Colled o £7.5m i URC er digwyddiadau Stadiwm Principality
- Cyhoeddwyd
Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi cofnodi colled o £7.5m yn ystod y 12 mis hyd Ebrill eleni, er gwaethaf croesawu sawl digwyddiad mawr i Stadiwm Principality.
Fe gododd trosiant y corff llywodraethu am yr ail flwyddyn yn olynol, i £102.7m, gyda £4.7m ychwanegol yn dod o gemau a digwyddiadau fel cyngherddau Taylor Swift a Bruce Springsteen.
Ni chafodd gemau rhyngwladol yn yr hydref eu cynnal yng Nghymru yn 2023 oherwydd Cwpan y Byd, ond fe gafodd gemau cyfeillgar yr haf, gemau'r Barbariaid a pherfformiadau artistiaid fel Pink a'r Foo Fighters eu cynnal i Gaerdydd.
Dywed URC fod effaith barhaus Covid, chwyddiant uchel, costau uwch o ran Cwpan y Byd y dynion a buddsoddiad mewn rygbi merched wedi cynyddu costau o £67m i £75.1m.
Ar ôl cofnodi elw o £3m yn 2022, mae URC bellach wedi gweld colledion yn cynyddu o £4.8m i £7.5m ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiweddaraf.
Daw'r canlyniadau ariannol wedi cyfnod cythryblus i rygbi Cymru, ar ac oddi ar y cae.
Mae sefyllfa Warren Gatland fel prif hyfforddwr tîm y dynion yn ansicr yn dilyn record o 12 colled yn olynol, tra ymddiswyddodd prif hyfforddwr merched Ioan Cunningham yn gynharach y mis hwn.
Mae URC hefyd wedi ymddiheuro am y ffordd y cafodd trafodaethau cytundeb tîm y merched eu cynnal dros yr haf.
Gostyngodd cyllid ar gyfer y rhanbarthau o £35.5m i £28.7m ac fe gafodd y Dreigiau eu gwerthu'n ôl i berchnogion preifat fis Gorffennaf y llynedd.
Fodd bynnag, dywed y corff llywodraethu eu bod yn dal i fuddsoddi £60m ymhob lefel o'r gêm yng Nghymru.
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2024
Y prif weithredwr Abi Tierney wnaeth cyflwyno'r adroddiad yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol URC ym Mro Morgannwg ddydd Sul - y tro cyntaf ers iddi gymryd yr awenau ym mis Ionawr.
Dywedodd fod yr undeb yn canolbwyntio ar sicrhau "sefydlogrwydd ariannol".
“Daw adroddiad blynyddol eleni yng nghyd-destun cyfnod heriol ond un sy'n canolbwyntio ar ddyfodol rygbi Cymru,” meddai.
“Mae’r angen i sicrhau sefydlogrwydd ariannol yn ganolog i [ein] strategaeth ac yn hanfodol o ran llunio dyfodol cynaliadwy i’r gêm.
“Mae URC wedi wynebu nifer o rwystrau ariannol eleni [ond] ein nod, fel erioed, yw gwneud y mwyaf o’r ail-fuddsoddiad mewn rygbi bob blwyddyn.”