Teyrngedau i 'un o'r goreuon', Annette Bryn Parri

Annette gyda Chôr Heddlu Gogledd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau lu wedi cael eu rhoi i'r gyfeilyddes a hyfforddwraig o Ddeiniolen, Annette Bryn Parri, sydd wedi marw yn 62 oed.
Roedd hi wedi cyfeilio Hogia'r Wyddfa am flynyddoedd, a hynny ers 1992.
Rhoddodd Arwel Jones deyrnged i ffrind oedd yn "un o Hogia'r Wyddfa".

Hogia'r Wyddfa, Annette a'i mab, Bedwyr
Dywedodd: "Roedd hi'n gadarn ac yn gerddorol eithriadol. Roedd hi'n bosio ni pan oedd rhaid; roedd ei dawn cerddorol hi yn llawer gwell na'n doniau cerddorol ni, ac oeddan ni'n derbyn hyn gan Annette.
"O'n i'n cael y fraint o'i chyflwyno ar ddechrau bob cyngerdd fel un o gyfeilyddion gorau Cymru, ac mi roedd hi.
"Nid yn unig i ni, ond i artistiaid eraill hefyd, rhai ohonyn nhw yn fyd enwog, ac wedi dibynnu ar gyfeiliant yr hogan 'ma o Ddeiniolen.
"Mi fydd yn rhaid i mi rŵan, fyw ar yr atgofion... a dwi 'mond yn gobeithio fydd yr atgofion yn eli ar y briw, sy'n brifo ac yn brathu heddiw."
Arwel Jones yn cofio ei ffrind, Annette Bryn Parri
Trodd un o gyn-ddisgyblion Annette ac aelod o'r grŵp TRIO, Steffan Lloyd Owen, at y cyfryngau cymdeithasol i rannu ei atgofion am un a oedd wedi ei ysbrydoli ers blynyddoedd.
"Hi yw'r rheswm pam dwi dal i ganu", meddai.
"Hi oedd yna i mi pan nes i droi fyny wythnos cyn ennill y Rhuban Glas wedi dysgu yr aria anghywir.
"Hi oedd yna i mi pan ddaru mi fethu arholiad yn y coleg a ddaru weithio yn galed iawn efo fi i neud yn siŵr on i'n pasio yr arholiad ar yr ail gynnig."

Dathlu llwyddiant Steffan yn y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy yn 2016
"Hi oedd yna i mi o 10yb tan 10yh yn ymarfer diwrnod cyn i mi gystadlu am y Towyn Roberts oherwydd o'n i'n munud ola yn dysgu y darnau unwaith eto.
"A hi oedd yna i mi yn neud yn siŵr o'n i dal i ganu ar ôl colli Mam.
"Ddaru hi gadw fi yn brysur a ddaru hi addo "er mwyn Sue" fysa hi byth yn gadael fi lawr.
"A ddaru hi byth gadael fi, na neb arall i lawr.

Steffan Lloyd Owen ac Annette Bryn Parri
"Ann - arna fi bob dim i chi. Diolch am eich cefnogaeth diamod, eich cymorth, eich hwyl, eich cariad ac mwy na dim byd - y dylanwad 'da chi wedi creu i gerddorion ifanc a cynulleidfaoedd Cymru.
"Does na neb fel Annette, ac fydd na byth eto. Mi fydda i mewn dyled am byth iddi."
Roedd Annette Bryn Parri "wastad yn gwenu ac yn chwerthin" meddai Dylan Cernyw
Un a berfformiodd a chyfeiliodd gydag Annette am dros 30 mlynedd oedd y telynor a'i chyfaill, Dylan Cernyw.
Ar y cyfryngau cymdeithasol, galwodd Annette yn "ffrind gore", gan ddweud: "Fydd 'na neb tebyg a does 'na neb tebyg i ti!"
Yn ddiweddarach, ychwanegodd: "Heb os, un o'r goreuon. O'dd hi fath â cerddorfa ar biano.
"O'dd hi fath â chwaer fawr i fi. O'n i'n gweld ei hwyneb hi drwy'r tannau, a'r wên ddireidus 'ma oedd ganddi... o'ddan ni'n chwerthin lot.
"Dyna dwi'n meddwl oedd yn dda am Annette, o'dd hi wastad yn gwenu ac yn chwerthin."

Yn 2024, cafodd Annette ei phenodi yn Gyfarwyddwr Cerdd Côr Heddlu Gogledd Cymru.
Talodd Prif Gwnstabl y llu, Amanda Blakeman deyrnged i un a "roddodd ei chalon a'i henaid i ddatblygu a meithrin y côr".
"Bydd y rhai a oedd yn adnabod Annette yn gwybod bod ei chynhesrwydd, ei thalent, ei hangerdd a'i dewrder yn arbennig.
"Treuliais ychydig o amser gyda hi ddydd Sul ac fe wnaethon ni siarad am y cynlluniau uchelgeisiol oedd ganddi ar gyfer y côr ac mor hoff yr oedd hi o'r rhai sy'n rhan o'r grŵp arbennig hwn."
Mae baneri Heddlu Gogledd Cymru wedi eu gostwng i hanner mast, fel arwydd o barch.

Yn y caffi ar ben yr Wyddfa yn dilyn perfformiad gyda Hogia'r Wyddfa yn 2013. (o'r chwith) Elwyn Jones, Annette, Brian Owen, Myrddin Owen ac Arwel Jones
Soniodd Siân Gwenllian AS am ei gallu "rhyfeddol i gyffwrdd pobl gyda cherddoriaeth" a'i theyrngarwch i'w chynefin.
"O'i gwaith yn chwarae i drigolion cartref gofal Bryn Seiont Newydd yng Nghaernarfon, i chwarae mewn cyngherddau elusennol, mae'n amlwg iddi aros yn driw iawn i'w hardal ac i'w phobl bob tro hefyd."
Roedd hyn yn amlwg o eiriau'r cyflwynydd, Trystan Ellis Morris a roddodd deyrnged iddi o faes Eisteddfod yr Urdd ym Mharc Margam, gan rannu ei atgofion o gael ei fagu nepell o'i chartref, Cynefin, yn Neiniolen.
"Ei chyfraniad hi, nid yn unig i'r byd cerddorol, ond i'w hardal ac i blant a phobl ifanc yr ardal.
"Mae hi wedi ysbrydoli gymaint o gerddorion ifanc dros y blynyddoedd, ac mae'r cyfraniad mae hi wedi ei 'neud yn anfesuradwy, mewn gwirionedd.
"Mae'r llu atgofion yn rhai bendigedig."

Annette a'i gŵr Gwyn, a fu farw yn 2021
Bachgen lleol arall a estynnodd ddiolch i Annette yw'r arweinydd côr, Huw Foulkes:
"O'dd ca'l gwersi piano yn Cynefin yn fraint a hebddi, faswn i heb fynd ar gyfyl unrhyw lwyfan i gyfeilio nac arwain. 'Dio'm otsh os ti'n neud misdêc sdi.'
"Am yr anogaeth, y cyngor a'r chwerthin, ac am fod mor ffeind bob tro - DIOLCH."
Ymysg y teyrngedau eraill iddi mae Galeri, Caernarfon - rhoddodd Annette gyngerdd yno ganol mis Mai - recordiadau Sain, a'r Eisteddfod Genedlaethol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2019