Beth yw'r farn am Y Cymro ar ei newydd wedd?
- Cyhoeddwyd
Mae Y Cymro yn ei ôl
Roedd hi'n ymddangos bod oes 'Papur Cenedlaethol Cymru' ar ben ym mis Mehefin 2017 pan gafodd rhifyn ola'r wythnosolyn ei gyhoeddi. Ond diolch i ymdrechion tîm brwdfrydig Cyfeillion y Cymro mae'r papur wedi ei atgyfodi fel cyhoeddiad misol. Mae'r rhifyn cyntaf ar y silffoedd ar 23 Mawrth.
Beth yw'r farn am y papur ar ei newydd wedd? Elen Davies a Liam Ketcher sy'n astudio Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n bwrw golwg dros y rhifyn cyntaf:
Wrth ystyried dylanwad posib spin wleidyddol y papurau Saesneg ar benderfyniad pobl i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae'r angen am bapur diduedd a theg o Gymru, am Gymru, i bobl Cymru yn fwy nag erioed.
Fy mhrif reswm dros ddewis fy mhwnc gradd oedd fy niddordeb mewn materion sy'n ymwneud â phobl ifanc a dinasyddion llawr gwlad. Heb os, dyma mae Y Cymro'n ei gynnig. Yn y rhifyn cyntaf mae lleisiau'r hen a'r ifanc i'w clywed, y rhai mewn pŵer a phobl ar lawr gwlad.
Mae'r papur yn anelu i fod yn gynrychioladol o'r genedl gyfan. Ac yn well fyth, mae Y Cymro yn ymfalchïo yng nghyfoeth geirfa ac idiomau ein tafodiaith wrth i'r ysgrifennu fod yn llafar ei naws. O ganlyniad, mae'n bapur i bawb, yn hawdd ei ddeall, ac â thipyn mwy o gymeriad iddo na'r Cymro ddaeth i ben.
Gweledol iawn
Mae'r newydd wedd yn plesio'n fawr, ac yn fwy apelgar i berson ifanc fel fi na rhifynnau'r gorffennol o ganlyniad i dudalennau gweledol iawn. Mae'r lliw ar bob tudalen yn denu'r llygad yn fwy na'r du a gwyn arferol, ac yn rhoi golwg fwy modern a ffres na'r papur newydd traddodiadol.
Mae'r fformat newydd yn cynnwys llai o ysgrifennu ar bob tudalen, yn fwy 'blogaidd', ac o ganlyniad, mae'r straeon yn gliriach, yn dal sylw'n well ac yn cael y sylw maen nhw'n eu haeddu ar y dudalen. Gyda dyfodol y papur dyddiol print yn destun trafod, mae'n sicr yn awgrymu mai dyma'r dyfodol, symud y papur gyda'r oes a'i deilwra at anghenion y gynulleidfa heddiw.
O ran y cynnwys ei hun fodd bynnag, rhaid cyfaddef fy mod yn gweld eisiau ychydig o gynnwys 'y papur newydd traddodiadol' rhyw fymryn, gan fod y cynnwys yn fy nharo fel rhywbeth tebycach i gynnwys cylchgrawn. Er gymaint i mi fwynhau colofn Huw Stephens, adran Sôn am sîn a'r Wilibowan gyda'r Welsh Whisperer, tybed a ydy'r doniol a'r dwys yn cydbwyso?
A oes lle am fwy o ddeunydd newyddiadurol 'caled' ei naws? Wedi'r cyfan, papur 'newyddion' yw hwn ac mae craffu ar lywodraeth a bywyd cyhoeddus Cymru, yn ogystal â thorri straeon newydd, gwreiddiol yn hanfodol i wasanaeth newyddion gwerth ei halen.
Rhaid cofio, hefyd, am yr heriau sydd yn wynebu newyddiadurwyr ar draws Cymru gyda chyllidebau cyfyng a chynulleidfaoedd sydd, ar y cyfan, yn lleihau. Rwy'n cofio'r disgwyliadau yng nghylch papur newydd y New Day nôl yn 2016, ond plygu ar ôl deufis oedd ei ffawd oherwydd diffyg gwerthiant.
Y difrifol a'r digri'
Serch yr heriau oll, rhaid cyfaddef fy mod wedi mwynhau darllen y papur ac, am unwaith, wedi darllen bob tudalen ohono oherwydd y rhychwant o straeon y mae'n ei gynnig, o'r difrifol i'r digri'. Yn ogystal, rwy'n croesawu papur newyddion Cymreig tebyg i gylchgrawn cyn diffyg papur, unrhyw ddydd.
