Pwyllgor sychder i gwrdd wedi pryder am lefelau afonydd

Mae Afon Clwyd ymysg y rheiny sydd wedi profi lefelau arbennig o isel yn ddiweddar
- Cyhoeddwyd
Bydd arbenigwyr sychder yn cwrdd yr wythnos hon i drafod a oes angen gwneud mwy i annog pobl i fod yn ofalus â'u defnydd o ddŵr, ymysg pryderon bod sawl afon yn isel.
Gallai Grŵp Cyswllt Sychder Cymru benderfynu datgan bod rhannau o'r wlad yn symud i statws 'tywydd sych estynedig'.
Mae llif nifer o afonydd yn isel wedi wythnosau heb fawr o law - gydag afonydd Dyfrdwy ac Ysgir ar eu sychaf ers i gofnodion ddechrau yn y 1970au.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y bydd y grŵp arbenigol yn cwrdd yn gyson er mwyn "sicrhau bod cyflenwadau dŵr yn cael eu rheoli'n effeithiol a bod yr amgylchedd yn cael ei warchod".
- Cyhoeddwyd25 Awst 2022
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd12 Awst 2022
Mae lefel y glawiad hyd yma'r gwanwyn hwn yng Nghymru wedi bod yn llawer is na'r cyfartaledd.
Mae'r wlad wedi profi 49% o'r lefelau y byddai'n ei disgwyl yn ystod misoedd Mawrth ac Ebrill, yn ôl Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU (CEH).
Er bod y rhagolygon yn addo tywydd gwlypach dros y penwythnos a'r wythnos nesaf, dywedodd Catherine Sefton, uwch hydrolegydd gyda CEH, bod angen cyfnod o law sefydlog.
"Oni bai ein bod ni'n gweld glawiad sylweddol nawr yn ystod diwedd y gwanwyn ac yn gynnar yn yr haf, fe fydd 'na bryderon am adnoddau dŵr a'r amgylchedd, ac effeithiau i amaethyddiaeth hefyd o ganlyniad i briddoedd sych," meddai.
Roedd hi'n arbennig o sych yn y canolbarth a'r gogledd yn ystod mis Ebrill, gydag afonydd fel Conwy, Dyfrdwy a Gwy yn "nodedig o isel", yn ôl adroddiadau CEH.
Roedd Afon Ysgir ym Mhowys yn "eithriadol o isel" - gan gofnodi dim ond 21% o'i llif arferol ym mis Ebrill.
Yr afon hon - yn ogystal â'r Dyfrdwy - a gofnododd eu lefelau isaf ar gyfartaledd yn ystod Mawrth ac Ebrill ers dechrau cadw data ar lif y dŵr.

Dyffryn Rhyd-y-Bedd ar Fynydd Hiraethog yn Sir Conwy, lle mae Afon Aled yn tarddu fel nant fechan - ond prin ei bod yn llifo ar hyn o bryd
Mae lefelau cronfeydd wedi disgyn yn gynt na'r arfer y gwanwyn hwn hefyd.
Ar 8 Mai roedd cronfeydd Dŵr Cymru 79% yn llawn yn y de-ddwyrain, 89% un llawn yn y de-orllewin, 90% yn y gogledd-ddwyrain a 92% yn y gogledd-orllewin.
Mae'r cwmni eisoes wedi annog cwsmeriaid i ystyried eu defnydd o ddŵr.
Dywedodd Ian Christie, un o'r uwch-reolwyr, eu bod yn "gweithredu mesurau i ddiogelu cyflenwadau yng nghronfeydd yr ucheldiroedd tra'n bod ni'n gallu", tra'n "parhau i wneud y mwyaf o ymdrechion i leihau gollyngiadau o'n pibellau".
'Cyfnod allweddol i bysgod ac amaeth'
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) y bu "dim neu braidd dim glaw ar draws Cymru" hyd yma fis Mai, a bod "y rhan fwyaf o afonydd yn isel ar hyn o bryd".
"Mae'r gwanwyn yn gyfnod allweddol i bysgod sy'n mudo, yn ogystal â rheolaeth tir ac amaeth," meddai Caroline Harries, pennaeth y tîm rheoli dŵr.
"Mae'n timau yn monitro lefelau a thymereddau afonydd yn ofalus," eglurodd.
"Mae CNC yn annog pobl a busnesau i ddefnyddio eu dŵr yn gall bob dydd, ac i gymryd gofal arbennig tra'n ymweld â chefn gwlad wrth i ni weithio ar y cyd i warchod yr amgylchedd naturiol."

