Twrnament aml-chwaraeon LHDTC+ yn dod i Gymru

Disgrifiad,

"Pwrpas ni ydy agor y chwaraeon yma i bobl sydd heb chwarae o'r blaen," meddai Neil Roberts

  • Cyhoeddwyd

Bydd twrnament aml-chwaraeon LHDTC+ mwyaf Ewrop yn dod i Gymru yn 2027.

Mae tîm Pride Sports Cymru, fu'n gyfrifol am y cais buddugol, yn dweud eu bod yn disgwyl i hyd at 10,000 o athletwyr ddod i gystadlu mewn 30 o wahanol gampau mewn lleoliadau ar draws Caerdydd.

Yn ôl y trefnwyr, ers ei sefydlu, mae'r twrnament wedi darparu "gofod saff" i ddegau o filoedd o athletwyr i gystadlu a dathlu amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant trwy chwaraeon.

Mae Neil Roberts, sy'n aelod o dîm badminton LHDTC+ The Cardiff Red Kites, yn disgrifio hyn fel "newyddion arbennig".

Disgrifiad o’r llun,

EuroGames ydy twrnament aml-chwaraeon LHDTC+ mwyaf Ewrop

Mae Neil, sy'n wreiddiol o Bwllheli, wedi bod yn chwarae badminton gyda'r Cardiff Red Kites ers chwe blynedd.

"Mae'r clwb yn agored i bobl LGBTQ+ sydd eisiau chwarae badminton," meddai.

"Pwrpas ni ydy agor y chwaraeon yma i bobl sydd heb chwarae o'r blaen, sydd isio'r siawns i wneud, neu wedi cael trafferthion i wneud yn y gorffennol."

'Teimlad o gymuned'

Mae'r clwb wedi tyfu o ran niferoedd, ac wedi gorfod cau aelodaeth newydd dros dro am eu bod yn llawn. Daw dros 30 i chwarae'n wythnosol.

Felly pam fod Neil yn aelod o'r clwb penodol yma?

"Dwi'n meddwl just y teimlad o gymuned sydd 'na.

"Efo clwb fel'ma, dwi'n teimlo bod gen i bobl sydd efo lot o brofiadau sy'n debyg i fi fy hun, a hefyd mae hynna'n 'neud i fi deimlo fel 'mod i'n gallu helpu pobl eraill i ddod i mewn i chwaraeon, a just i 'neud ffrindiau a chadw fy hun yn iach."

Mae 'na elfen gymdeithasol i'r clwb hefyd.

"'Da ni'n cael socials lle 'da ni'n mynd i gerdded neu i hikeio, 'da ni'n mynd allan am ddiod weithiau," meddai Neil.

"Mae'n siawns dda i 'neud ffrindiau hefo pobl eraill sy'n hoffi chwaraeon."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae lot o blant a phobl ifanc LGBTQ+... yn teimlo fel bod chwaraeon ar gyfer pobl eraill," meddai Neil

Mae Neil hefyd yn gadeirydd clwb tenis LHDTC+ The Cardiff Baseliners.

Yn ôl Neil mae'r rhwystrau sy'n wynebu rhai pobl LHDTC+ wrth gael mynediad i chwaraeon yn gallu dechrau yn yr ysgol.

"Efallai eu bod nhw'n teimlo bod na siawns o fwlio... ond diffyg hyder hefyd.

"Mae lot o blant a phobl ifanc LGBTQ+... maen nhw'n teimlo fel bod chwaraeon ar gyfer pobl eraill.

"Felly mae clybiau fel hyn yn bwysig i bobl sydd efallai wedi cael diffyg hyder yn y gorffennol."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Neil mai ei obaith o ran gwaddol y bencampwriaeth ydy "dangos bod chwaraeon yn rhywbeth i bawb".

Bydd Neil ymhlith hyd at 10,000 o gystadleuwyr pan ddaw'r EuroGames i Gaerdydd yn 2027.

"Dwi'n really edrych ymlaen ato fo," meddai.

"Fyddan ni'n helpu'r bobl sy'n dod yma o Ewrop i chwarae'r gystadleuaeth... i ddangos nhw o gwmpas, a dangos be mae Caerdydd a Chymru yn gallu rhoi i bobl sy'n ymweld â ni."

Ychwanegodd ei bod hefyd yn gyfle i "ddangos bod Cymru a'r Deyrnas Unedig wedi newid dros y blynyddoedd a'n bod ni'n agor mwy o chwaraeon i bobl sy'n LGBTQ+".

Dywedodd Neil mai ei obaith o ran gwaddol y bencampwriaeth ydy "dangos bod chwaraeon yn rhywbeth i bawb".

"Dylsa bod dim rhwystrau iddyn nhw, a dyna fydd yn testament i'r EuroGames - bod pobl yn y dyfodol yn gallu dod i glybiau fel hyn a theimlo'n hyderus i 'neud."

Mae EuroGames 2024 yn cael eu cynnal ym mhrifddinas Awstria, Vienna, ym mis Gorffennaf.

Pynciau cysylltiedig