Mae'n cwestiynu eto felly, ai dyma'r newidiadau sydd eu hangen i ddyfodol papurau newydd er mwyn apelio a denu darllenwyr o bob oed, hen a newydd? A fydd digon o bobl yn mynd allan heddiw i brynu'r Cymro, i dalu am y cynnwys sydd yn amhosib ei greu am ddim?
Mae pobl Cymru angen papur y bydd yn addysgu, bydd yn gwneud cyfraniad at economi gynaliadwy ond yn bwysicach oll, papur a fydd yn cyfrannu at greu democratiaeth iach unwaith yn rhagor.
Croeso nôl Y Cymro.
Fel rhywun sydd erioed wedi darllen Y Cymro o'r blaen, roedd hi'n bleser gallu darllen y papur am y tro cyntaf yn yr argraffiad newydd hwn. Mae'n hynod o bwysig cael papur cenedlaethol yn y Gymraeg ac rwy'n credu bod y papur yn cyfrannu'n dda i'r wasg a newyddiaduraeth Cymraeg. Rydw i'n hoffi'r dyluniad gan ei fod yn syml, mae'r papur yn hygyrch iawn ac yn hawdd i'w ddarllen, sydd yn hynod o bwysig wrth ddarllen papur newyddion.
Wnes i fwynhau darllen y nifer fawr o golofnau, ac yn mwynhau darllen am bynciau amrywiol megis gwleidyddiaeth, teledu a chwaraeon. Fel myfyriwr newyddiaduraeth roeddwn i'n hapus i allu darllen papur yn y Gymraeg am newyddion Gymraeg. Mae yna sicr wedi bod diffyg newyddion Cymraeg ar gael am rhai blynyddoedd ac felly dwi'n gobeithio bydd Y Cymro yn medru llenw'r bwlch sydd yna ar hyn o bryd.
Rydw i'n mwynhau darllen papurau newyddion ac mae'r Cymro yn bapur byddai'n parhau i ddarllen. Mae'r cynnwys amrywiol yn fy marn i yn apelgar i'r Gymry Cymraeg ac rwy'n siŵr bod nifer o bobl am barhau i ddarllen Y Cymro newydd.
Dim dyfodol i bapur dyddiol Cymraeg
Yn anffodus, dydw i ddim yn credu bod yna ddyfodol i bapur dyddiol Cymraeg mewn print. Er fy mod i'n mwynhau ei ddarllen, credaf bydde'n well gen i ddarllen erthyglau ar lein yn hytrach na rhifynnau llawn bob diwrnod. Mae'r ffordd rydym yn derbyn ein newyddion erbyn hyn wedi newid ac felly mae defnyddio apiau, gwefan neu gyfryngau cymdeithasol yn ffordd llawer haws yn fy marn i o gyhoeddi ac i adeiladu cynulleidfa er mwyn darllen y cynnwys.
Bydde'n well gen i ddarllen rhifyn llawn unwaith yr wythnos, neu yn fisol fel Y Cymro yn hytrach na phapur dyddiol. Credaf mi fydd hyn hefyd yn helpu i lwyddo denu darllenwyr ifanc i'r Cymro, sydd yn bwysig iawn i'w wneud yn fy marn i.
Ond i sicrhau bod pobl ifanc yn darllen Y Cymro, rhaid gwneud yn siŵr bod y cynnwys hefyd yn apelio atyn nhw. Mwynheais ddarllen yr adran chwaraeon a hefyd yr adran gerddoriaeth, ac rwy'n siŵr bod hyn yn sicr o dal diddordeb darllenwyr ifanc i'r papur. Bydd colofnau rheolaidd ar bynciau tebyg i hyn, ac adolygiadau gemau chwaraeon a gigs cerddoriaeth o'r sîn Gymraeg yn sicr o gadw diddordeb darllenwyr ifanc yn y papur.
Hoffwn hefyd weld defnydd o ffotograffiaeth er mwyn cyflwyno gwybodaeth ar faterion megis Brexit a datganoli er mwyn gwneud y wybodaeth yn haws i'w ddeall gan bawb o bob oedran.
Yn sicr mwynheais i'r Cymro newydd ac rwy'n edrych ymlaen at ddarllen mwy yn y dyfodol.