Tywydd eithafol yn her gynyddol i fyd amaeth Cymru

Disgrifiad,

Ffermwyr ym mart Castellnewydd Emlyn fu'n rhannu eu pryderon nhw am effaith y tywydd gwlyb diweddar

  • Cyhoeddwyd

Wrth i’r tywydd gwlyb barhau, mae corff WWF Cymru wedi rhybuddio bod ffermwyr eisoes yn talu pris sylweddol oherwydd effaith newid hinsawdd.

Mewn adroddiad newydd, mae WWF Cymru’n amcangyfrif bod effeithiau’r tywydd, sy’n cael eu gyrru gan newid hinsawdd, eisoes yn costio degau o filiynau o bunnoedd mewn costau ychwanegol.

Yn ôl yr elusen, mae angen i Gymru addasu i’r dyfodol, gan greu system fwyd a ffermio mwy "amrywiol a gwydn", wrth i’r hafau fynd yn gynhesach a’r gaeafau yn wlypach.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd roedd 53% yn fwy o law fis diwethaf o gymharu â mis Mawrth arferol yng Nghymru.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Huw Davies yn dweud bod y cyfnod wyna wedi bod yn hynod o heriol eleni

Mae Huw Davies wedi bod yn ffermio yn Nhrefaes Fawr, Beulah ers dros 40 o flynyddoedd.

Wedi wyna dros 1,000 o ddefaid yn ddiweddar, mae’n dweud fod y cyfnod wedi bod yn hynod o heriol, gydag effaith y tywydd gwlyb yn amlwg ar yr anifeiliaid.

“Ni 'di wyna rhyw 700 yn Ionawr a rhyw 300 ym mis Chwefror," meddai.

"Mae rhai o’r ŵyn wedi gorfod dod yn ôl i fewn. Ma’ nhw 'di bod yn iawn ers chwe i wyth wythnos a wedyn chi’n gweld nhw’n colli tir.

"Chi’n gweld yn yr ŵyn, maen nhw fel arfer mas yng nghanol y cae yn taflu eu tinau ac yn joio.

"Nawr, maen nhw’n sefyll, fel 'se nhw’n difaru dod i’r byd. Ma’ nhw’n fwd i gyd.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 50 o ŵyn wedi gorfod dod yn ôl i'r sied yn Nhrefaes Fawr ar ôl bod allan yn y caeau gwlyb

Yn rhy wlyb i droi’r gwartheg allan, mae Mr Davies yn dweud fod pawb ar eu hôl hi.

“S’dim aredig wedi ei wneud, s’dim hau wedi ei wneud.

"Fel arfer, chi’n beni byti ganol Ebrill, ond fi’n gweld hi’n mynd ‘mlân i ganol mis Mai.”

Gaeafau gwlypach yn arferol?

Mae gaeafau gwlyb, fel yr un diweddaraf, yn debygol o ddod yn arferol yn ôl WWF Cymru.

Mae’r adroddiad gan Farmlytics yn amcangyfrif bod ffermwyr wedi gorfod prynu £151m ychwanegol o borthiant da byw yn 2018 oherwydd effaith sychder, llifogydd, tyfiant cnydau a phorfa.

Mae data o 2018, 2020, a 2022 yn dangos effaith ariannol y tywydd gwlyb ar y diwydiant.

Edrychodd arbenigwyr ar effaith y ‘Beast from the East’ a'r eira trwm yn 2018; sychder haf 2018 ac yna Storm Callum; stormydd fel Storm Dennis ym mis Chwefror 2020, Storm Ciaran ym mis Tachwedd 2023 a sychder yn ystod haf 2022.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r caeau gwlyb wedi'i gwneud hi'n anodd iawn i droi'r gwartheg allan o'r siediau neu wneud unrhyw waith aredig, hau neu chwalu gwrtaith

Amcangyfrifir bod gwerth £23.8m o ŵyn wedi marw yn 2018 oherwydd tywydd gwlyb.

Yn 2022/23 arweiniodd sychder at gynnydd o £265m mewn costau porthiant.

