Dewis wyth i rownd derfynol Cân i Gymru 2018

  • Cyhoeddwyd
tlws

Mae S4C wedi cyhoeddi pa wyth gân sydd wedi eu dewis ar gyfer rownd derfynol cystadleuaeth Cân i Gymru 2018.

Dywedodd y sianel fod 114 o ganeuon wedi cael eu hanfon i'r gystadleuaeth eleni, y nifer fwyaf "ers rhai blynyddoedd".

Fe fydd yr wyth cân yn cael eu perfformio yn ystod rhaglen fyw ar 1 Mawrth o Theatr Bryn Terfel, Pontio, Bangor, gyda'r rhaglen yn cael ei chyflwyno unwaith eto gan Elin Fflur a Trystan Ellis Morris.

Bydd cyfansoddwr y gân fuddugol yn cipio gwobr o £5,000, gyda'r enillwyr hefyd yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd yn Iwerddon ym mis Ebrill.

Disgrifiad o’r llun,

Cadi Edwards, disgybl chweched dosbarth yn Ysgol Dyffryn Conwy, oedd enillydd Cân i Gymru 2017

Fel y llynedd, bydd y cyfansoddwr sydd yn dod yn ail yn cael gwobr o £2,000, gyda'r person sy'n drydydd yn cael £1,000.

Cadi Gwyn Edwards, 17, o Lanrwst oedd enillydd y gystadleuaeth yn 2017 gyda'i chân 'Rhydd'.

Roedd y panel wnaeth ddewis yr wyth cân yn cynnwys y cerddor, bardd, actor a'r comedïwr Dewi 'Pws' Morris; y canwr a'r cyfansoddwr Al Lewis; basydd a phrif ganwr y grŵp HMS Morris, Heledd Watkins; a'r cyfansoddwr a chanwr Steffan Rhys Williams.

"Roedd y safon yn amrywio dipyn, ond gawson ni lot o hwyl yn dewis yr wyth oedd yn dod i'r brig - roedd 'na dipyn o anghytuno!" meddai Dewi Pws.

"Geiriau yw 'mhethau i wastad wedi bod, dwi'n hoffi caneuon sy'n dweud rhywbeth - sy'n rhoi darlun neu emosiwn i ti. Mae unrhyw ganeuon sydd â thinc Celtaidd yn sefyll allan i mi hefyd, gan ei bod hi angen cynrychioli Cymru yn Iwerddon."

Disgrifiad o’r llun,

Dewi Pws oedd un o banelwyr y wobr eleni - bydd yr enillydd yn cael ei ddewis drwy bleidlais gan y gwylwyr

Y rhestr fer

Dwi'm yn Dy Nabod Di - Dafydd Dabson ac Anna Georgina

Mam a mab sy'n dod o Langwnnadl ym Mhen Llŷn sydd wedi dod at ei gilydd i ysgrifennu'r gân. Mae Anna yn athrawes telyn, ac mae Dafydd, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd yn athro gitâr.

Tincian - Beth Williams-Jones a Sam Humphreys

Mae Beth, sy'n wreiddiol o Abertyleri a Sam sy'n hanu o Nefyn ym Mhen Llŷn bellach yn byw yng Nghwmbrân, ac yn aelodau o'r band gwerin Calan. Maen nhw hefyd yn aelodau o'r band gwerin No Good Boyo. Dyma'r ail dro iddyn nhw gystadlu yn Cân i Gymru - roedd eu cân ymysg yr wyth olaf yn 2016.

Dim Hi - Hana Evans

Daw Hana o Sully, ger Caerdydd, ac mae'n ddisgybl chweched dosbarth yn Ysgol Bro Morgannwg. Mae hi wedi cyfansoddi yn y Saesneg ers yn ifanc, ac mae hi wedi perfformio mewn llefydd fel yr 02 yn Llundain. Bydd hi'n rhyddhau sengl yn Chwefror.

Byw a Bod - Mared Williams

Daw Mared yn wreiddiol o Lannefydd ger Dinbych ac ar hyn o bryd yn astudio Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Leeds. Mae hi'n aelod o'r band Trŵbz, ac yn gigio ar ei phen ei hun o gwmpas Leeds. Rhyddhaodd ei sengl gyntaf 'Dolig Dan y Lloer' dros y Nadolig, a bydd yn rhyddhau sengl gyda Denton Thrift, grŵp electroneg o Leeds yn fuan.

Ysbrydion - Aled Wyn Hughes

Mae Aled, sy'n byw ym Methesda, ond o Fotwnnog, Pen Llŷn yn wreiddiol, yn aelod o fand Cowbois Rhos Botwnnog. Cyfansoddodd y gerddoriaeth ar gyfer "A Oes Heddwch" cyngerdd agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Môn y llynedd ar y cyd gyda'i frawd Dafydd Hughes.

Ton - Gwynfor Dafydd a Michael Phillips

Un o Donyrefail yw Gwynfor, sydd bellach yn astudio Ieithoedd Tramor ym Mhrifysgol Caergrawnt, ac mae Michael yn athro cerdd sy'n byw ym Malvern, Sir Caerwrangon er ei fod yn dod o Abertawe'n wreiddiol. Doedd y ddau ddim yn adnabod ei gilydd tan iddyn nhw fynd ati i gyfansoddi'r gân ar gyfer y gystadleuaeth hon. Roedd Michael eisoes wedi ysgrifennu'r alaw, ac yn chwilio am rywun i ysgrifennu'r geiriau. Cysylltodd gyda Gwynfor wedi iddo'i weld ar eitem ar raglen Heno ar S4C am feirdd oedd yn cymryd rhan yn Her 100 Cerdd. Mae Gwynfor wedi ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd ddwywaith.

Cofio Hedd Wyn - Erfyl Owen

Mae Erfyl o bentref Rhewl, Rhuthun yn gweithio i Gyngor Sir Dinbych, ac mae'n aelod o deulu cerddorol Hafod y Gân. Arferai gyfansoddi caneuon gyda'i ddiweddar fam ar gyfer penblwyddi ac achlysuron arbennig i ffrindiau a theulu, ond dyma'r tro cyntaf iddo gyfansoddi'r alaw a'r geiriau. Roedd yn awyddus i greu geiriau oedd am fynd at galon y genedl, wrth sôn am ganmlwyddiant marwolaeth y bardd Hedd Wyn.

Ti'n Frawd i Mi - Owain Glenister

Mae Owain, sy'n dod o Lanelli, yn gweithio i Fenter Iaith Castell-nedd Port Talbot, ac yn berchen Y Lle, canolfan Gymraeg yn Llanelli. Mae'n aelod o'r grŵp gwerin Madog, ac mae wedi cyfansoddi mewn gweithdai i bobl ifanc, ond dyma'r tro cyntaf fydd un o'i ganeuon yn cael ei chlywed gan gynulleidfa ehangach.