Cantores ifanc o Lanrwst yn ennill Cân i Gymru
- Cyhoeddwyd
Cadi Gwyn Edwards o Lanrwst wnaeth ennill Cân i Gymru 2017 nos Sadwrn gyda'i chân, Rhydd, ar noson fywiog yng Nghaerdydd.
Daw Cadi, 17, yn wreiddiol o Lanrwst ac mae'n gwneud Lefel AS yn Ysgol Dyffryn Conwy.
Dywedodd ei bod wedi ysgrifennu'r gân ar ei ffôn ar ôl iddi ymweld ag Ynys Llanddwyn, a hi oedd yn ei pherfformio ar y noson yn ogystal.
Fe wnaeth hi ddisgrifio'r gân fel "unigrwydd person sydd eisiau torri'n rhydd oherwydd caethiwed".
Roedd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn Stiwdio BBC Cymru yn Llandaf eleni, gydag Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris yn cyflwyno.
£5,000
Roedd 10 cân yn lle'r wyth arferol wedi cael eu dewis ar gyfer y rhestr fer, a dywedodd y beirniad fod hynny'n adlewyrchiad o'r "safon uchel".
Dywedodd y trefnwyr eu bod wedi derbyn dros 100 o ganeuon ar gyfer y gystadleuaeth.
Roedd tair gwobr eleni - gyda'r enillydd yn derbyn £5,000, £2,000 i'r ail, a £1,000 i'r drydedd.
Bydd Cadi hefyd yn cynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Celtaidd yn ddiweddarach eleni.
Aeth y gystadleuaeth "yn ôl i'w gwreiddiau" eleni, gyda dim mentoriaid, dim beirniaid, dim wal Twitter.
Dywedodd un o'r rhai wnaeth ddewis y rhestr fer, Sion Llwyd cyn y gystadleuaeth: "Mae'r pwyslais ar y caneuon ac fe fyddan nhw'n cael eu perfformio gan gantorion dawnus i gyfeiliant band byw."
Roedd y canlyniad felly ar sail pleidlais y cyhoedd yn unig.
Pryder gan Sophie Jayne Marsh ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth, gyda Fy Nghariad Olaf i gan Richard Vaughan ac Andy Park yn y trydydd safle.
Gweddill y rhestr fer:
Ti yw fy Lloeren - Hywel Griffiths
Curiad Coll - Hawys Bryn Williams a Gwion John Williams
Cân yr Adar - Llinos Emanuel
Eleri - Betsan Haf Evans
Gelyn y Bobl - Richard Marks
Seren - Mari Lovgreen a Geraint Lovgreen
Rhywun Cystal â Ti - Eady Crawford