Adolygiad Macur: Stori'r dioddefwyr
- Cyhoeddwyd
Ychydig dros dair blynedd yn ôl, cafodd yr Arglwyddes Ustus Macur y dasg o edrych unwaith yn rhagor ar ymchwiliad Waterhouse i gamdriniaeth mewn cartrefi plant yng ngogledd Cymru. Heddiw mae'r adolygiad wedi ei gyhoeddi.
A fydd yn gallu tynnu llinell o dan sgandal 40 mlynedd, a chynnig rhywfaint o gysur i ddioddefwyr sydd yn dal i deimlo'r boen a'r ffyrnigrwydd o gael eu bradychu?
"Dwi'n methu gadael iddo fynd. Mae fel fflam yn llosgi tu mewn i mi."
Dyw 'David' ddim am i ni ddefnyddio ei enw iawn.
Mae dros 25 mlynedd wedi mynd heibio ers i David fyw yng nghartre' Bryn Alyn yn Wrecsam, ond dyw'r teimlad o ddicter a chasineb tuag at y rhai wnaeth ei gamdrin fyth wedi pylu.
Pan gyrhaeddodd y cartre' roedd ganddo obeithion mawr. "Roedd e`n edrych ac yn swnio fel lle gwych i fyw yn fy arddegau, yn hytrach na bod adre, lle doedd 'na ddim ansawdd bywyd."
Ond pylu wnaeth y gobeithion.
"Fe ymosodwyd yn rhywiol arnai, ond roedd 'na ymosodiadau rhywiol cyson ar rai pobl, ac fe fyddech chi'n gweld y plant yma yn mynd a dod. Bydden nhw ar goll am dri neu bedwar diwrnod, yna'n dod 'nôl a chael beic newydd neu gar remote-controlled.
"Nid chwaith dim ond camdriniaeth rhywiol, ond roedd yn gamdriniaeth corfforol a meddyliol hefyd. Roedden ni'n darged. Roedden ni'n felysion mewn siop da-da i bedoffiliaid a phobl oedd yn camdrin plant."
Ers gadael y cartre mae David wedi cael problemau ymdopi, gan dreulio cyfnodau yn y carchar.
Mae hon yn stori gyfarwydd i Joy Dyment, Cyfarwyddwr elusen Stepping Stones sy'n helpu pobl sydd wedi eu camdrin.
"Dwi'n amau bod yna nifer o ddioddefwyr mewn carchardai," meddai.
"Mae nifer yn troi at gyffuriau ac alcohol. Dy'n nhw ddim yn gweithio, ac mae eu cysylltiadau cymdeithasol yn fach iawn.
"Chi'n gweld bod ymddygiad fel hyn yn deillio o gamdriniaeth rhywiol yn aml iawn."
'Dyw'r gwir ddim wedi dod allan'
Yn 1997, tra yn y carchar, fe wnaeth David roi datganiad i Ymchwiliad Waterhouse ynglŷn â'r camdriniaeth a welodd ac a ddioddefodd.
"Roedden ni wedi torri fy mhigwrn ac yn yr uned feddygol yn y carchar, a dyma'r heddlu yn dod i siarad gyda fi. Roeddwn ni wedi gwneud honiad penodol yn erbyn unigolyn.
"Fe ysgrifennon nhw bopeth o ni'n dweud i lawr. Fe aethon nhw i ffwrdd gyda'r datganiad yna, gan adael i mi feddwl eu bod am wneud rhywebeth am y peth, ond wnaethon nhw ddim."
Beth am ei argraff e' o'r ymchwiliad? "Joc, dyw'r gwir ddim wedi dod allan."
"O ni'n meddwl y byddai pobl yn cael eu cyhuddo a'u cael yn euog am yr hyn oedden nhw wedi ei wneud i blant. O ni'n meddwl y bydde' ganddon ni lais wedi'r hyn oedd wedi digwydd i ni mewn sefydliadau oedd i fod yn ddiogel a saff, gan ein bod ni'n blant bregus yn eu gofal."
Dyw David ddim yn lais unigol wrth ddweud ei fod yn teimlo i'r awdurdodau ei fradychu.
Fe ddioddefodd Andrew Teague, o Abertawe, ymosodiad rhywiol tra yng nghartre' gofal Bryn Estyn ger Wrecsam yn y 1970au hwyr.
Fe wrthododd roi tystiolaeth i ymchwiliad Waterhouse, ar ôl colli ffydd mewn pobl sydd mewn awdurdod.
Dywedodd: "Beth oedd y pwynt i mi sefyll lan a dweud unrhywbeth pan nad oedd na neb yn gwrando beth bynnag?
"Doedd neb yn gwrando bryd hynny, pam ddylen nhw wrando nawr?"
Bywyd 'wedi chwalu'
Cafodd y bobl oedd yn gyfrifol am gamdrin Mr Teague eu carcharu yn y 1990au am droseddau yn erbyn plant eraill.
Mae e'n dal i ddioddef yn sgil yr hyn ddigwyddodd iddo: "Mae fy mywyd wedi chwalu'n llwyr.
"Bryd hynny doedden ni ddim yn ymddiried yn y system, a nawr 39 mlynedd yn ddiweddarach mae gyda fi yr un broblem. Dwi ddim yn ymddiried yn y system o gwbl."
Gyda chyhoeddi Adolygiad Macur a pharhad Ymgych Pallial, sy'n ymchwilio i honiadau o gamdrin plant, ydi'r rhai ddioddefodd yn teimlo bod cyfiawnder ar y gorwel?
Mae profiadau Joy Dyment o bosib yn rhoi ychydig o obaith iddyn nhw.
"Mae'n siwrne personol, ond mae'r ymateb i ni wedi cael am Ymgyrch Pallial wedi bod yn bositif," meddai.
"Mae dioddefwyr yn teimlo eu bod wedi medru cau ambell bennod gan bod yr ymchwiliad wedi mynd ymhellach, er efallai bod y rhai oedd yn gyfrifol wedi marw. Felly mae nhw'n gwybod ar ddiwedd y dydd y gallan nhw ddweud 'Ie, fe fyddai'r person yna wedi cael eu herlyn'."
Ond i rai, does dim modd osgoi'r niwed.
"Does dim byd fedran nhw neud," medd David. "Does dim swm o arian, na chyfnod yn y carchar all fyth ddileu yr hyn wnaethon nhw, a'r ffordd y gwnaeth y system ein gadael ni i lawr."