Dros y bum mlynedd ddiwethaf, mae Cymru wedi profi tywydd eithafol oherwydd stormydd difrifol, llifogydd, eira trwm a sychder yn ystod yr haf.

Disgrifiad o’r llun,

Pryder Vivian Griffiths yw bod y tywydd gwlyb yn gwthio gwaith y tymor ymlaen a chynyddu costau

Ym mart Castellnewydd Emlyn, trin a thrafod y tywydd oedd y ffermwyr yno hefyd.

Dywedodd Vivian Griffiths o Gynwyl Elfed: “Mae’r tywydd wedi gwneud sefyllfa eleni gymaint gwaeth.

"Dy’n ni ddim yn gallu meddwl am droi’r da mas ar hyn o bryd. Does gyda chi ddim o’r siawns i roi gwrtaith na dim byd.

"Ar hyn o bryd, mae e’n mynd i bwsho pobl 'mlân trwy’r flwyddyn a mae’r costau yn mynd i fod yn fwy blwyddyn nesa’.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae Teleri Bowen yn poeni bod y silwair ar fin gorffen a bydd angen gwario ar borthiant

Y costau ychwanegol oedd pryder Teleri Bowen o Dre-lech hefyd.

“Ma’ wythnos neu ddwy ar ôl yn y pit seilej gyda ni ar hyn o bryd, ond ma’ eisiau prynu bach o fêls mewn wedyn yn ychwanegol i hyn.

"Mae e’n gost dy’n ni ddim eisiau yn ychwanegol amser hyn y flwyddyn.”

Disgrifiad o’r llun,

"Ti’n cael colledion oherwydd glaw ers sawl blwyddyn ond ma’ 'leni wedi bod yn amser eithaf anodd," yn ôl Aled Davies

Soniodd Aled Davies o Felin-fach am brofi colledion oherwydd y tywydd garw.

“Gartref, fi’n wyna tu allan. Gyda’r glaw 'ma, mae e’n gwneud e sawl gwaith yn anoddach o ran cadw’r ŵyn yn fyw. Mae e’n sialens.

"Mae anifail yn gwneud yn well gyda haul ar eu cefnau nhw na glaw.

"Ti’n cael colledion oherwydd glaw ers sawl blwyddyn ond ma’ 'leni wedi bod yn amser eithaf anodd.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae Aled Davies yn poeni eu bod ar ei hôl hi gyda gwaith tir

Mae Aled Davies o Rydlewis yn poeni am lwyth gwaith sy’n cynyddu a’r amser sy’n prinhau.

“Jyst ni fel busnes, ry’n ni mis tu ôl ar y gwaith aredig.

"Ma’ deadlines gyda pob un a ni’n moyn beni’r gwaith mor gynted â gallwn ni, er mwyn bwrw 'mlân i’r peth nesa’.

"Ma’r tywydd ‘ma yn dechrau mynd yn droiedig.”

Cynnyrch Cymreig yn llai cystadleuol?

Yn ôl yr economegydd Dr Edward Jones, gallai’r costau ychwanegol wneud cynnyrch Cymreig yn llai cystadleuol yn ddiweddarach yn y flwyddyn, gyda mewnforion rhatach.

“Un o’r prif ffactorau sy’n cael dylanwad ar brisiau bwyd yw prisiau egni, a mae prisiau egni wedi bod yn dod lawr i bawb dros sawl gwlad," meddai.

"Dy’n ni ddim yn disgwyl gweld prisiau egni yn codi llawer eto yn y blynyddoedd i ddod.

"Y disgwyliadau yw y bydd costau bwyd mewn gwledydd arall yn dal i fod yn isel.

"Mae o am fod yn gyfnod anodd iawn i’r diwydiant amaeth yng Nghymru oherwydd y tywydd maen nhw wedi bod yn eu hwynebu, oherwydd y gystadleuaeth o wledydd eraill, ac hefyd yr ansicrwydd o ran y cymorth maen nhw’n mynd i gael gan y llywodraeth.”

