Bwydydd Nadoligaidd dros y byd

Kapustnica o SlofaciaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Kapustnica o Slofacia

  • Cyhoeddwyd

Twrci, sbrowts, tatws rhost, stwffin, saws llugaeron wrth gwrs, heb anghofio am fynydd o fins peis, pwdin Nadolig mewn menyn melys a rhyw wydraid neu ddau o port.

Mae’r rhan fwyaf ohonom ni yn cadw’n draddodiadol pan ddaw at beth sydd ar ein platiau ni dros y Dolig.

Ond mae bwyd traddodiadol yr ŵyl yn edrych dra gwahanol mewn rhannau eraill o’r byd…

Llenwi’r bol

Timpana - Malta: Pastai wedi ei wneud o basta macaroni, saws tomato, mins cig eidion a chaws, gyda chrwst am ei ben.

Kapustnica - Slofacia: Cawl o sauerkraut (bresych), selsig, madarch a paprica, sydd hefyd yn boblogaidd i’w weini am hanner nos mewn priodasau.

Polvo à Lagareiro - Portiwgal: Octopws mewn olew olewydd a garlleg wedi ei bobi.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Polvo à Lagareiro o Portiwgal

Kiviak - Yr Ynys Las: Pryd Inuit traddodiadol o gannoedd o garfilod bach – math o aderyn y môr – wedi eu rhoi mewn croen morlo i eplesu (ferment) o dan y ddaear am rai misoedd.

Guineos en escabeche - Puerto Rico: Bananas gwyrdd wedi eu piclo, mewn nionod, pupur, olew, garlleg a finegr.

Tourtière - Québec, Canada: Pastai cig porc, cig llo neu gig eidion a thatws, sy’n rhan o’r réveillon – y prydau bwyd hirfaith sy’n cael eu cynnal Noswyl Nadolig a Nos Calan.

Disgrifiad o’r llun,

Tourtière o Québec, Canada

Pinnekjøtt - Norwy: Asennau cig oen wedi eu halltu a’u sychu, ac weithiau eu mygu. Ar ôl cael eu socian mewn dŵr, maen nhw'n cael eu stemio dros ganghennau coeden fedw.

Tobă - Rwmania: Math o ‘gaws pen mochyn’, sef stumog mochyn yn llawn darnau o iau, jeli a chroen porc mewn aspig.

Silkė su grybais - Lithuania: Pennog gyda madarch. Dyma un o'r 12 pryd heb gig sydd fel arfer yn cael ei weini ar Noswyl Nadolig, i gynrychioli 12 disgybl yr Iesu.

I dorri syched

Clericó - Paragwai: Diod alcoholig wedi’i wneud drwy gymysgu ffrwythau, gwin a phop, seidr neu siampên.

Julmust - Sweden: Diod di-alcohol melys, sydd yn debyg i gwrw du.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Julmust o Sweden

Gløgg - Denmarc: Gwin cynnes wedi ei gyfuno â sbeisys, siwgr, rhesins ac almon - gyda schnapps neu ychydig o tsili i gael cic ychwanegol!

Ponche a la romana - Chile: Diod o siampên a hufen iâ afal-pîn, sydd fel arfer yn cael ei yfed Nos Galan.

Tom and Jerry - UDA: Coctêl poeth o eggnog o wyau a siwgr, wedi ei gymysgu gyda brandi a rỳm, a nytmeg ar ei ben.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tom and Jerry o UDA

Dant melys?

White Christmas - Awstralia: Pwdin o ffrwythau sych, fel ceirios, syltanas a chnau coco, gyda reis pyfflyd mewn siocled gwyn.

Buko salad - Y Pilipinau: Darnau o gnau coco a ffrwythau tun mewn llaeth melys neu hufen.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Buko salad o’r Pilipinau

Cougnou - Gwlad Belg: Bara melys sydd wedi ei siapio i edrych fel y baban Iesu yn ei breseb.

Ensalada Navideña - Mecsico: Salad Nadoligaidd o ffrwythau fel afalau a mefus, resins, pecan a malws melys, mewn cymysgedd o laeth tew, llaeth anwedd a hufen melys.

Lei tretze dessèrts - Provence, Ffrainc: Pwdinau sydd yn cynrychioli Iesu a’r 12 disgybl. Mae’r pwdinau yn cynnwys ffigys sych, almon, syltanas a chnau Ffrengig i gynrychioli pedwar urdd o fynaich, ffrwythau ffres a nougat du i gynrychioli’r drwg a nougat gwyn i gynrychioli’r da.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Lei tretze dessèrts o Provence, Ffrainc

Pynciau cysylltiedig