Virgin Media yn ymddiheuro am alw chwaraewr Cymru yn 'butain'

- Cyhoeddwyd
Mae cwmni Virgin Media wedi ymddiheuro ar ôl i wybodaeth ar gyfer rhaglen Jonathan ar S4C alw bachwr Cymru Ryan Elias yn "butain".
Roedd gwasanaeth teledu Virgin Media yn rhestru'r wybodaeth ar gyfer y rhaglen nos Iau nesaf gan ddweud y byddai'r gwestai yn cynnwys "actress Siân Reese Wililams and hooker Ryan Elias".
Ond yn Gymraeg roedd yn dweud: "Yn ymuno â Jonathan, Nigel, a Sarra yn y stiwdio mae'r actores Siân Reese Williams a'r butain Ryan Elias."
Cafodd llun o'r camgymeriad ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol yr wythnos hon.
'Camgymeriad cyfieithu'
Dywedodd llefarydd ar ran Virgin Media: "Rydyn ni'n ymwybodol o gamgymeriad cyfieithu wnaeth ymddangos ar ein canllaw teledu.
"Cafodd hyn ei gywiro'n sydyn gan ein darparwr allanol, ac rydyn ni'n ymddiheuro am unrhyw ofid sydd wedi'i achosi."
Dywedodd llefarydd ar ran S4C: "Roedd manylion y rhaglen yn gywir yn ein gadael ni yma yn S4C yn Gymraeg ac yn Saesneg ac wedi ymddangos felly ar bob llwyfan darlledu ond am un.
"Mae'r darparwr technegol ar gyfer y llwyfan hwnnw wedi ymddiheuro, wedi cynnal ymchwiliad ac wedi cywiro'r camgymeriad erbyn hyn."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.