Ehangu cynllun yn y gogledd i daclo unigrwydd drwy ganu
- Cyhoeddwyd
Mae sefydliad yn y gogledd yn ymestyn cynllun i daclo unigrwydd drwy gerddoriaeth, a hynny flwyddyn ers ei lansio.
Ym mis Tachwedd 2016 fe ddechreuodd Canolfan Gerdd William Mathias yng Nghaernarfon gynnal sesiynau wythnosol ar gyfer pobl hŷn mewn dwy ardal yng Ngwynedd.
Bwriad y cynllun - Atgofion ar Gân - oedd rhoi cyfle i henoed yn ardal Gellilydan a'r Bala ganu a chwarae cerddoriaeth gyda'i gilydd.
Fe fydd y prosiect nawr yn cael ei ymestyn i ardaloedd Bethesda a Deiniolen yng ngogledd y sir, gyda'r sesiynau cyntaf yno'n cael eu cynnal ddydd Gwener.
Ers y llynedd mae'r ganolfan, ar y cyd â Chyngor Gwynedd, wedi bod yn cynnal y sesiynau yng Ngellilydan a chanolfan Awel y Coleg, Y Bala dan arweiniad Nia Davies Williams.
Mae plant ysgol lleol hefyd wedi bod yn cymryd rhan mewn sesiynau Camau Cerdd gyda Marie-Claire Howorth, gan ymuno i gyd-ganu a chymryd rhan mewn gweithgareddau cerddorol gyda'r bobl hŷn.
Mewn adroddiad yn gynharach eleni yn gwerthuso'r cynllun fe ddywedodd Canolfan Gerdd William Mathias fod y niferoedd wedi cynyddu "o wythnos i wythnos".
Roedd dros 90% o'r bobl hyn fu'n cymryd rhan hefyd yn dweud fod y sesiynau wedi eu helpu i deimlo'n llai unig, codi eu hyder, eu galluogi i gyfarfod pobl newydd, neu eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol eraill.
Ychwanegodd y ganolfan fod y sesiynau wedi "helpu dod â phobl at ei gilydd i hel atgofion a mwynhau cerddoriaeth, yn ogystal â chodi hyder a chynnig cyfle i gyfarfod pobl newydd".
"Mae pawb wedi bod yn canmol ac yn mwynhau - mae'r sesiynau'n digwydd bob pythefnos, ac yna unwaith neu ddwywaith y tymor mae'r plant ysgol gynradd 'di bod yn dod i mewn i gyfuno efo'r bobl hŷn a chymryd rhan hefyd," esboniodd Nia Hughes o Ganolfan Gerdd William Mathias.
"'Dan ni'n tueddu i ganu hen alawon gwerin ac emynau efo nhw, felly mae pobl yn eu gwybod nhw ac yn ymuno i mewn.
"Pan maen nhw'n canu'r hen ganeuon mae o'n dod ag atgofion o pan oedden nhw'n fach, ac maen nhw'n rhannu hanesion ac yn sgwrsio."
Eu bwriad nawr yw ehangu'r ddarpariaeth, gyda'r sesiynau cyntaf yn cael eu cynnal ym Methesda a Deiniolen ar 27 Hydref, a phlant ysgol lleol yn ymuno yn y sesiynau erbyn gwanwyn y flwyddyn nesaf.
"'Dan ni wedi bod yn cydweithio efo'r cyngor ac fe wnaethon ni fynd drwy'r lleoliadau a llefydd sydd yn debygol o fod efo pobl hŷn mewn peryg o fod yn unig, ac wedyn penderfynu ar y ddau le yna," meddai Nia Hughes.
Bydd y sesiwn ym Methesda'n cael ei chynnal ddydd Gwener am 10:30 yn Neuadd Ogwen, gyda'r sesiwn yn Nhŷ Elidir, Deiniolen yn dechrau am 14:00. Y bwriad wedyn yw eu cynnal bob yn ail wythnos o hynny ymlaen.