Ymgyrch Movember yn gymorth i’r sawl sy’n cuddio eu teimladau

Disgrifiad,

  • Cyhoeddwyd

Mae Clwb Rygbi Prifysgol Caerdydd yn anelu at dorri eu record codi arian ar gyfer yr elusen Movember am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Bu farw tad un o'r myfyrwyr drwy hunanladdiad a dywed bod yr elusen, sy'n cefnogi 1,320 o brosiectau iechyd meddwl ar draws y byd, yn bwysig iddo.

Cafodd ‘Movember’ ei sefydlu gan ddau ffrind o Awstralia nôl yn 2003.

Mae’r chwaraewyr rygbi ar frig y tabl codi arian ar draws Prydain.

Cododd y clwb dros £33,000 y llynedd.

Pan oedd Alex Ray, o Abertawe, yn 13 oed, bu farw ei dad drwy hunanladdiad. Mae ymdrechion y clwb wedi bod yn gysur iddo, meddai.

Mae Tomi Booth, 21 oed o Lantrisant yn ffrind ac yn gyd-chwaraewr i Alex.

Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd y maswr bod yr ymgyrch bob tro yn gymorth i’r sawl sy’n cuddio eu teimladau.

"O'n i 'di sylweddoli bod mwy o bobl nag o’n i’n meddwl falle gyda problemau ac eisiau siarad am rywbeth."