Plant gyda dysfforia rhywedd 'angen mwy o gefnogaeth'
- Cyhoeddwyd
Mae plant a phobl ifanc yng Nghymru gyda dysfforia rhywedd yn cael eu "gadel i lawr" yn sgil diffyg cefnogaeth, yn ôl ymgyrchwyr.
Ar hyn o bryd mae'n rhaid i unrhyw un sydd am drafod newid eu rhywedd gyda doctor neu rywun proffesiynol yn gorfod mynd i Lundain.
Roedd Sean Donovan yn 14 oed pan roedd o'n gwybod fod ganddo dysfforia rhywedd, a dywedodd y bu'n siomedig iawn nad oedd cymorth ar gael i bobl ifanc yng Nghymru.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i wella'r gefnogaeth sydd ar gael i bobl ifanc ym maes hunaniaeth rhywedd.
Mae adroddiad gan Gomisiynydd Plant Cymru yn nodi ei bod hi'n "hynod bryderus" mai'r unig opsiwn sydd ar gael i blant Cymru yw'r gwasanaeth interim sy'n cael ei gynnig gan y gwasanaeth iechyd yn Lloegr.
Awgryma'r adroddiad fod hyn yn mynd yn groes i hawliau dynol y bobl ifanc, a'i fod yn mynd yn groes i gynllun gweithredu LHDTC+ y llywodraeth.
Mae'r gwasanaeth hunaniaeth rhywedd sydd ar gael yng Nghymru yn cael ei reoli yng nghlinig Tavistock yn Llundain.
Yn ôl Sean, sy'n 19 ac yn dod o Gaerffili, bu'n rhaid iddo ef a'i deulu droi at driniaeth breifat oherwydd amseroedd aros hir y gwasanaeth iechyd.
"Os nad oeddwn i'n gwneud rhywbeth, ro'n i'n gwybod na fyddwn i wedi aros yn iach yn feddyliol," meddai.
"Do'n i ddim yn meddwl am y dyfodol - achos doedd dim dyfodol."
Ychwanegodd fod pobl ifanc yn cael eu "gadael i lawr" gan eu bod yn gorfod mynd i Lundain am driniaeth yn hytrach na'i dderbyn yn nes at adref.
Dywedodd Sarah Donovan bod "ei byd wedi ei stopio" pan gafodd hi wybod bod ei mab yn drawsryweddol, gan ychwanegu bod angen gwasanaeth rhywedd yng Nghymru.
"Mae plant a phobl ifanc yn aros mewn limbo, does dim byd yma ar eu cyfer," meddai.
'Methu cario mlaen a gobeithio am y gorau'
Mewn adolygiad o'r gwasanaeth presennol, daeth Dr Hillary Cass i'r casgliad fod angen i'r gwasanaeth iechyd angen cyflwyno newidiadau sylfaenol i'r gofal sydd ar gael i blant gyda dysmorffia rhywedd.
Yn ôl Rachel Thomas, pennaeth polisi a materion cyhoeddus yn swyddfa Comisiynydd Plant Cymru, dyw defnyddio gwasanaethau yn Lloegr ddim yn rhoi cyfle iddyn nhw gyflawni eu nodau a'u hamcanion o ran sut mae Cymru, fel gwlad, am ymdrin â'r mater.
Dywedodd fod hyn, ynghyd â rhestrau aros hir, ymhlith rhai o'r dadleuon cryf o blaid edrych ar sefydlu gwasanaeth rhywedd Cymreig.
"Rydyn ni'n sôn am flynyddoedd ar restrau aros, dim misoedd," meddai.
"Dy'ch chi methu cario 'mlaen a gobeithio am y gorau wrth aros am yr apwyntiad cyntaf yna."
Yn ôl Christina Witney o Gaerdydd, roedd ei mab 13 oed - nad oedd hi am ei enwi - yn teimlo dan bwysau ofnadwy, ac roedd yn aml yn "llefain ei hun i gysgu" wrth iddo aros i gael gweld meddyg.
Fe aeth hi ac ef i weld meddyg teulu pan oedd yn 10 oed, ond mae Ms Witney o'r farn nad yw pobl yn deall difrifoldeb y mater, a bod angen mwy o gymorth ar bobl ifanc.
"Byddai derbyn triniaeth yn gwella ei iechyd a'r ffordd y mae o'n teimlo... mae ei gorff yn newid ac mae hynny yn peri gofid iddo - y ffordd y mae'n ymddangos i bobl eraill."
Nododd Rachel Thomas fod gwasanaethau rhywedd yn un o'r meysydd prin o fewn gofal iechyd sydd yn well i oedolion.
Ychwanegodd y byddai gwasanaeth rhywedd yng Nghymru yn gallu bod yn rywle i gynnig cefnogaeth ac nid o reidrwydd triniaeth.
"Gallai fod yn rywle i gynnig gwasanaeth cwnsela. Dyw e ddim o reidrwydd yn gorfod golygu cynnig hormonau neu feddyginiaeth atal y glasoed," meddai.
Dywedodd Ms Thomas hefyd bod swyddfa'r comisiynydd yn dilyn yr adolygiad sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd yn ofalus, wedi iddyn nhw dderbyn negeseuon gan rai oedd yn poeni am y broses.
Dywedodd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru nad oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i ddatblygu gwasanaeth rhywedd i blant a phobl ifanc ar wahân i'r gwasanaeth yn Lloegr, a'u bod yn edrych ymlaen at weld canfyddiadau adroddiad terfynol Dr Cass - sydd i fod i gael ei gyhoeddi yn fuan.
Yn ôl y gwasanaeth iechyd yn Lloegr, mi fydd y gwasanaeth datblygu hunaniaeth rhywedd yn Tavistock yn cau ar 31 Mawrth, a "bydd unrhyw gleifion sydd am barhau gyda'u triniaeth yn cael eu symud i ddarparwr gofal addas arall lle gallan nhw dderbyn y gefnogaeth arbenigol sydd ei angen arnyn nhw".
"Mae'r gwasanaeth iechyd wedi amlinellu cynlluniau i adeiladu o amgylch wyth gwasanaeth rhanbarthol, ac rydyn ni mewn cysylltiad â sawl ysbyty plant er mwyn gwireddu'r cynlluniau hyn yn ystod y blynyddoedd nesaf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd28 Medi 2023
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2023