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Gareth Clubb fod "ffermio mewn modd sydd yn gyfeillgar i natur" wedi helpu rhai i addasu

Yn ôl arbenigwyr, mae angen i Gymru greu system fwyd a ffermio mwy "amrywiol a gwydn" i helpu gwrthsefyll effaith newid hinsawdd.

Maen nhw'n awgrymu cynyddu cylchdroadau cnydau, helpu i gynaeafu dŵr glaw a darparu mwy o orchudd coed fel mesurau i helpu ffermwyr i ymdopi â thywydd mwy eithafol.

Dywedodd cyfarwyddwr WWF Cymru, Gareth Clubb: “Mae yna bethau fe all ffermwyr wneud, ac mae’r adroddiad yn dangos bod rhai ffermwyr wedi gallu goroesi yn well nag eraill o ran lleihau costau ar eu ffermydd unigol.

"Lle mae ffermwyr yn ffermio mewn modd sydd yn gyfeillgar i natur, ma’ hwnna wedi helpu nhw i addasu.

"Mae rôl fan ‘na i Lywodraeth Cymru hefyd i sicrhau bod yr arian sy’n mynd at y sector amaeth yn trio annog ffermwyr i fyw a ffermio mewn modd sydd yn hybu gwydnwch i’r tywydd eithafol yn y dyfodol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gerald Miles o Dyddewi yn teimlo bod yn rhaid i ffermwyr newid eu ffordd, ond bod angen mwy o help gan y llywodraeth

Galw ar y llywodraeth am gymorth mae Gerald Miles o Fferm Organig Caerhys yn Nhyddewi, Sir Benfro hefyd.

Wedi ffermio ers dros 60 mlynedd, mae’r gŵr sy’n rhan o’r seithfed genhedlaeth i ffermio’r tir yn dweud: “Mae’n rhaid i ni altro’n ffordd. Falle bydd rhaid i ni ga’l llai o stoc.

"Mae e’n ben tost i ni, a ni’n ffarm fach. Os mae e’n ben tost i ni, mae e’n ben tost i ffermwyr sydd a 1,000 o wartheg neu beth bynnag.

"Ma' eisiau i’r llywodraeth edrych ar ffyrdd eraill i gefnogi ffermwyr i newid. Neu ydy’r llywodraeth eisiau dibynnu ar imports pan gall Cymru feedio ei hunan?

"Dylen nhw gysylltu â’r ffermwyr a helpu ni altro, edrych 'mlân shwt ni’n mynd i survivo.”

Disgrifiad o’r llun,

Dros y bum mlynedd ddiwethaf, mae Cymru wedi profi tywydd eithafol oherwydd stormydd difrifol, llifogydd, eira trwm a sychder

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Yr argyfwng hinsawdd yw'r prif risg i gynhyrchu bwyd, a'n hecosystemau naturiol yw'r amddiffyniad gorau sydd gennym wrth addasu a lliniaru newid yn yr hinsawdd.

"Rydym am i genedlaethau'r dyfodol barhau i gynhyrchu bwyd o'r safon uchaf yng Nghymru, ond byddant yn ffermio o dan amodau gwahanol iawn i heddiw.

"Mae'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig wedi'i gynllunio i helpu ffermwyr i ymateb i'r heriau hyn a'n helpu i gyflawni ein hymrwymiadau i bobl Cymru."

'Fedri di ddim amaethu i galendr'

Ar ran Undeb Amaethwyr Cymru, dywedodd Alun Owen o Bentrefoelas, bod addasu yn mynd i gymryd amser.

“Fedri di ddim amaethu i galendr. Dilyn y tymhorau mae ffermwyr.

"Beth bynnag 'dan ni’n 'neud eleni, neith o’m effeithio ni am ddegawdau.

"Plannu coed ag ati, wel planna di goeden 'leni, fydd hi’m yn tyfu yn goeden am 20 mlynedd p’run bynnag, a 'neith honno ddim tynnu carbon i fewn am 20 mlynedd.

"’Dan ni gyd eisiau cyrraedd yr un nod, ond y cyfan 'dan ni eisiau yw bod ni’n cyrraedd y nod mewn dull sy’n gall i bawb.”