Gŵyl fwyd Aberaeron yn dathlu'r ugain
- Cyhoeddwyd
A hithau'n ugain oed eleni mae gŵyl fwyd Aberaeron yn gryn hwb i ddiwydiant twristiaeth y gorllewin, medd un o'r trefnwyr.
Mae Glyn Heulyn a'i wraig Menna yn berchen ar westy yn Aberaeron a nod yr ŵyl pan y'i sefydlwyd yn 1997 oedd "hybu bwyd môr a chodi proffil pysgod", meddai.
"Mae hynny yn nod o hyd, wrth gwrs," ychwanegodd Glyn, "ond mae'r ŵyl hefyd yn hwb i dwristiaeth Aberaeron a'r cyffiniau wrth i bobl heidio yma - nifer ohonynt yn aros mewn gwestai lleol.
Mae'r ŵyl yn denu rhwng pump a saith mil o fobl erbyn hyn ac yn derbyn nawdd gan Lywodraeth Cymru.
Ychwanegodd Glyn Heulyn: "Mae gennym gogyddion arbennig yn dod yma - nifer ohonynt â seren Michelin a maent yn cynnig pob math o syniadau am sut i baratoi pysgod lleol - prydau a all gael eu paratoi adref. Mae gennym hefyd ddigwyddiadau amrywiol ar y llwyfan a cherddoriaeth fyw."
'Angen gwneud mwy i hybu cynnyrch môr'
Yn ystod yr ŵyl eleni dywedodd Ben Lake, aelod seneddol newydd Ceredigion bod angen gwneud mwy i hybu cynnyrch môr Cymru.
Dywedodd Menna Heulyn hefyd, un o drefnwyr y digwyddiad, y gallai mwy fod wedi cael ei gyflawni dros yr ugain mlynedd diwethaf i hybu a marchnata bwyd môr ar draws Cymru a thu hwnt.
Ers y saithdegau, mae nifer y pysgod sy'n cael eu dal oddi ar arfordir Prydain wedi haneru i bedwar can tunnell. Dros yr un cyfnod mae ffigyrau menwforio pysgod wedi dyblu gyda bron i saith can mil tunnell o bysgod yn dod i Brydain y llynedd.
Cofio'r daith i Ohio
Ymhlith y digwyddiadau eleni roedd cofio taith criw o ardal Aberaeron i Ohio ar y cyntaf o Ebrill 1818.
Yn ystod y misoedd diwethaf mae perthnasau y rhai a groesodd wedi bod yn hel atgofion a straeon a'r bwriad yw cyhoeddi llyfr yn y dyfodol agos.
"Mae'r ŵyl yn llanw'r cei," medd Glyn Heulyn, "a mae'n braf gweld pobl yn heidio yma i gefnogi y diwydiant pysgota a thwristiaeth."