Ansicrwydd am ddyfodol Hufenfa Mona ym Môn

Ffatri Hufenfa MonaFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ffatri wedi ei lleoli ym mharc Parc Diwydiannol Mona ger Gwalchmai

  • Cyhoeddwyd

Mae yna ansicrwydd am ddyfodol hufenfa adnabyddus ym Môn ar ôl i'r cwmni gyhoeddi na fydd modd parhau i weithredu yn ei ffurf bresennol.

Ffatri gaws yw Hufenfa Mona sydd yn cynhyrchu amrywiaeth o gawsiau Cymreig a chyfandirol ar safle Parc Diwydiannol Mona ger Gwalchmai.

Mewn datganiad, dywedodd y cwmni eu bod wedi methu â dod o hyd i gyllid tymor byr digonol i'w gynnal ond eu bod yn gobeithio y bydd modd i daith Hufenfa Mona barhau.

Nododd y cwmni eu bod yn bwriadu parhau i gyflogi staff am gyn hired â phosib wrth iddyn nhw ystyried gwahanol opsiynau.

Staff a ffermwyr yn 'flaenoriaeth'

Ychwanegodd y cwmni yn eu datganiad: "Wedi pum mlynedd o geisio datblygu'r ffatri gaws fwyaf modern a chynaliadwy yn Ewrop, tra'n brwydro yn erbyn nifer o ffactorau allanol oedd allan o’n rheolaeth, mae Hufenfa Mona yn drist i gyhoeddi ein bod wedi methu â dod o hyd i gyllid tymor byr digonol i barhau i weithredu yn ein ffurf bresennol.

"Rydyn ni'n obeithiol y bydd modd dod o hyd i ddatrysiad arall yn y dyddiau nesaf ac y bydd modd i siwrnai Hufenfa Mona barhau, hyd yn oed os yw hynny dan reolaeth newydd.

"Prif flaenoriaeth y cyfranddalwyr yw sicrhau cartref diogel i'n 31 o ffermwyr a'n staff ffyddlon ac ymroddedig sydd wedi cefnogi a chredu yn ein gweledigaeth o'r dechrau.

"Byddwn yn parhau i gyflogi ein staff am gyfnod cyn hired â phosib wrth i ni ystyried gwahanol opsiynau."

Ffynhonnell y llun, Google

Dywedodd Aelod Senedd Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth fod y cyhoeddiad yn "siomedig a phryderus".

"Roedd Hufanfa Mona wedi datblygu fel cyflogwr allai fod yn bwysig iawn dros y blynyddoedd diwethaf," meddai.

"Mae hyn yn amlwg yn ergyd."

Mae'r cwmni yn dweud eu bod wedi trefnu bod cwmni prosesu llaeth arall yn gallu prynu cynnyrch eu ffermwyr yn y tymor byr.

Dywedodd Ronald Akkerman, Rheolwr Cyfarwyddwr Hufenfa Mona: "Ry'n ni wedi gwneud ein gorau i ddatblygu'r ffatri brosesu caws orau a'r fwyaf modern a chynaliadwy i'n ffermwyr ac i Gymru, ac mae hi'n ofnadwy nad ydyn ni wedi llwyddo i wneud hynny.

"Roeddwn ni mor agos, ond dyw agos ddim wedi bod yn ddigon.

"Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi dod gyda ni ar y siwrnai yma, ac ry'n ni wir yn ymddiheuro am y ffaith nad ydyn ni wedi cyflawni'r weledigaeth.

"Bydd y cyfranddalwyr yn gweithio'n ddiflino dros y dyddiau nesaf i sicrhau'r datrysiad gorau i bawb sydd yn ymwneud â phrosiect Hufenfa Mona."

Pynciau cysylltiedig