Cynnal ymchwiliad i achosion cysgu ar y stryd
- Cyhoeddwyd
Bydd grŵp o aelodau aml bleidiol y Cynulliad yn cynnal ymchwiliad er mwyn ceisio darganfod yr achosion pam fod pobl yn cysgu ar y stryd.
Bydd Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn craffu ar faint y broblem a'r gefnogaeth sydd ar gael hefyd.
Dywedodd John Griffiths, sy'n cadeirio'r pwyllgor, bod hi'n ymddangos bod mwy o lefydd "mynediad siopau, grisiau a meinciau parciau" yn cael eu defnyddio gan bobl sydd yn cysgu ar y stryd.
Bydd y pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan fudiadau ond mae ACau hefyd eisiau clywed profiadau gan bobl sydd wedi bod yn y sefyllfa.
'Bywydau mewn perygl'
"Yn enwedig yr adeg yma o'r flwyddyn, mae iechyd pobl a hyd yn oed eu bywydau mewn perygl," meddai'r AC ar gyfer Dwyrain Casnewydd.
"Mae llawer o waith da yn cael ei wneud gan fudiadau, elusennau, cynghorau lleol a phobl iechyd a gofal cymdeithasol i gynnig help a chefnogaeth, ond rydyn ni eisiau gwybod beth arall allwn ni wneud."
Y ddeddfwriaeth ar hyn o bryd er mwyn taclo digartrefedd yng Nghymru yw ymyrryd yn gynnar ac atal unigolion rhag bod yn y sefyllfa hynny.
Mae yna reidrwydd ar awdurdodau lleol i ddarganfod llety i'r rhai sydd yn cael eu hystyried yn "flaenoriaeth".
Dyw cysgu ar y stryd ddim yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth o dan y ddeddfwriaeth bresennol.