Rhun ap Iorwerth â 'gweledigaeth radical' i Gymru

Rhun ap Iorwerth
  • Cyhoeddwyd

Mae Arweinydd Plaid Cymru yn dweud bod ganddo "weledigaeth radical" ar gyfer llywodraethu Cymru.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod gan ei blaid "weledigaeth gadarnhaol" ar gyfer dyfodol Cymru a'u bod yn benderfynol i gael "math gwahanol o lywodraeth gyda lefel wahanol o uchelgais".

Mewn cyfweliad â BBC Politics Wales i nodi dechrau tymor y Senedd, dywedodd fod pleidleiswyr yn mudo o'r Blaid Lafur i Blaid Cymru oherwydd nad oedd plaid Keir Starmer yn cynnig "gweledigaeth go iawn na'r penderfyniad i geisio bod yn driw i'r gwerthoedd sy'n bwysig i aelodau Llafur".

Mae polau piniwn diweddar yn dangos bod Plaid Cymru, gyda Reform UK gam y tu ôl iddyn nhw, ar y blaen pan mae hi'n dod at etholiadau'r Senedd fis Mai nesaf.

Nhw yw'r blaid fwyaf tebygol o allu ffurfio'r llywodraeth Cymru nesaf.

Hon fyddai'r etholiad mawr cyntaf yng Nghymru mewn can mlynedd i'r Blaid Lafur ei cholli.

'Ymladd i ennill' yr is-etholiad

Gydag wyth mis tan yr etholiad hanesyddol yma, mae Mr ap Iorwerth yn gweld ei hun fel yr unig blaid sy'n gallu curo Reform UK.

Wrth gyfeirio at is-etholiad Caerffili fis nesaf, dywedodd fod hi'n sedd y "gallwn ni ennill" ac y bydden nhw'n "ymladd i ennill".

Ond dywedodd ei fod yn ymwybodol eu bod yn brwydro yn erbyn "Plaid Brydeinig gydag adnoddau sydd bron yn ddiniwed sydd eisiau defnyddio Caerffili i gyflawni uchelgeisiau Prydeinig".

Ond cefais yr argraff na fyddai Rhun ap Iorwerth yn digalonni os y bydden nhw'n dod yn ail i Reform gan y byddai hynny'n rhoi neges glir i'r etholwyr ar draws Cymru mai nhw ydy'r dewis amgen dros Reform, yn hytrach na'r Blaid Lafur.

Rhun ap Iorwerth Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Rhun ap Iorwerth yn arweinydd pragmatig, o'i gymharu â'i ragflaenwyr gan ei fod wedi penderfynu rhoi ei uchelgais am Gymru annibynnol i'r naill ochor er mwyn ehangu apêl y blaid.

Gyda hynny mewn golwg, gofynnais pa mor radical fydd y "weledigaeth radical" yma mewn gwirionedd?

"Dw i eisiau gweld newid sylfaenol yn agweddau'r llywodraeth yn edrych o ddifri am yr atebion i ddelio gyda phroblemau Cymru," meddai Mr ap Iorwerth.

Soniodd am "chwyldro mewn gofal iechyd ataliol" a mynd i'r afael â "gwaddol ofnadwy y Blaid Lafur ar restrau aros".

Fe soniodd hefyd am "newid y ffordd 'da ni'n dysgu llythrennedd a rhifedd mewn ysgolion".

'Gweledigaeth radical'

Yn gwrthod y syniad bod y rhain yn fân newidiadau, dywedodd Mr ap Iorwerth fod ei blaid yn mynd i gyflwyno taliad plant uniongyrchol yn debyg i'r hyn sydd wedi digwydd yn yr Alban.

Dywedodd: "Un o'r pethau 'da ni wedi bod gofyn i Lafur wneud ers blynyddoedd ydy mynd i'r afael go iawn â'r scandal o dlodi plant yng Nghymru.

"Mi fyddwn ni'n cyflwyno taliad uniongyrchol i godi plant allan o dlodi.

"Mae hyn yn wleidyddiaeth radical, sy'n delio â'r pethau sy'n achosi creithiau yn ein cymunedau."

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid Lafur: "Credwn fod cael gwared ar dlodi plant yn flaenoriaeth i bob llywodraeth.

"Ond nid economeg ffantasi Plaid Cymru yw'r ateb.

"Maen nhw'n ceisio rhwystro arian ar gyfer prydau ysgol a gofal plant am ddim, ond eto maen nhw eisiau gwario arian heb ddweud o le y byddai'n dod. Fel bob amser gyda Phlaid Cymru, nid yw'r symiau'n adio i fyny."

Gallwch chi wylio'r cyfweliad yn llawn, ddydd Sul ar BBC One Wales am 10:00 neu yn hwyrach ar BBC iPlayer.