Pride Cymru'n dathlu mwy o Gymraeg nac erioed eleni

Pride Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth filoedd o bobl ymgynnull ger Gwesty'r Angel i ddechrau ar yr orymdaith dwy filltir o amgylch canol y ddinas, gan orffen wrth y Castell

  • Cyhoeddwyd

Eleni bydd Pride Cymru'n dathlu 40 mlynedd ers yr orymdaith hawliau hoywon gyntaf yng Nghaerdydd nôl yn 1985.

Fore Sadwrn fe wnaeth filoedd o bobl ymgynnull ger Gwesty'r Angel i ddechrau ar yr orymdaith dwy filltir o amgylch canol y ddinas, gan orffen wrth y Castell.

Aelodau'r gymuned traws sy'n arwain gorymdaith yr ŵyl LHDTC+ mwyaf yng Nghymru, er mwyn gwneud safiad yn erbyn dyfarniad diweddar y Goruchaf Lys dros ddiffiniad menyw.

Mae'r adloniant a'r dathliadau yn parhau drwy gydol y penwythnos yng Nghae Cooper ym Mharc Bute, fydd yn cynnwys perfformiadau byw.

Pride CymruFfynhonnell y llun, Pride Cymru/Matthew Horwood

Mae Pride Cymru'n ddigwyddiad blynyddol sy'n parhau i dyfu, ac mae wedi derbyn mwy o bobl nac erioed o'r blaen wedi cofrestru eleni, gyda disgwyl dros 50,000 i fynychu.

Am y tro cyntaf eleni, mae pedwar llwyfan - dau yn fwy nag yn y gorffennol.

Mae'r Llwyfan Gymunedol yn cael ei noddi gan S4C mewn ymgais i hyrwyddo dwyieithrwydd a chymunedau amrywiol Cymru.

Y brif nod yw rhoi rhagor o gyfleoedd i berfformwyr Cymraeg ymgolli yn eu diwylliant, cerddoriaeth a'u doniau – ond mae'r trefnwyr yn dweud hefyd ei fod yn gyfle i amddiffyn hawliau cymunedau LHDTC+ mewn cyfnod sydd wedi bod yn heriol yn wleidyddol.

Llun bortread o Meg John, Rheolwr Cefnogi Digwyddiadau ar gyfer elusen Pride Cymru, yn eistedd gyda'i breichiau wedi'u croesi o'i blaen. Mae ganddi sbectol am ei thrwyn a gwallt hir brown golau.Ffynhonnell y llun, Meg John

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Gwener dywedodd Meg John, rheolwr cefnogi digwyddiadau Pride Cymru, y bydd "y ffocws lot mwy ar y gymuned eleni".

Awgrymodd fod S4C, sy'n noddi un o'r llwyfannau, am atynnu rhagor o leisiau Cymraeg i'r digwyddiad ac am hyrwyddo cynrychiolaeth "well o'r Gymraeg".

Ond mae peth bryder wedi bod am y tymheredd uchel sy'n cael ei ragweld yn y brifddinas dros gyfnod yr ŵyl.

"Mae'r tywydd yn grêt i gael pobl i mewn, ond hefyd, mae hi am fod yn dwym – mae'n rhaid i bobl wneud yn siŵr eu bod yn cadw eu hunain yn saff," meddai Meg John.

Mae rhagor o wybodaeth yn cael ei rannu ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Pride Cymru, ac mae gorsafoedd dŵr o amgylch y safle.

Mwy o berfformwyr Cymraeg

Gan y bydd pedwar llwyfan eleni, mae mwy o le ac amser i'w cynnig ar gyfer perfformwyr Cymraeg.

Mae drags Cymraeg gan gynnwys Anniben, Catrin Feelings a Connie Orff yn perfformio, ynghyd â pherfformiadau gan DJs a bandiau.

Rhai enwau cyfarwydd eraill fydd yn arwain perfformiadau nos Sadwrn a Sul yw Ella Henderson ac Una Healy.

Pynciau cysylltiedig