Caws Cymreig yn cael ei ddwyn o hufenfa yn Llundain
- Cyhoeddwyd
Mae cannoedd o fareli o gaws gwerth mwy na £300,000 wedi cael eu dwyn o safle Neal's Yard Dairy yn Llundain - ymhlith y caws mae Caws Hafod sy'n cael ei gynhyrchu yng Ngheredigion.
Fe wnaeth rhai a oedd yn honni eu bod yn gyfanwerthwyr dderbyn mwy na 22 tunnell o gaws gan Neal's Yard cyn i’r cwmni o Lundain sylweddoli eu bod wedi cael eu twyllo.
Dywed Neal's Yard eu bod wedi talu cynhyrchwyr y caws fel nad oes yn rhaid i hufenfeydd unigol ysgwyddo'r costau.
Ychwanegodd llefarydd bod y cwmni nawr yn ceisio delio gyda’r golled ariannol.
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd29 Mai
Cafodd tri math gwahanol o gaws arbenigol eu dwyn - Caws Hafod, Westcombe a Pitchfork.
Mae Caws Hafod yn cael ei wneud â llaw ar Fferm Holden ym Mwlchwernen Fawr ger Llambed.
Mae cwmni Neal's Yard yn gwerthu darn 300g o'r caws am £12.90 tra bod caws Westcombe yn costio £7.15 am 250g.
Dywedodd Patrick Holden, sy'n berchen ar y fferm lle mae Caws Hafod yn cael ei gynhyrchu: "Mae'r diwydiant caws yn un lle mae ymddiriedaeth wrth wraidd pob gwerthiant.
"Mae maint yr ymddiriedaeth sy'n bodoli yn ein diwydiant bach ni yn deillio o ethos sylfaenwyr Neal's Yard Dairy."