Mae undebau amaeth wedi rhybuddio bod y tywydd sych yn peri pryder i ffermwyr wrth dyfu cnydau a phorfa i'w hanifeiliaid
Mae Grŵp Cyswllt Sychder Cymru'n cael ei gadeirio gan Lywodraeth Cymru ac yn dod â chwmnïau dŵr, CNC, y Swyddfa Dywydd ac arweinwyr amaethyddol, amgylcheddol a iechyd cyhoeddus ynghyd.
Mae BBC Cymru ar ddeall y bydd yn cwrdd ddydd Iau i adolygu'r data diweddaraf, ac o bosib y bydd yna gyhoeddiadau yn dilyn hynny.
Fe allai'r arbenigwyr benderfynu datgan cyfnod o dywydd sych estynedig ar draws Cymru, neu rannau o'r wlad.
Byddai'r newid yma mewn statws yn cynrychioli cam arall tuag at ddatgan sychder swyddogol.
Mae gwefan CNC yn nodi y byddai hyn yn golygu bod y corff yn "yn cynyddu eu camau gweithredu i helpu i liniaru'r effeithiau ar yr amgylchedd, tir, defnyddwyr dŵr a phobl".
Gallai hyn gynnwys mwy o fonitro ac archwiliadau, sicrhau bod cwmnïau dŵr yn dilyn eu cynlluniau sychder, darparu cyngor ac arweiniad i ffermwyr a sicrhau bod y sawl sy'n tynnu dŵr o afonydd yn cydymffurfio ag amodau eu trwydded.

Mae Gail Davies-Walsh o grŵp Afonydd Cymru yn annog pobl i feddwl nawr am eu defnydd o ddŵr
Yn ôl Gail Davies-Walsh, prif weithredwr Afonydd Cymru, byddai newid mewn statws yn arwain at "gynnydd mewn negesu a chyfathrebu" gan bawb sydd ynghlwm â chynllunio ar gyfer sychder.
"Ry'n ni wir yn gofyn i bobl feddwl am y ffaith bod unrhyw ddŵr y maen nhw'n ei ddefnyddio yn eu cartrefi yn dod o gronfa neu afon yng Nghymru," meddai.
Byddai bod yn gall â defnydd dŵr nawr "yn lleihau faint o fesurau sy'n rhaid i ni eu cymryd yn hwyrach" wrth i dywydd sych barhau, eglurodd.
Gallai hefyd ddiogelu pysgod a bywyd gwyllt "sy'n trio goroesi mewn dŵr is, sy'n cynhesu".

Dywedodd Tudur Davies, 78 o Lanelwy, ei fod wedi'i daro gan gymaint o arwyddion o sychder posib mor gynnar yn y flwyddyn
Y cyn-athro a darlithydd mewn gwyddorau gwlad ac amaethyddiaeth, Tudur Davies, 78, a anfonodd nifer o'r lluniau sy'n ymddangos yn yr erthygl hon.
Mae'n beicio o amgylch ei ardal leol yn Llanelwy, Sir Ddinbych, bob diwrnod yn tynnu lluniau, gan ddweud iddo gael ei daro "bod 'na arwyddion o sychder... mor gynnar yn y flwyddyn".
"Ar fynydd Hiraethog yn enwedig mae rhywun yn cysylltu cerdded ar y tir mawnog a theimlo dŵr a'r mawn yn symud o dan eich traed," meddai.
"Ond y tro yma roedd sŵn crensian - y tir wedi sychu.
"Ac o edrych o gwmpas, mae'r tir ar y bryniau yn dechrau llosgi a throi'n frown.
"Hyd yn oed os gewn ni dipyn o law wythnos nesa', mae mynd i gymryd cryn dipyn o amser i bethau newid."
'Wedi dechrau ei waith yn barod'
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "gweithio gyda phartneriaid i fonitro lefelau cyrff dŵr ar draws y wlad".
"Mae Grŵp Cyswllt Sychder Cymru wedi dechrau ei waith yn barod a bydd yn cwrdd yn rheolaidd i rannu diweddariadau ar y sefyllfa, a sicrhau bod cyflenwadau dŵr yn cael eu rheoli'n effeithiol a bod yr amgylchedd yn cael ei warchod," meddai llefarydd.