'Cyfuno'r hunaniaeth o fod yn Gymraeg ac yn cwiar'

- Cyhoeddwyd
"I lot o bobl yr ofn ydy o. Ofn ymateb pobl, ofn colli cysylltiad, ofn cael dy wrthod. Mae hynny'n ran mawr ohono fo."
Roedd Lois Griffiths o ardal Llanuwchllyn yn 25 oed yn dod allan fel lesbian, sy'n "eitha' hwyr" yn ôl Lois.
Mewn cyfrol newydd o'r enw Cymry Balch Ifanc mae hi wedi rhannu ei stori a pham ei fod wedi cymryd amser iddi gydnabod hynny yn gyhoeddus.
Meddai mewn cyfweliad gyda Cymru Fyw: "'Wnes i dyfu fyny mewn ardal reit wledig ac oedd 'na ddim lot o esiamplau o bobl cwiar oedd yn agored am y ffaith so ti ddim rili'n gallu ffigro allan beth wyt ti os na ti'n ei weld o.
"O ran teulu mae 'na ofn. Dwi o deulu clos iawn, 'da ni'n rhannu popeth efo'n gilydd ac mae'n beth eitha' poenus achos ti'n ymwybodol iawn bod ti'n cuddio rhywbeth mawr oddi wrthyn nhw.
"Unwaith ddes i allan oedd y teulu yn briliant am y peth, ond dydy pawb ddim yr un mor ffodus yn amlwg."
Yn y llyfr, sy'n adrodd straeon 13 o gyfranwyr LHDTCRA+ ifanc, mae Lois wedi ysgrifennu darn o'r enw Cym dy Amser yn sôn am y profiad o ddod allan yn hwyrach.
Meddai: "Mae'r stori'n sôn am ddod i delerau a deall hunaniaeth bach yn hwyrach nag ambell i un a sut mae hynny yn effeithio ar dy lwybr bywyd di.
"Falle bod ti'n dechrau o ran ffeindio pwy wyt ti a ffeindio partner neu beth bynnag. Mae 'na concept o'r enw queer time so nes i sôn am hynna - bod pobl cwiar ddim rili yn dilyn yr un perthynas efo amser â phobl eraill.
"Mae'n llwybrau bywyd ni'n gallu bod bach yn fwy troellog."
Gwobr

Lois (ar y dde) gyda rai o gyfranwyr y gyfrol gan gynnwys y golygydd Megan Hunter yn derbyn gwobr Tir na n-Og
Mae'r gyfrol newydd brofi cryn lwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr ym Mharc Margam gan ennill un o wobrau Tir na n-Og.
Mae Lois yn talu teyrnged i'r golygyddion Llŷr Titus a Megan Angharad Hunter am eu gwaith: "Efo'r math yna o beth ti'n gallu gorffen efo straeon dod allan pobl ond oeddan nhw'n awyddus i roi cynrychiolaeth i amrywiaeth o brofiadau.
"Nid straeon dod allan yn unig ond adlewyrchiad o'r profiad o fod yn cwiar. Dwi'n lesbian ac ar y pryd oedd 25 yn teimlo bach yn hwyr ond oedd o'r amser iawn i fi i ddod allan."
O ran aros nes ei bod yn 25 oed, mae Lois yn dweud mai hi ei hun oedd angen amser: "Mae'n cymryd amser i archwilio'r syniad yn dy ben a falle teimlo bod gen ti'r gofod saff 'na i wneud.
"O ran fi, o'n i mewn perthynas hirdymor efo bachgen trwy'r coleg. O'n i wedi dechrau amau ond ar ôl i hynny orffen o'n i'n teimlo mod i'n gallu bod yn fi."
Rhannu
Ac mae rhannu ei stori nawr yn bwysig iddi: "Mae'n meddwl y byd. Dwi'n ffodus dwi'n eitha' cyfforddus yn fi fy hun rŵan ond y potensial i rhywun iau sy' falle ddim. Mae'r potensial iddyn nhw bigo'r llyfr yma i fyny a ffeindio stori maen nhw'n gallu uniaethu efo a bod hwnna'n help iddyn nhw deimlo'n llai unig.
"Mae gallu cyfrannu mewn ffordd fach at hwnnw yn deimlad braf."
Ac mae ganddi neges i bobl sy'n teimlo fod straeon LHDTCRA+ ym mhob man: "'Da ni ddim yn trio gwneud sioe ac amlygu ein hunain – jest gwneud yn siŵr bod rhywun sy' angen ffeindio'r stori ac angen gweld hyn yn gallu dod iddo fo yn hawdd."
Cymuned
Mae tyfu fyny yng Nghymru fel rhan o'r gymuned yma yn brofiad unigryw, meddai: "Mae'r un heriau yn gyffredin ond mae intersectionality y peth o ran bod yn Gymraes ac yn cwiar ac mae ffeindio profiadau ti'n gallu uniaethu efo yn brinnach.
"Yn draddodiadol, mewn ardaloedd gwledig yn enwedig, does 'na ddim gymaint o esiamplau o bobl cwiar ac mae'n cael ei weld fel rhywbeth gwahanol wedyn.
"Mae 'na lot mwy o welededd a straeon cwiar yn cael eu hadrodd dyddiau yma ond ddim gymaint o esiamplau gan bobl Cymreig sy'n cyfuno'r ddau beth.
"Ti'n methu bod yn beth ti'n methu weld ac mae'r profiad Cymreig mor unigryw felly mae'n anodd uniaethu efo straeon cwiar sy'n dod o America.
"Ond mae pethau fath â Mas ar y Maes ac mae lot o bethau wedi datblygu yn y blynyddoedd diwethaf sy'n galluogi pobl i gyfuno'r hunaniaeth 'na o fod yn Gymraeg ac yn cwiar.
"Mae'n bwysig bod pobl ifanc yn gallu gweld bod ti'n gallu bod yn cwiar ac yn Gymraeg a chael bywyd a bod yn hapus."
Mae clwb darllen wedi bod yn ran bwysig o deimlo fel rhan o'r gymuned LHDTCRA+ yng Nghymru i Lois: "Mae'n rhoi y teimlad 'na o berthyn. Dwi wedi bod reit ffodus – yn teimlo mod i'n perthyn mewn gwahanol ffyrdd ond falle bod rhai ddim ac mae 'na lot o ofodau saff sy'n cynnig hynna i bobl cwiar yng Nghymru erbyn hyn.
"Dwi'n ran o gymuned Llyfrau Lliwgar ac mae hwnna'n glwb darllen. Mae'r cyfle 'na i ddod at ein gilydd a siarad am ein profiadau. Ddim yn aml yn ein cylchoedd ffrindiau sy' ddim yn cwiar 'da ni'n cael bod yn agored a chyfleu rhannau o'n hunaniaeth.
"'Da ni'n cael bod yn agored ac uniaethu am bethau am fod yn cwiar ac yn Gymraeg. Mae jest y teimlad yna o berthyn ac o gymuned mor bwysig ac yn helpu pobl i deimlo llai ar ben eu hunain."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd27 Mai
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2024