'Twll sylweddol' yn nho Llyfrgell Genedlaethol

  • Cyhoeddwyd
Llyfrgell Gedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 2.39pm brynhawn dydd Gwener

Mae 'twll sylweddol' yn nho Llyfrgell Genedlaethol Cymru oherwydd tân brynhawn Gwener.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw am 2.39pm.

Mae rhan 30 metr o hyd o'r to wedi cael ei difrodi a bu raid i 300 o weithwyr ac ymwelwyr adael yr adeilad.

Roedd y tân yng nghefn yr adeilad gyferbyn â'r prif faes barcio.

Dywedodd Gohebydd BBC Cymru, Craig Duggan: "Mae traean o'r to wedi diflannu.

"Pan gyrhaeddais i roedd hyd at 15 troedfedd o fflamau ac erbyn hyn, mae rhannau o'r to yn dal i losgi."

'Yn ddiogel'

Ar un adeg roedd diffoddwyr yn defnyddio ysgol hir wrth geisio diffodd y fflamau.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Arwel Jones: "Dydyn ni ddim yn gwybod sut dechreuodd y tân ond diolch i Dduw gadawodd pawb yr adeilad yn ddiogel.

"Mae'n mynd i gymryd amser i weld maint y difrod.

"Mewn celloedd yng ngwaelod y llyfrgell mae'r eitemau prin yn cael eu cadw.

"'Swn i'n synnu pe bai'r trysorau o dan fygythiad."

'Ymchwiliad'

Yn ôl Aled Gruffydd Jones, y llyfrgellydd newydd ym mis Awst: "Mae'n rhaid inni ddarganfod beth ddigwyddodd ac rwyf wedi drysu wrth feddwl sut y gallai hyn wedi digwydd.

"Yn amlwg, fe fydd angen ymchwiliad."

Ni fydd y llyfrgell ar agor ddydd Sadwrn a bydd penderfyniad yn ystod y penwythnos a fydd ar agor ddydd Llun.