiadau a dw i wedi gweld yn y 18 mis diwetha'.

"Mae hynny'n anodd ac wedi bod yn straen. A'r straen o ddelio efo pobl sydd wedi marw efo Covid-19 a bob dydd 'da chi'n meddwl 'ydi hwn y diwrnod ydw i'n mynd i'w ddal o?' ac wedyn 'ydw i am oroesi o ddal Covid-19?'.

"A'r golled hefyd - alla i ddim disgrifio faint o anodd ydi dweud wrth bobl 'na, chewch chi ddim dod yma, chewch chi ddim gweld eich mam neu'ch nain neu'ch tad neu frawd'."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Kristoffer mewn seremoni yn ei rôl fel derwydd neo-baganaidd.

Ar y rhaglen bydd Kristoffer, sydd newydd ddathlu ei ben-blwydd yn hanner cant, yn trafod ei fagwraeth ym mhentref Llanberis ac Ynys Môn a sut daeth i ymddiddori mewn gwaith y crwner a'r patholegydd.

Bydd hefyd yn trafod ei gred mewn paganiaeth a'i yrfa newydd yn ysgrifennu a darlithio am fytholeg Cymru.

  • Bydd Beti a'i Phobol gyda Kristoffer Hughes yn cael ei darlledu ar Radio Cymru am 1300 ar 2 Ionawr, 2100 ar 6 Ionawr, a bydd hefyd ar gael ar BBC Sounds.

Hefyd o ddiddordeb: