Gogledd Cymru yn y 10 lleoliad gorau yn y byd i deithwyr
- Cyhoeddwyd
Gogledd Cymru yw un o'r 10 lle gorau i ymweld a nhw ar draws y byd yn 2017, yn ôl Lonely Planet.
Mae'r ardal wedi ei chynnwys yn y 10 uchaf gan y cyhoeddwyr yn dilyn adfywiad mewn sawl lleoliad, a chyfleoedd awyr agored sy'n gwneud y gorau o'r tirlun.
Yn ogystal â'r cyfleoedd antur, mae'r gogledd yn denu pobl sy'n chwilio am fwyd da, cyfleoedd i wylio'r sêr a gwledd o dreftadaeth.
Mae Gogledd Cymru wedi cyrraedd y pedwerydd safle ar y 10 uchaf ar draws y byd, gyda Choquequirao ym Mheriw ar y brig.
Ymysg yr atyniadau sydd wedi dal llygaid y cyhoeddwyr mae Surf Snowdonia yn Nolgarrog, Conwy, gwifren Zipworld uwchben chwarel y Penrhyn ym Methesda a pharc cenedlaethol Eryri.
Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r newyddion gan ddweud bod nifer yr ymwelwyr i Gymru wedi cynyddu ac y bydd y wobr yn rhan o farchnata'r llywodraeth ar gyfer 2017.
Cafodd y 10 lleoliad eu cynnwys ar y rhestr am eu bod yn cynnig rhywbeth newydd i ymwelwyr wneud neu weld, neu fod rhywbeth arbennig yn digwydd yno yn y flwyddyn nesaf.
Roedd ystyriaeth hefyd i ddatblygiadau diweddar neu os oedd arbenigwyr Lonely Planet yn teimlo nad yw'r lle yn cael sylw haeddiannol.
Roedd ysgrifenwyr a golygyddion wedi edrych ar gannoedd o leoliadau ar draws y byd cyn penderfynu ar y 10 uchaf.
Dywedodd Tom Hall, Cyfarwyddwr Golygyddol Lonely Planet, bod gogledd Cymru yn y 10 uchaf "am fod yr ardal yn haeddu cael ei chydnabod ar y llwyfan byd-eang".
"Mae'n ardal syfrdanol gyda phob math o weithgareddau ar gael i ddiddanu teithwyr," meddai.
"Mae gogledd Cymru yn berl ac fe ddylai fod ar radar bob teithiwr."
Yn ôl Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates fe fydd safle gogledd Cymru ar y rhestr yn siŵr o ddenu ymwelwyr newydd: "Rydyn ni wedi gweld buddsoddiad mewn cynnyrch sydd yn denu pobl i Gymru, nifer am y tro cyntaf ac unwaith maen nhw yng Nghymru maen nhw'n profi'r croeso cynnes, y diwylliant a hanes yr ardal."
Y 10 uchaf yn llawn:
Choquequirao, Periw
Taranaki, Seland Newydd
Yr Azores, Portiwgal
Gogledd Cymru
De Awstralia
Aysén, Chile
Y Tuamotus, Polynesia Ffrengig
Arfordir Georgia, UDA
Perak, Malaysia
Skellig Ring, Iwerddon