GogLais: Archwilio'r profiad cwiyr yng ngogledd-orllewin Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae Gareth Evans-Jones yn awdur ac yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor. Ennillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn y categori Ffeithiol-Greadigol yn 2023, ac mae wedi enill Medal Ddrama’r Eisteddfod Genedlaethol yn 2019 a 2021.

Nawr, mae ar fin dechrau prosiect newydd o’r enw GogLais. Nod GogLais yw archwilio’r profiad cwiyr yng ngogledd-orllewin Cymru a gofyn y cwestiwn beth yw’r ddrama gwiyr Gymraeg, gogledd-orllewin heddiw.

Ffynhonnell y llun, Gareth Evans-Jones

Dywedodd Gareth, sydd o Farian Glas yn Ynys Môn:

“Sgwrs efo Gethin Evans [Cyfarwyddwr Artistig] Frân Wen oedd hi i ddechrau ynglŷn a pha fath o ddramâu cwiyr sy ’na dyddiau yma. Dyma sylwi fod ’na fwy o ddramâu cwiyr yn Gymraeg heddiw – sy’n wych o beth – ond mae rheiny sy’ ’na yn dueddol i ganolbwyntio fwy at dde-ddwyrain Cymru.

“Mae yna ambell eithriad fel Brên, Calon, Fi gan Bethan Marlow, sgyno’r elfen gogledd-orllewin i ryw raddau, ond does dim llawer wedi’u gwreiddio yn y gogledd.”

Mae’n prysuro i ddweud nad oes modd i unrhyw ddrama gyfleu pob profiad cwiyr yn y gogledd-orllewin gan fod profiad pawb yn wahanol.

"Bob profiad yn wahanol"

Ond ei fwriad gyda phrosiect GogLais yw gofyn y cwestiwn sut beth yw bod yn berson LHDTC+ yn y gogledd heddiw? Oes llai o issues nag oedd yna 20 mlynedd yn ôl neu a yw pobl LHDTC+ yn dal i osgoi mynd allan i dref benodol rhag ofn cael eu hambygio?

Er mwyn dechrau’r trafodaethau hyn mewn gofod diogel, mae Gareth a chefnogwyr o GISDA a TINN Gogledd Cymru yn gwahodd pobl i wylio detholiad o bump drama gwiyr sydd â’u gwreiddiau yn y Gymru wledig.

Ffynhonnell y llun, GogLais

Yn dilyn bob perfformiad, bydd trafodaeth gyda’r gynulleidfa lle bydd yn holi cwestiynau fel ‘a yw’r ddrama’n dangos profiad cyfarwydd i chi?’, neu ‘oes rhywbeth yn broblematig yn y ddrama hon?’ ac yn y blaen.

Cynhaliodd Gareth y sesiwn gyntaf o bump nos Fercher, 27 Tachwedd, yn Nyth y Frân Wen ym Mhorthaethwy. Perfformiwyd ‘Wyneb yn Wyneb’ gan Meic Povey gan Judith Humphreys a Gethin Bickerton.

Ffynhonnell y llun, Kim
Disgrifiad o’r llun,

Yr actorion Judith Humphreys a Gethin Bickerton yn darllen Wyneb yn Wyneb yn sesiwn gyntaf GogLais

“Yr unig ddrama Gymraeg sydd efo unrhyw gynrychiolaeth gwiyr yn yr ardal yma ydi Wyneb yn Wyneb gan Meic Povey, sydd o tua 30 mlynedd yn ôl. Hon ydy’r ddrama gyntaf o sesiynau GogLais ac mae hi’n trafod HIV ac AIDS, a bod, mewn difri’, bod yn hoyw yn rhywbeth sy’n arwain at atgasedd cymdeithasol ac atgasedd teuluol a marwolaeth. A dyna’r math o naratifau sydd wedi cael eu gweld yn aml.”

Beth mae'n ei olygu i fod ynLHDTC+ yn y gogledd heddiw?

Hoffai Gareth sgwrsio gyda phobl sy’n mynd i helpu i ehangu’r naratif hwn. Mynegodd ei fod eisiau gwybod beth yw’r pethau da am fod yn LHDTC+ yng ngogledd-orllewin Cymru, beth yw’r heriau cyffredin – ydy o’n rhywbeth i wneud efo rhagenwau, ydi o’n rhywbeth i wneud efo perthnasau o ran rhai monogamous neu rai agored.

Mae ganddo hefyd ddiddordeb mewn clywed am sut mae’r to iau yn gweld bod yn cwiyr o’i gymharu â sut mae pobl hŷn yn gweld pethau, beth yw’r gwahaniaethau.

“Mewn difri, lot o gwestiynau sy’ gen i. Bwriad GogLais ydi creu gofod lle mae modd rhannu’r safbwyntiau o ran be’ mae’n olygu i fod yn LHDTC+ yn y gogledd heddiw ’ma.”

Ffynhonnell y llun, Arwyn Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Gareth y Fedal Ddrama yn 2019 (uchod) a 2021

Mae’n gobeithio denu pobl o bob hunaniaeth i’r sesiynau er mwyn cael darlun mor eang a phosib cyn iddo fynd ymlaen at ail ran y prosiect, sef ysgrifennu drama Gymraeg gwiyr gyfoes.

“Mae’n bwysig nodi nad drama air-am-air fydd hi, a fydd ’na ddim defnyddio straeon go iawn na geiriau go iawn pobl. Cael gweld be’ ydi’r teimladau a’r safbwyntiau, dyna bwrpas y cam cyntaf ’ma.”

Bydd rhan gyntaf prosiect GogLais yn digwydd dros gyfnod o bump wythnos tan ganol Ionawr 2025. Y dramâu fydd yn cael eu perfformio, a hynny am ddim, yw Wyneb yn Wyneb gan Meic Povey, Es & Flo gan Jennifer Lunn, 5 Guys Chillin’ gan Peter Darney, Overflow gan Travis Alabanza a Vampire Lesbians of Sodom gan Charles Busch.