Pa lyfrau sydd ar restr fer gwobrau Tir na n-Og?

Y llyfrau sydd wedi cyrraedd rhestr fer eleni
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi'r rhestr fer Gymraeg ar gyfer gwobrau llyfrau Tir na n-Og 2025.
Dywedodd y Cyngor Llyfrau bod y gwobrau yn "dathlu dawn a chreadigrwydd awduron a darlunwyr" sy'n creu gweithiau gwreiddiol yn Gymraeg.
Gwobrau Tir na n-Og yw'r gwobrau hynaf ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc yng Nghymru.
Mae gan y wobr Gymraeg ddau gategori - ar gyfer oedran cynradd ac oedran uwchradd.
Rhestr fer cynradd
Ni a Nhw gan Sioned Wyn Roberts, darluniwyd gan Eric Heyman (Atebol)
Arwana Swtan a'r Sgodyn Od gan Angie Roberts a Dyfan Roberts, darluniwyd gan Efa Dyfan (Gwasg y Bwthyn)
Llanddafad gan Gareth Evans-Jones, darluniwyd gan Lleucu Gwenllian (Y Lolfa)
Rhestr fer uwchradd
Cynefin, Cymru a'r Byd gan Dafydd Watcyn Williams (Gwasg Carreg Gwalch)
Rhedyn, Merlyn y Mawn gan Myrddin ap Dafydd (Gwasg Carreg Gwalch)
Cymry. Balch. Ifanc gan awduron amrywiol. Golygwyd gan Llŷr Titus a Megan Angharad Hunter, darluniwyd gan Mari Philips (Rily)

Y tri llyfr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer uwchradd
Y beirniaid ar y panel ar gyfer y llyfrau Cymraeg eleni oedd Sioned Dafydd, Rhys Dilwyn Jenkins a Lleucu Non.
Dywedodd Sioned Dafydd, Cadeirydd y panel Cymraeg: "Cyflwynwyd casgliad hyfryd o lyfrau i blant a phobl ifanc yn y ddau gategori Cymraeg eto eleni – llyfrau sydd yn darparu drych pwysig i blant a phobl ifanc Cymru yn eu holl amrywiaeth.
"Gobeithiwn y bydd plant yn gallu adnabod eu hunain wrth uniaethu gyda rhai o'r cymeriadau a'r awduron, ac o ganlyniad bod darllen llenyddiaeth plant yn llawer mwy na thasg gwaith cartref."
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn yr haf.