GVA Cymru yn is na phob gwlad a rhanbarth o'r DU
- Cyhoeddwyd
Roedd gan Gymru'r lefel isaf o GVA y pen o bob un o wledydd a rhanbarthau'r DU yn 2016, yn ôl y ffigyrau diweddaraf i gael eu cyhoeddi.
Mae Gwerth Ychwanegol Crynswth, neu Gross Value Added, yn cael ei ddefnyddio i fesur gwerth y nwyddau a'r gwasanaethau sydd yn cael eu cynhyrchu yn y gweithle.
Dangosodd y ffigyrau fod gan Gymru GVA o £19,140 y pen, o'i gymharu â chyfartaledd o £26,339 ar draws y DU.
Ynys Môn oedd yr awdurdod lleol gyda'r GVA isaf ar draws y Deyrnas Unedig i gyd - £13,655.
Ond Cymru welodd y twf mwyaf o unrhyw un o wledydd y DU, gyda chynnydd o 1.9% llynedd.
Fe wnaeth Caerdydd hefyd dyfu 5.7%, mwy nag unrhyw brifddinas arall.