Ffarwel i Maggi Noggi?

Maggi
  • Cyhoeddwyd

Mae Maggi Noggi wedi bod yn gymeriad poblogaidd yng Nghymru ers 2016, gan ymddangos mewn sioeau ledled y wlad ac ar S4C.

Yn siarad â Aled Hughes ar Radio Cymru fore Mercher 25 Medi dywedodd Kris Hughes, sy'n gyfrifol am y cymeriad, bod hi'n amser i Maggi "ymddeol yn ara' deg."

"Dwi’n meddwl fysa’r rhan fwya’ o bobl, yn enwedig gwylwyr S4C, yn fy 'nabod i drwy'r cymeriad Maggi Noggi," meddai Kris, "ond ers Eisteddfod Boduan llynedd dwi’m ‘di gwneud llawer o Maggi o gwbl am wahanol resymau – roedd gen i lot o waith arall ‘mlaen.

"Ond wythnos dwytha o'n i yn y cymeriad am y tro cyntaf ers mis Awst, ac odd o'n rhyw deimlad rhyfadd sylweddoli bod y cymeriad heb fod yn fy mywyd i ers dipyn o amser, a dwi 'di cael profiad eitha’ dwys ac intense dros y flwyddyn dwytha yn cyflwyno.

"Dwi’n meddwl ‘nes i sylweddoli dydd Sadwrn dwytha bod Maggi wedi bod yn rhan o’n mywyd i am bod hi’n helpu fi ymdopi efo elfennau eitha’ eithafol ac weithiau erchyll o’n mywyd i.

"Dwi ‘di gweithio mewn marw-dŷ ar hyd fy oes ac mewn ffordd weithia ti angen bod fel rhyw pressure cooker lle ti’n gallu gollwng rhywfath o valve i allu gadael stêm i ffwrdd – mae Maggi wedi bod yn rhan angenrheidiol o hynny."

Ffynhonnell y llun, Kris Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Kris Hughes yn ei ddillad bob dydd

"Felly mae’n deimlad rhyfedd, a mewn ffordd dwi’n ei chlywed hi yn fy mhen yn deud ‘paid a gadael i fi fynd!’", meddai Kris.

"Mae 'di bod yn amser rhyfadd ac wedi bod yn deimlad trist bod hi heb fod yn fy mywyd i, a bod gymaint o bobl allan ‘na hefyd yn mwynhau Maggi hefyd.

"Dwi ‘di sylweddoli hefyd bod Maggi wedi bod yn angenrheidiol i fi hefyd, felly mae’n deimlad trist iawn fod falle mod i yn ara’ deg yn dweud hwyl fawr iddi."

Straen corfforol

Mae Kris wedi bod yn perfformio drag ers 1991, ac yn 52 oed mae'n dweud bod 'na straen corfforol tra mae'n ei rôl fel Maggi.

"Yr elfen o drag dydi lot o bobl ddim yn ei weld ydy’r ffaith bod o’n brifo, ac yn boenus, does dim un tamaid ohono fo’n gyfforddus – elli di ddim hyd yn oed mynd i’r toiled am oriau weithia achos bo’ ti ‘di cael dy duct-tapio i fewn i’r costume fel arfer!

"Mae ‘na gymaint o scaffolding a duct-tape o dan y wisg ‘di pobl ddim yn ei weld - ac hefyd dydi’n llygadau i ddim fel oeddan nhw yn fy ugeiniau cynnar!"

Creu Maggi Noggi

Roedd creu cymeriad Maggi'n estyniad o greadigrwydd Kris, ond roedd creu cymeriad Cymraeg yn rhywbeth newydd iddo.

"Mae drag wastad wedi bod yn rhan o’n mywyd i oherwydd y gwaith o’n i’n wneud. Mae ‘na gymaint o bobl sy’n greadigol sy’n perfformio cerddoriaeth neu barddoniaeth neu sgwennu, ac yn bendant dyna oedd y cymeriad drag i fi.

