Dyfodol Warren Gatland i'w benderfynu gan adolygiad URC

Warren GatlandFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Bydd dyfodol Warren Gatland fel prif hyfforddwr Cymru yn cael ei benderfynu gan adolygiad URC

  • Cyhoeddwyd

Bydd dyfodol y prif hyfforddwr Warren Gatland yn cael ei benderfynu gan adolygiad Undeb Rygbi Cymru (URC) o Gyfres yr Hydref.

Mae'r golled o 45 pwynt i 12 yn erbyn De Affrica dydd Sadwrn yn golygu bod Cymru wedi colli 12 gêm brawf yn olynol, sy'n ymestyn record o ran colledion.

Dywedodd Gatland ei fod yn parhau i fod â "chymhelliant" i aros wrth y llyw ond y byddai'n siarad â'r URC a gweld beth sy'n digwydd dros "y dyddiau nesaf".

Bydd adolygiad o ganlyniadau mis Tachwedd yn cael ei arwain gan brif weithredwr URC Abi Tierney, sy'n dweud y bydd yn cael ei gwblhau cyn y Nadolig.

Mae ymgyrch Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn dechrau ar 31 Ionawr yn erbyn Ffrainc ym Mharis.

Nid yw'n glir os fydd Gatland - sydd wedi colli 18 o 24 gemau prawf yn ei ail gyfnod - yn dal wrth y llyw ar gyfer yr ymgyrch.

Pan ofynnwyd i gadeirydd URC Richard Collier-Keywood ynghylch hynny, dywedodd: "Rwy'n meddwl bod hynny'n amodol ar yr adolygiad, ac mae'n rhaid i ni roi cyfle i'r adolygiad edrych ar bob agwedd ar y perfformiad."

Dywedodd Collier-Keywood ei fod yn credu bod Gatland yn parhau i fod yn un o hyfforddwyr gorau'r byd, a mynnodd nad ef oedd unig ffocws yr adolygiad.

"Nid yw hwn yn adolygiad o Warren Gatland, rwyf am wneud hynny'n glir iawn," meddai.

"Mae hwn yn adolygiad o berfformiad URC. Mae Warren yn mynd i gymryd rhan lawn ac mae ganddo lawer iawn i'w roi.

“Byddai’r cyhoedd yng Nghymru yn disgwyl i ni wneud adolygiad ac mae’n bwysig nad ydym yn ei gyfyngu i un agwedd.

"Mae Warren yn elfen bwysig ond fydd llawer mwy yn cael ei ystyried."

'Gormod o sylw ar Warren'

Roedd Collier-Keywood yn siarad yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol URC lle dywedodd rhai o'r clybiau eu bod yn teimlo bod Gatland wedi ysgwyddo gormod o graffu cyhoeddus.

"Wrth feddwl, mae'n debyg fod gormod o sylw wedi bod ar Warren," meddai Collier-Keywood.

“Fe yw’r person sy’n cael ei gyfweld ar ôl pob gêm.

“Dim ond dynol yw e, a galla'i ond dychmygu pa mor anodd yw hynny yn ystod y cwpl o gemau diwethaf yn benodol.

“Fel prif hyfforddwr, chi sy’n gyfrifol am berfformiadau’r tîm, felly dyna sy’n dod gyda’r swydd.

"Erbyn meddwl, fel URC, mae angen i ni sefyll i fyny a'i gefnogi."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Abi Tierney (chwith) a Richard Collier-Keywood

Tierney fydd yn arwain yr adolygiad gyda mewnbwn gan gyfarwyddwr gweithredol rygbi URC, Nigel Walker, yr aelod bwrdd Jamie Roberts a'r llywydd Terry Cobner.

Dywed y prif weithredwr y bydd hi'n cydweithio gyda Gatland a'i dîm rheoli, a bydd mewnbwn allanol hefyd gan chwaraewyr presennol a chyn-chwaraewyr.

"Mae gennym nifer o chwaraewyr rygbi ar ein bwrdd a fydd yn cyfrannu ato," meddai Tierney.

"Rwyf hefyd wedi cael rhai cyn-chwaraewyr yn cytuno i gyfrannu ato, felly bydd nifer o fewnbynnau gwahanol, nid dim ond fi.

"Rwy'n gwybod sut i wneud adolygiad da ond dydw i ddim yn arbenigwr rygbi, felly byddaf yn tynnu ar arbenigedd ar gyfer hynny. Rydym yn edrych ar bopeth, beth sydd orau i symud Cymru ymlaen."

Cadarnhaodd Tierney fod cytundeb Gatland tan Gwpan y Byd 2027 ond ni ddatgelodd os oes cymal i dorri'r cytundeb. Gwadodd Gatland fod cymal o'r fath yn ei gytundeb wythnos ddiwethaf.

"Nid yw hynny'n berthnasol ac mae'n gyfrinachol o gytundeb personol rhywun," meddai Tierney.

Gwadodd Tierney hefyd na allai URC fforddio i Gatland adael.

"Nid yw hynny'n gywir," meddai. “Yn gyffredinol, os mai hwn yw’r penderfyniad cywir byddwn yn gweithio trwy’r penderfyniad hwnnw.

"Ni fydd unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud ar sail cost."

Chwe Gwlad ar y gorwel

Mae Tierney yn derbyn y bydd yn rhaid i'r adolygiad gael ei wneud yn gymharol gyflym, gyda chyfarfod bwrdd wedi'i drefnu ar gyfer 17 Rhagfyr.

“Rydyn ni'n eu gwneud nhw ar ôl pob cyfres, rydyn ni'n cydnabod bod angen i'r un yma gael hyd yn oed mwy o fewnbwn iddi nag un arferol oherwydd rydyn ni mewn sefyllfa anhygoel,” meddai Tierney.

“Pe bai atebion cyflym, fe fydden ni wedi gweithredu'r atebion cyflym, felly mae’n rhaid iddo ymwneud â beth yw’r newidiadau cynaliadwy y gallwn eu gwneud.”

Cyfaddefodd Collier-Keywood hefyd y byddai'n rhaid i URC roi ateb dros dro i ddechrau pe bai Gatland yn gadael.

"Does dim ffordd y byddwn ni'n gallu recriwtio prif hyfforddwr o safon Warren ar gyfer y Chwe Gwlad o ystyried yr amserlen, felly fe fydden ni'n edrych i roi prif hyfforddwr dros dro," meddai Collier-Keywood.

Ychwanegodd Tierney: "Mae hynny'n rhan o'r penderfyniad. Dydyn nhw ddim i gyd yn sefyll mewn rhes yn disgwyl.

“Mae llawer o hyfforddwyr da iawn eisoes dan gytundeb felly mae’n rhaid i hynny fod yn rhan ohono.

"Pa ddewisiadau sydd gennym ar gael?"

Cyfaddefodd Collier-Keywood ei bod yn bwysig eu bod yn gwneud y penderfyniad cywir a dywedodd fod URC yn ymwybodol gall y rhediad gwael yn cael ei ymestyn.

"Mae gennym ni gemau caled i'w chwarae yn y Chwe Gwlad," meddai Collier-Keywood.

“Ond yn yr un modd mae gennym ni rywfaint o amser gyda’r chwaraewyr yn symud ymlaen ac rwy’n siŵr y byddan nhw wedi dysgu llawer o Gyfres yr Hydref eleni.

“Ni wedi cael ychydig o anafiadau sydd heb helpu ac rydyn ni’n obeithiol y byddan nhw’n dod yn ôl ac y bydd gan Warren garfan fwy i ddewis ohonyn nhw, os yw e yno.”