Cofio'r llenor 'annwyl' Tony Bianchi sydd wedi marw
- Cyhoeddwyd
Bu farw'r llenor Tony Bianchi yn 65 oed.
Cafodd ei fagu yn North Shields yng ngogledd ddwyrain Lloegr ac fe ddysgodd y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Llambed, lle enillodd ddoethuriaeth am astudiaeth o waith Samuel Beckett.
Am flynyddoedd, bu'n gyfarwyddwr llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, cyn mynd ymlaen i weithio fel awdur, golygydd a chyfieithydd yng Nghaerdydd.
Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Sir Y Fflint a'r Cyffiniau 2007 am ei nofel Pryfeta, cyn mynd ymlaen i ennill y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau yn 2015 am ei nofel, Dwy Farwolaeth Endaf Rowlands.
Ymysg ei weithiau eraill roedd Esgyrn Bach, Chwilio am Sebastian Pierce a Ras Olaf Harri Selwyn.
Cofio 'dyn annwyl'
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd yr awdur a'r sylwebydd Jon Gower: "Mae rhywun yn cofio Tony Bianchi fel dyn hynod o annwyl a chariadlawn, a phob sgwrs gydag ef yn werth ei gael.
"Fel awdur roedd wedi llunio saith nofel, a'r rheini yn soffistigedig iawn - cyfrolau doeth a chwareus ar yr un pryd, gan ennill iddo Wobr Daniel Owen a'r Fedal Ryddiaith.
"Mae teitl ei gasgliad o straeon hunangofiannol 'Cyffesion Geordie Oddi Adref' yn ein hatgoffa taw dyma frodor o Ogledd Lloegr wnaeth nid yn unig ddysgu Cymraeg ond ei llwyr meddiannu."
Mae rhai o gyd-awduron a llenorion Tony Bianchi wedi bod yn rhannu eu teyrngedau iddo ar wefannau cymdeithasol.
Dywedodd Manon Steffan Ros ar Twitter: "Tony Bianchi. Athrylith mentrus, ffraeth, addfwyn a charedig. Diolch amdano fo a'r geiria' mae o wedi gadael ar ei ôl."
Yn ôl Aneirin Karadog, roedd gan Tony Bianchi "cymaint mwy i'w roi" a'i fod yn "(g)olled enfawr i fyd llên Cymru".
Cafwyd sawl cyfeiriad hefyd at ei wreiddiau yng ngogledd ddwyrain Lloegr. Fe ddisgrifiodd Seimon Brooks ef fel "Cymro da, Geordie da" a'i fod yn " (d)dyn hyfryd a diwylliedig, gwâr a gwybodus".
'Teg a bonheddig'
Roedd Tony Bianchi yn un o feirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen fydd yn cael ei chyhoeddi yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn fis Awst eleni.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol fod "marwolaeth Tony Bianchi yn golled fawr i lenyddiaeth".
"Roedd Tony Bianchi'n gefnogwr brwd o'r Eisteddfod, yn enillydd rheolaidd a phoblogaidd ac yn feirniad teg a bonheddig.
"Roedd yn un o feirniad Gwobr Goffa Daniel Owen eleni, a byddwn yn gweld ei eisiau, nid yn unig adeg y seremoni, ond hefyd wrth werthfawrogi'i gyfraniad i lenyddiaeth ein gwlad.
"Roedd yn bleser delio gyda Tony bob amser a bydd colled fawr ar ei ôl yn yr Eisteddfod ac ar draws Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Awst 2015