"Pan nathon ni greu cymeriad Cymraeg nath o fynd a fo i rhyw lefel arall rhywsut, achos fel arfer dydi rhywun ddim yn cysylltu drag efo adloniant teuluol – fel arfer maen nhw mewn clwb nos yn Llundain, Manceinion neu Caerdydd. Ac dros nos roedd Maggi yn nhai pobl, gyda plant wrth eu bodda efo Maggi! Roedd o’n brofiad hollol wahanol i rywun fel fi sy’n adlonni!

"‘Nath o ddechrau ar adeg y rhaglen RuPaul's Drag Race, ac mae ‘na gymaint o fwrlwm am y rhaglen ‘na. ‘Nath fy mhartner i ddeud dylwn i wneud cymeriad Cymraeg, ac mae cymeriad drag o hyd yn dechrau efo’r enw.

"Fo ddoth i fyny efo’r enw, a 'nath y cymeriad ‘ma just llifo i fy meddwl i, a gan bo fi’n hollol obsessed efo’r Mabinogi oedd yr enw yn genius. Felly ‘nes i feddwl ‘bydd rhaid fi neud rwbath efo’r cymeriad 'ma!’ a 'nath hi ffrwydro, ac o’n i ddim yn disgwyl hynny."

Dylanwadu'r gymuned LHDT

Mae Kris hefyd yn ymwybodol o'r effaith mae Maggi Noggi wedi ei gael ar y gymned LHDT yng Nghymru.

"Mae o'n deimlad rhyfadd bod hi wedi slipio i ffwrdd ‘chydig bach dros y flwyddyn ers Eisteddfod Boduan, ac mae hynny wedi fy ngwneud i’n eitha’ trist am y ffaith sut alla i deimlo fel hyn [yn drist] dros berson sydd ddim yn bodoli yn llawn, a’r effaith gath y person yna dros bobl eraill, yn enwedig yn y gymuned LHDT sy’n edrych fyny i gymeriad fela efo ‘chydig o falchder.

"Ond alla i ddim dweud bod hi’n ffug chwaith, achos mae hi wedi fy helpu i i ymdopi efo gymaint o elfennau o fy mywyd i, ond rŵan mae hi wedi cymryd y sêt ôl a dwi ddim yn hollol siŵr sut dwi’n teimlo am hynny – mae ‘na damaid ohona'i sy’n meddwl y dylwn i fod yn galaru."

Disgrifiad o’r llun,

Dros y blynyddoedd diweddar mae Maggi wedi bod yn wyneb cyfarwydd iawn ar faes yr Eisteddfod

'Yr haul yn machlud' ar Maggi

Mae Kris yn ddiolchgar o'r cyfleoedd mae wedi gael yn sgil Maggi, ond ei fod efallai'n amser i ffarwelio â'r cymeriad.

"Dwi mor falch bo’ hi ‘di bod yn fy mywyd i, dwi ‘di cyfarfod efo gymaint o bobl a chael profiadau anhygoel a gwneud ffrindiau newydd drwyddi.

"'Dydy hi ddim ‘di diflannu’n llwyr – mae hi’n perfformio yn Olion Arianrhod ar Pier Bangor penwythnos yma, ond ar ôl hynny does ‘na’m byd ar y gweill, ac mae hynny ‘di 'ngwneud i deimlo ‘chydig bach yn wag.

"Dwi’n meddwl bod hi'n mynd i ymddeol yn ara’ deg tra bo fi’n ffigro allan yn union be dwi’n mynd i neud.

"Ond mae dal yn rhyw deimlad rhyfadd – mae’n siŵr 'sa seicolegydd yn cael diwrnod arbennig o sut ti’n gallu galaru dros berson sydd ddim yn bodoli yn y byd go iawn! Ond mae’r person yn bodoli ac efo personoliaeth eu hunain.

"Pan ti’n rhoi gymaint o amser i greu cymeriad, a dwi’n siŵr bod unrhyw actor neu berfformiwr yn dallt, bod nhw’n rhan angenrheidiol. Mae’n teimlo bod yr haul yn machlud, ond eto Maggi Noggi yw ei henw hi a mae ‘na elfen anfarwol ohoni, rhyw elfen fytholegol!"

Pynciau cysylltiedig