Protest yn erbyn dyfarniad diffiniad menyw yng Nghaerdydd

- Cyhoeddwyd
Mae dros 1,000 o bobl wedi ymuno â phrotest yn erbyn penderfyniad llys ynghylch beth sy'n diffinio os yw person yn fenyw.
Fe wnaeth y dorf orymdeithio trwy ganol Caerdydd i'r Sgwâr Canolog ddydd Llun, ble roedd areithiau gan ymgyrchwyr.
Ddydd Mercher, fe wnaeth barnwyr y Goruchaf Lys benderfynu bod "menyw a rhyw o fewn Deddf Cydraddoldeb 2010 yn golygu menyw fiolegol a rhyw fiolegol".
Dywedodd y barnwyr bod y gyfraith dal yn amddiffyn pobl trawsryweddol.
'Cam yn ôl'
Dywedodd trefnwyr y brotest ddydd Llun bod y penderfyniad yn "gam yn ôl" i gydraddoldeb.
Dywedodd Matthew Lloyd ei fod wedi ymuno â'r brotest er mwyn "sefyll gyda'r gymuned traws dros Gymru a'r DU".
"Mae hawliau traws yn hawliau dynol ac mae'n rhaid ymladd yn erbyn unrhyw ymgais i'w torri", meddai.
"Dydy cydraddoldeb, diogelwch a pharch i bobl traws ddim yn ddewisol, does dim dadl."
Yn y dyfarniad, dywedodd y Barnwr yr Arglwydd Hodge bod ailbennu rhywedd (gender reassignment) yn rhywbeth sy'n cael ei amddiffyn gan y gyfraith, a bod cyfreithiau yn atal gwahaniaethu ar ei sail.
Ond daeth y barnwyr i'r casgliad bod angen dibynnu ar y dehongliad biolegol o ryw ar gyfer lleoliadau un-rhyw fel ystafelloedd newid neu hosteli.
Dywedodd y barnwyr bod dryswch wedi codi ym meysydd chwaraeon, elusennau a'r lluoedd arfog, a bod y "problemau ymarferol sy'n codi dan system rhyw ar sail tystysgrif" yn "arwyddion clir" nad yw'r dehongliad hwnnw'n gywir.