Ryseitiau moctêls Nadoligaidd i ddathlu'r ŵyl
- Cyhoeddwyd

Eisiau dathlu cyfnod y Nadolig ond ddim isho'r penmaenmawr y bore wedyn? Diod heb alcohol amdani...
Mae Dewi Arfon Jones o far Y Segontiwm yng Nghaernarfon wedi llunio rhestr o ryseitiau ei hoff moctêls, ac maen nhw'n ddigon hawdd i chi eu gwneud adref i'ch teulu a'ch ffrindiau!
Mocito-ho-ho (Mistletoe Mockito)
Os ydych chi awydd moctêl blasus ac adfywiol gyda'r holl drimins, yna allwch chi ddim mynd yn anghywir â'r rysáit syml hwn!

Cynhwysion
5 deilen mintys ffres
25ml o sudd lemwn
25ml o surop siwgr
125ml o ddŵr soda
Rhew mâl
Sleisen o leim ffres
Dull
Arllwyswch y sudd leim a'r surop siwgr i wydr tal ac yna cleisio'r dail mintys yn y cymysgedd surop/sudd i ryddhau'r olewau.

Rhaid rhyddhau'r blas o'r dail mintys
Sgŵp hael o rew wedi'i falu ac yna ei ychwanegu at ddŵr soda, ei gymysgu'n dda gyda gwelltyn neu lwy hir.
Addurnwch gyda sbrigyn o fintys a sleisen o leim. Mwynhewch!
Fizz Llugaeron Llawen (Crimbo Cranberry Fizz)
Mae'r moctêl llawn sbeis hwn yn siŵr o roi naws y Nadolig i chi!

Cynhwysion
1 llwy de o sinamon
1 llwy de o siwgr gronynnog
Sleisen o leim
15ml o sudd leim
100ml o gwrw sinsir
100ml o sudd llugaeron
Rhew mâl
Dull
Cymysgwch y sinamon a'r siwgr ar blât bach. Rhedwch y sleisen o leim ar ymyl y gwydr, yna rhowch y gwydr yn y gymysgedd.

Arllwyswch weddill y cynhwysion i'r gwydr ynghyd ag un neu ddau sgŵp o rew mâl a'i gymysgu'n dda.
Eisteddwch yn ôl a mwynhewch!
Lemonêd Rhewllyd (Frosty Lemonade)
Lemonêd cymylog clasurol neis a hawdd. Perffaith i olchi lawr eich cinio Nadolig!

Cynhwysion
Croen lemwn a siwgr gronynnog
Sleisen o lemwn
25ml o sudd lemwn
25ml o surop siwgr
125ml o ddŵr soda
Dull
Gratiwch ychydig o groen lemwn yn fân a chymysgwch â'r siwgr ar blât bach. Rhedwch y sleisen o lemwn ar draws ymyl y gwydr ac yna rhowch y gwydr yn y cymysgedd.
Arllwyswch y sudd lemwn, surop siwgr a'r iâ i mewn ac yna ychwanegu'r dŵr soda.
Cymysgwch yn dda a'i addurno gyda sleisen o lemwn yna mwynhewch!
Nadolig Di-alcohol Llawen!
Hefyd o ddiddordeb: