Chwedl yn ysbrydoli cwrw newydd
- Cyhoeddwyd
Mae Bragdy Llangollen wedi creu cwrw newydd sydd wedi ei ysbrydoli gan chwedl leol.
Enw'r cwrw newydd yw 'Holy Grail Ale' a chafodd y bragwr Ynyr Jeffreys-Evans ei ysbrydoli i'w greu gan stori sydd yn cysylltu'r Greal Sanctaidd ag ardal Llangollen.
Yn ôl y chwedl, Castell Dinas Brân ger Llangollen yw man gorffwys olaf y Greal Sanctaidd.
Ceir hefyd chwedl bod yna dwnnel yn cysylltu'r castell i Abaty Glyn y Groes islaw.
'Chwedl yn parhau'
Dywedodd Roger Farnham, prif guradur yr Abaty, sydd yng ngofal Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru:
"Rwyf wrth fy modd gyda'r syniad o'r chwedl yma'n parhau ar ffurf cwrw newydd.
"Byddai'r mynachod oedd yn byw yma yn yfed wyth peint y diwrnod oherwydd roeddent yn drwgdybio'r dŵr lleol.
"Dwi'n meddwl y byddent wedi cymeradwyo'r cwrw newydd oherwydd byddai bragdy ganddynt yma, drws nesa i'r eglwys."
Mae Bragdy Llangollen yn gobeithio cynyddu cynhyrchiad eleni a bydd y cwrw newydd yn rhan bwysig o'i gynlluniau.
'Traddodiadol'
Dywedodd Ynyr Jeffreys-Evans: "Mae ein cwrw yn draddodiadol iawn ond mae Holy Grail Ale braidd yn wahanol.
"Mae'n ysgafnach gyda blas sitrws, cwrw braf iawn."
Bydd y cwrw yn cael ei lansio'n swyddogol yn ystod Gŵyl Fwyd Llangollen ym mis Hydref.
Bydd ymysg nifer o ddiodydd lleol fydd ar gael yn ystod yr ŵyl flynyddol sydd yn cael ei gefnogi gan yr asiantaeth datblygu wledig, Cadwyn Clwyd.